成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Mr Geraint Elis, Mrs Gwenan Beastson, cyng Bessie Burns, Mr Arthur James Huws. Sicrhau bydd y ffrwd yn dal i lifo
Awst 2004
Mae Ffrwd Win wedi gwasanaethu ardal Llanfaethlu a Llanfwrog ers tua 125 o fllynyddoedd gan ddefnyddio'r un adeilad.
Bellach cafwyd adeilad newydd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Yr hyn sy'n unigryw yw fod penderfyniad wedi ei wneud i gadw'r ysgol ar yr un safle - yng nghefn gwlad M么n.

Mae Ffrwd Win yn union ar ffin plwyfion Llanfaethlu a Llanfwrog a phenderfynwyd fod gormod i'w golli drwy symud yr adeilad i un newydd a fuasai'n agosach i'r pentref.

Mae gan addysg yng nghanol cyfoeth amgylchfyd mor naturiol a Ffrwd Win gymaint i'w gynnig i blant yr ardal.

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yma cafwyd tri dosbarth newydd ac yna yn yr ail ran o'r adnewyddiad cafwyd ail-wampio'r hen adeilad gwreiddiol i wneud neuadd, toiledau a chegin safon uchaf. Ffrwd Win oedd yr ysgol olaf ym M么n lle roedd y gegin tu allan i'r prif adeilad fel bod angen troli i ddod a'r cinio i'r dosbarthiadau.

Mae'r holl adeilad nawr yn ddelfrydol dros ben ac mae'r pensaerniaeth newydd wedi sicrhau fod yr hen ymdeimlad traddodiadol yn parhau.

Roedd y neuadd newydd yn orlawn o rieni, cyfeillion a gwahoddedigion. Cafwyd sgyrsiau addas iawn i ddathlu'r achlysur gan Mrs Gwenan Beatson, Is-gadeirydd y Corff Rheolaethol, y Cynghorydd Bessie Bums, Cadeirydd Cyngor Ynys M么n a Mr Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden.

Dywedodd Mr Arthur James Huws, y Pennaeth: "Mae'n galondid mawr cael gwybod bydd plant yr ardal yma yn derbyn eu haddysg mewn amgylchfyd hynod unigryw a hynny r诺an mewn adeilad gorau bosib. Mae'n galondid i bawb fod yr Awdurdod yn buddsoddi cymaint o adnoddau mewn ysgol wledig. Gobeithio bydd i'r ardal fanteisio i'r eithaf o'r ymroddiad.yma."

Cafwyd gwledd o gyflwyniad gan y plant. Portreadwyd y blynyddoedd o 1879 i 2004 mewn darluniau ar lafar ac ar g芒n gan blant Blwyddyn 3, 4, 5 a 6.

Fel sawl ardal arall Seisnigeiddiwyd y fro hon, ond Cymraeg rhugl a glywyd gan bob plentyn a gymerodd ran. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Hamdden bwysigrwydd yr Ysgol Fach leol a siarsodd ar yr ardalwyr i sicrhau canrif a chwarter arall o ffrydio addysg yn Ffrwd Win.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy