Cafodd Iona, Barbara, Lynne, Margaret ac Audrey o ardal Bro Alaw gyfnod o asesiad a hyfforddiant manwl dan arweinyddiaeth arbenigwyr yng Nghanolfan Beacon Climbing yn Llanrug a'r Waunfawr cyn mentro i Lanfairpwll dydd SuI, 23 Medi ar gyfer y gamp eithaf abselio i lawr T诺r Marcwis!
Roedd yn ddiwrnod sych ond gwyntog pan gamodd pob un yn ei thro dros yr ymyl.
Y pump yn ddiogel mewn helmed a harness ... ond a'i chalon yn curo ychydig yn fwy cyflym nag arfer efallai!
Pwrpas y fenter oedd codi arian at Diabetes Cymru, Yr Ambiwlans Awyr, T欧 Gobaith ac Ambiwlans Caergybi.
Wedi i'r pump anturus gyrraedd terra firma unwaith eta, roedd cyfanswm anrhydeddus o 拢1,400 wedi ei ychwanegu i'r coffrau.
Barn pob un o'r fenter - dim ond un gair: Awesome!
Mae'r pump wedi cael blas ar wthio'u hunain i'r eithaf - felly edrychwch allan am y fenter noddedig nesaf, a thyrchwch yn ddyfn i'ch pocedi!
|