| |
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Y S锚r: Dustin Hoffman, Natalie Portman, Jason Bateman, Zach Mills
Cyfarwyddo: Zech Helm
Sgrifennu: Zech Helm
94 munud.
Adolygiad gan Shaun Ablett
Dyn 243 oed sy'n rhedeg siop deganau hudol ydy Mr Magnoruim (Dustin Hoffman) gyda merch o'r enw Molly (Natalie Portman) a bachgen o'r enw Eric (Zach Mills) yn ei helpu.
Ymhlith y llawer o bethau rhyfedd sydd yn y siop mae drysau sy'n gallu symud a theganau sy'n cerdded.
Ydy, mae'r siop hon yn fyw.
Gan nad yw eisiau parhau i'w rhedeg mae Mr Magnoruim am i Molly gymryd drosodd er nad yw hi yn bl锚s iawn 芒 hyn.
Cyn gadael, mae Mr Magnoruim yn cyflogi cyfrifydd o'r enw Henry Weston (Jason Bateman) ond yn anffodus nid yw ef yn hoffi plant nac yn credu mewn hud a hynny'n peri i'r siop fynd yn grac a'r cwsmeriaid o'r herwydd i gyd yn diflannu.
Cyn i Molly fedru ei berswadio i barhau i ofalu am y siop mae Mr Magnoruim marw a'r siop oedd mor lliwgar yn colli ei lliw a throi'n llwyd.
Pan yw Weston yn dechrau sylweddoli pa mor hudol yw'r siop mae ef ac Eric yn dod yn ffrindiau, y siop yn derbyn Molly yn rheolwr ac yn adennill ei lliw!
Dyma'r math o ffilm ar gyfer y rhai hynny fwynhaodd Charlie and the Chocolate Factory - a dyna un o'i phroblemau fel ffilm gan ei bod yn ymdrechu'n rhy galed i fod fel y Chocolate Factory a'i thebyg.
Er bod actor hynod o enwog ynddi nid dyma berfformiad gorau Dustin Hoffman er ei fod yn hynod o ddoniol.
Mae Natalie Portman yn dda iawn a Zach Mills yn foddhaol fel Eric.
Ffilm ar gyfer y gynulleidfa ifanc yw hon ac yn berffaith ar gyfer plant bach.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|
|