American Gangster (2007)
Y S锚r: Denzel Washington, Russell Crowe, Chiwetel Ejiofor, Josh Brolin,
Cuba Gooding Jr
Cyfarwyddo: Ridley Scott
Sgrifennu: Steven Zaillian
Hyd: 157 munud
Adolygiad gan Shaun Ablett
Mae cyfarwyddwr enwoca'r byd, Syr Ridley Scott, n么l unwaith eto gyda ffilm fythgofiadwy sy'n mynd i fod yn llwyddiannus a mawr ei chanmoliaeth dros y byd.
Nid oes llawer o gyfarwyddwyr sydd mor llwyddiannus 芒 hyn ac fe gwympais i mewn cariad 芒 gwaith Ridley Scott ar 么l gweld Gladiator.
Mae'r ffilm ddiweddaraf hon ganddo wedi ei seilio ar ddigwyddiadau go iawn yn y Saithdegau ac ymdrechion plismon gonest iawn, Richie Roberts (Russell Crowe), i gorlannu troseddwr o'r enw Frank Lucas (Denzel Washington) a ddechreuodd ar ei yrfa fel gyrrwr car i'r gangiau gan ddod yn un o smyglwyr cyffuriau mwyaf llwyddiannus Efrog Newydd.
Yn glyfar, daeth Lucas yn ddyn cyfoethog iawn trwy brynu'r cyffuriau yn syth o Fietnam ac wedyn eu gwerthu'n rhad yn yr America.
Dim ond aelodau o gangiau Lucas, a Roberts y plismon, sy'n gwybod y gwir am Lucas gan fod pawb arall, gan gynnwys ei wraig, yn ei ystyried yn ddyn caredig a da sy'n rhoi llawer o arian i elusennau.
Mae'n ffilm sy'n cyrraedd diweddglo bythgofiadwy.
Yn naturiol, mae'r actio yn wych gyda Russell Crowe a Denzel Washington yn actorion sydd wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys Oscars.
Ond o'r ddau gan Denzel Washington y cawn y perfformiad gorau yn y ffilm hon, fel Frank Lucas.
Dangosir pa mor glyfar a chreulon oedd Lucas n么l yn y Saithdegau a'r effaith y mae defnyddio cyffuriau yn ei gael ar fywydau pobl.
Gyda chyfarwyddwr ac actorion enwog mae'r ffilm yr union beth ar gyfer rhai sy'n mwynhau stori a neges mewn ffilmiau, yn ogystal 芒'r cyffro arferol.
Fe'i neilltuwyd ar gyfer rhai dros 18 gan fod cymaint o regi, trais a noethni ynddi.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|