
Shrek 2 I blant ac oedolion
 
Y s锚r Mike Myers, Eddie Murphy, Cameron Diaz, Antonio Banderas, Jennifer Saunders, John Cleese, Julie Andrews
Cyfarwyddo Andrew Adamson, Kelly Asbury, Conrad Vernon
Sgrifennu J David Stern, Joe Stillman, David N Weiss
Hyd 92 munud
Sut ffilm Dilyniant i'r ffilm gartwn Shrek gyda phob math o ddefnyddiau wedi'u paratoi i wneud i blant swnian yn y siopau.
Ffilm ar gyfer plant yn bennaf ond yn ddigon aeddfed ar gyfer oedolion hefyd.
Yn barod mae o wedi gwneud arian anhygoel yn yr Unol Daleithiau wrth i bobl ddychwelyd i'w gweld fwy nag unwaith.
Cymaint y llwyddiant maen nhw'n s么n yn barod am Shrek 3 a 4!Y stori Pa stori? Yn Shrek 1 priodwyd y bwystfil gwyrdd, Shrek (llais Mike Myers) 芒'r dywysoges Fiona (Cameron Diaz) ac yn awr mae hi am i'w rhieni, Brenin a Brenhines gwlad Pell Pell i Ffwrdd (Far Far Away) (John Cleese a Julie Andrews) gyfarfod ei gwr.(
Dydyn nhw ddim yn lecio be welan nhw wrth gwrs a thrwy drefniant a'r Fairy Godmother (Jennifer Saunders) maen nhw'n cynllwynio i'r Tywysog Golygus ei mab (Rupert Everett) ennill calon Fiona.
Yn y gred mai'r hyn a deimla'r galon yn hytrach na'r hyn a wel y llygaid sydd wrth wraidd gwir gariad mae Shrek a Fiona yn sicrhau gwasanaeth Pws Mewn Sgidiau (Antonio Banderas) i ymladd y cynllwyn.
Ar gael drwy'r amser gyda rhywbeth bachog a doniol i'w ddweud mae'r Mul (Eddie Murphy), cymeriad doniolaf y ffilm a'r un gyda'r llinellau gorau!Ambell i farn Pleserus ond heb ddangos rhyw ddychymyg mawr yn 么l gwefan Saesneg y 成人快手 a welodd fwy o stori yn Finding Nemo.
Cawn ein hannog gan feirniad arall ar y we i fynd "yn bell bell i ffwrdd" o unrhyw sinema sy'n dangos Shrek ond "dyfeisgar a deallus" oedd barn beirniad y Guardian sy'n dweud hefyd fod popeth yn y ffilm o safon uchel gan holi pam na all pob ffilm animeiddio fod chwarter gystal a hon. "Rhaid ichi fod yn anghenfil go iawn i beidio'i mwynhau," meddai.
Perfformiadau Gan Murphy mae'r llinellau gorau ond mae parodi Banderas o Zoro yn hwyl hefyd.
Gystal 芒'r trelar? Ydi
Y canlyniad Does yma ddim i drethu deallusrwydd neb ac er nad oes gwreiddioldeb mawr ychwaith - rhaid disgwyl am gartwn diweddaraf stabl Finding Nemo am siarc sy'n llysieuydd am hynny, mae ei drelar yn addawol iawn. Tan hynny mae Shrek 2 yn gwbl dderbyniol.
Gwerth mynd i'w gweld Gyda - neu heb - y plant.Cyfrwch Sawl parodi o ffilmiau eraill neu gyfresi teledu sydd yn y ffilm.
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
|