V for Vendetta V ydw i ydw i ydw i . . .
Y s锚r
Natalie Portman, Hugo Weaving, Stephen Fry, John Hurt, Stephen Rea
Cyfarwyddo
James McTeigue
Sgrifennu
Y brodyr Andy a Larry Wachowski ar sail comic Alan Moore a David Lloyd.
Hyd
132 munud
Sut ffilm
Batman yn cyfarfod Winston Smith, 1984.
Y cefndir
Yn 1989 cyhoeddodd Alan Moore a David Lloyd nofel ar ffurf stribed comic yn ymateb i Thatcheriaeth.
Yn ei stori, V for Vendetta rhododd Alan Moore hanes brwydr arwr mantellog - mewn het corn hir ac yn gwisgo mwgwd ar ffurf wyneb Guy Fawkes - yn erbyn llywodraeth unbenaethol, ffasgaidd, a ddaeth i rym yn Lloegr.
Ei nod - fel Fawkes o'i flaen - oedd chwythu 'n deilchion y Senedd yn Llundain.
Cafodd y comic dderbyniad cynnes ymhlith gwrthwynebwyr Thatcher a'i dull o lywodraethu.
Y comic alegoriol hwnnw, gyda rhai diweddariadau, sydd yn awr wedi ei droi yn ffilm gan y brodyr Wachowski gwneuthurwyr y Matrix. Cafwyd James McTeigue a oedd yn cynorthwyo ar y Matrix i gyfarwyddo.
Y stori
Mae hi'n 2020 a Lloegr dan ormes teyrn o Ganghellor unbenaethol, Adam Sutlet (John Hurt) - ac nid llithriad Freudaidd fu teipio 'Lloegr' yn y frawddeg hon gan mai at Loegr y cyfeirir dro ar 么l tro yn y ffilm gan beri i rywun feddwl fod llywodraethau addfwynach a thecach ym Mae Caerdydd a Chaeredin.
Ar y llaw arall, efallai mai anallu Hollywood i wahaniaethu rhwng Prydain a Lloegr sydd yma.
Beth bynnag am hynny, mae Lloegr dan ormes Sutler a'i oruchwyliaeth haearnaidd lle mae pobl ddiniwed yn cael eu cymryd i'r ddalfa heb reswm, fyth i'w gweld eto. Lle mae hoywon yn cael eu dienyddio ac y mae'n drosedd bod 芒'r Koran yn eich meddiant.
Mae yna Ministry of Objectionable Material yn gwahardd gweithiau celf a llyfrau anghymeradwy yng ngolwg y Llywodraeth.
Ond y mae un g诺r dienw sy'n galw ei hun yn 'V' ( am Vendetta) (Hugo Weaving) sy'n ymladd yn erbyn y camwri hwn.
Yn gwisgo mantell ddu, het gorn hir a mwgwd ar ffurf wyneb Guy Fawkes y mae o'n gweithredu i ddymchwel y Llywodraeth a Sutler sy'n amenio pob un o'i ddatganiadau gorffwyll 芒'r geiriau, "England prevails".
Trowyd V yn ddialydd wedi iddo gael ei losgi y tu draw i adnabyddiaeth wedi bwrw tymor yn wrthrych yn un o sefydliadau arbrofion gwyddonol y Llywodraeth.
Yn ei gynorthwyo ef y mae merch ifanc o'r enw, a dyma ichi gyd-ddigwyddiad, Evey (Natalie Portman) a achubwyd ganddo rhag ei threisio gan blismyn lled-swyddogol y Llywodraeth - y Fingermen dychrynllyd - pan oedd hi allan yn hwyr y nos ar strydoedd Llundain.
Mae V yn cyhoeddi y bydd, ymhen blwyddyn, yn chwythu'r Senedd ar Dachwedd 5 er mwyn rhoi cychwyn ar wrthryfel a fydd yn adfer i'r bobl eu rhyddid.
Y canlyniad Ffilm gymysglyd ac yn un y penderfynwyd, oherwydd byrdwn ei stori, ohirio ei rhyddhau fis Tachwedd y llynedd yn pan oedd y ffrwydradau terfysgol yn Lludain mor fyw yng nghof pobl.
Mae yma adlais o sawl ffilm yma wrth gwrs. Adlais amlwg o ffilmiau am arwyr mantellog a mygydaidd eraill fel Zorro, Batman a Spider-Man a'u brwydrau dros y diamddiffyn mewn cymdeithas.
Mae adlais, wedyn, o Phantom of the Opera a Beauty and the Beast yn y stori garu rhwng Evey a V.
Ond am 1984 y mae rhywun yn meddwl yn bennaf a go brin mai dim ond cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith mai John Hurt - a chwaraeai ran Winston Smith yn y fersiwn ffilm a wnaed yn 1984 o nofel Orwell, 1984- a ddewiswyd i chwarae y teyrn, Sutler.
Y mae llawer yn V i'n hatgoffa o'r nofel honno gan gynnwys Sutler yn cyfathrebu a'i wlad a'i weision trwy gyfrwng sgr卯n anferth.
Mae'n ffilm sy'n codi nifer o gwestiynau - nid lleiaf yngl欧n 芒 cphriodoldeb defnyddio terfysgaeth i sicrhau cyfiawnder.
Wedi'r cyfan, er mor gymeradwy yw bwriadau V dialydd yw yn ei hanfod. Dial y mae am yr hyn a wnaeth y Llywodraeth iddo ef yn bersonol.
Ond chwythu adeilad y mae i sicrhau ei ddiben gan ddweud nad adeilad (y senedd yn San Steffan) yw angen y bobl ar hyn o bryd ond gobaith ar gyfer y dyfodol.
Er mor ragorol ei bwriadau mae i V nifer o ddiffygion fel ffilm gan fod yn llawer rhy drwsgl ac anghelfydd.
Ar adegau, mae rhywun yn ansicr hefyd beth yn union mae hi'n ceisio'i ddweud wrthym megis mewn golygfa yn dilyn carcharu Evey.
Mae tuedd i lusgo hefyd, er gwaethaf ymdrechion i ddod ag ambell i dro annisgwyl i'r stori.
Er bod digon yma i sicrhau gwrandawiad mae elfen o siom hefyd
Ambell i farn
Hyd yn hyn ni fu'r adolygwyr yn rhy garedig gyda V - ac, yn wir, fe fydd rhai yn teimlo iddyn nhw fod yn rhy angharedig 芒 hi.
Daeth Peter Bradshaw yn y Guardian i'r casgliad fod y ffilm yn "weird, bizzare and baffling" mewn ffordd cwbl syrffedus gan ddweud fod ei gwylio yn cael yr un effaith ag amddifadu eich ymennydd o ocsigen dros gyfnod o ddwy awr. Gan gyfeirio at duedd V i ddyfynnu o Shakespeare mae'n ei gyhuddo o fod wedi hepgor yr unig ddyfyniad gwir berthnasol, y geiriau hynny am "a tale told by an idiot". Yn y Spectator mae Olivia Glazebrook yn cyfeirio ati fel ffilm chwerthillyd sy'n troi'n blagus.Er nad yw neb yn uchel iawn ei ganmoliaeth dydi pawb ddim mor llawdrwm. Mae gwefan Saesneg y 成人快手 yn cyfeirio at yr holl syniadau sy'n cael eu gwyntyllu ac at ddau 'ddigwyddiad' trawiadol. Ond tra'n dweud fod y ffilm yn procio mae'n gorfod cydnabod hefyd nad yw'n cyffroi nac yn gafael fel stori.
Yn yr Observer dywed Philip French mai'r peth mwyaf clyfar am y ffilm yw ei llwyddiant yn troi dialydd terfysgol yn arwr gan aros yn wleidyddol gywir ar yr un pryd.
Perfformiadau Anodd gwybod beth i'w wneud o berfformiad actor nad ydym yn gweld ei wyneb gydol y ffilm. Llefaru o'r tu 么l i fwgwd y mae Hugo Weaving gydol yr amser gan roi'r argraff o bwped yn siarad. Mae'r w锚n barhaol yn gwylltio rhywun erbyn y diwedd. Weithiau, pan yw'n dyfynnu o Shakespeare yn fwyaf arbennig, mae geiriau'n cael eu colli. Wnaeth Natalie Portman druan fawr o argraff ffafriol ar neb gyda sawl un yn cael hwyl am ben ei hacen Saesneg Lloegr. Yn wir mae'r Guardian yn cyfeirio ati fel actores y gellir dibynnu arni i fod yn ofnadwy -"reliably terrible". Er bod "ofnadwy" yn air llawer rhy gryd]f ar sail y perfformiad hwn, dydi hi ddim yn dod a llawer o fywyd i'r rhan.Actor lled ymylol sydd yn gwneud argraff fodd bynnag ydi Stephen Rea fel yr heddwas sydd ar drywydd V.
Rhai geiriauNi ddylai pobl fyw mewn ofn o'u Llywodraeth - llywodraethau ddylai fod ofn y bobl.Ein gwaith ni yw adrodd y newyddion nid ei greu - gwaith y Llywodraeth yw hynny.Mae artistiaid yn defnyddio celwyddau i ddweud y gwir.Dydw i ddim eisiau iti farw. - Dyna'r peth hyfrytaf a ddywedwyd wrthyf erioed.
Gwerth ei gweld Anwybydded y beirniaid - er gwaethaf amryfal ddiffygion mae rhywbeth yma i gnoi cil arno. A pheidiwch a cholli'r olygfa dominos a'r ffrwydrad terfynol.
Edrych ymlaen Basic Instinct 2 - gyda Sharon Stone unwaith eto.
Silent Hill - dychryn a braw.
Da Vinci Code - hyd yn oed i'r rhai sydd heb ddarllen y nofel!
Three Burials - Ffilm gowboi fodern gyda Tommy Lee Jones.
Inside Man - efo Spike Lee, Clive Owen a Denzel Washington
Extrano - bywyd unig llawfeddyg o'r Ariannin.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|