Cynhwysir copi yng nghyfrol ddiddorol David Lloyd Hughes a D. M. Williams, sef Holyhead - The Story of a Port (Holyhead 1967), tt. 88-89.
Safai T欧 Lantern ar y llethrau y tu 么l, ac uwch i fyny na'r Doc Bach (Government Graving Dock gynt), sef pen draw y lanfa bysgod heddiw. Yr oedd un talcen i'r t欧 yn wynebu'r m么r rhwng Ynys Rug a'r pier, neu'r lanfa ddeheuol (South Pier). Yn y gwyll arferai perchennog y tyddyn oleuo lamp olew, a'i hongian yn ffenestr y llofft a oedd a'i thalcen tua'r m么r. Dywedir bod golau'r lamp yn gymorth i'r hen longau hwyliau lanio yn y nos. Wrth iddynt gadw'n gyson mewn lein a'r golau, haws oedd iddynt hwylio i'r porthladd. Cyfeirir at y lle weithiau fel math o oleudy bach cynnar y dref; yn sicr roedd yno olau cyn codi goleudy ym mhen draw'r morglawdd mawr, er bod goleudy ger Ynys Halen ac ar Lanfa'r Morlys. Fel yna,
meddir, y cafodd tyddyn T欧 Lantern ei enw. Fe'i
dymchwelwyd yn 2001. Diolch i Mr Gareth Williams, Cae Braenar am y llun a'r hanes.
Meirion Llewelyn Williams
 |