成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Lucy, M茅lanie a Sarah Taith gyfnewid 芒 Llydaw
Medi/Hydref 2004
Yn ddiweddar roedd rhai disgyblion Blwyddyn 9 o'r ysgol wedi croesawu 41 o ddisgyblion o Lydaw yn Ffrainc.

Roedd pawb yn llawn cyffro yn disgwyl i'r disgyblion gyrraedd yn yr ysgol tua 9.30 o'r gloch ar nos Sul. O'r diwedd dyma'r bws crand yn cyrraedd yr ysgol ac roedd pawb yn nerfus gan doedd neb yn adnabod y disgyblion o Lydaw. Roedd dau ddosbarth o Fodedern wedi bod yn cysylltu 芒'r disgyblion gan ysgrifennu at ei gilydd.

Ar 么l i Mrs Carol Gruffydd siarad gyda'r athrawon o Lydaw roedd y disgyblion o'r ddwy wlad yn dechrau siarad ac yn gweld pwy oedd yn aros gyda pwy. Ar 么l 10 o'r gloch roedd pawb ar ei ffordd adra gyda'u ffrindiau newydd. Corentin a Quentin oedd yn aros efo fi.

Ar y dydd Llun roedd y Llydawyr wedi dod gyda'u ffrindiau newydd i weld yr ysgol. Roedd pawb wedi gwirioni gweld y plant newydd ac roedd pawb yn mynd at y Llydawyr i'w cyfarfod. Roedd y disgyblion o Lydaw wedi cael ychydig o wersi fel Drama a Saesneg yn ystod y dydd.

Ar 么l dydd llawn hwyl yn yr ysgol roedd mwy o hwyl i ddod yn yr Hwylfan yng Nghaernarfon ac roedd yr athrawon wedi bod yn hel pres gan werthu ticedi raffi a'r wobr oedd 2 diced i fynd i'r Hwylfan am ddim! Erbyn 6 o'r gloch roedd pawb wedi cyfarfod ei gilydd yn yr ysgol, roedd Miss Awel Glyn yn mynd 芒'r bws mini o'r ysgol i'r Hwylfan ac roedd y disgyblion o Lydaw yn mynd ar eu bws nhw.

Aeth yr amser yn gyflym a roedd pawb wedi cael hwyl ac roedd hyd yn oed Mrs Gruffydd wedi mynd ar y sleid fawr!! Am hwyl!!!

Ond am 8 o'r gloch roedd pawb yn gorfod mynd adref gan bod amser wedi ffl茂o a doedd dim amser ar 么l i ni gael fwy o hwyl! Roedd pawb wedi cyrraedd yr ysgol y saff, hyd yn oed Miss Glyn hefo'r bws mini!! Ac roedd pawb yn barod i fynd adref ar 么l cael noson llawn hwyl!

Ar y dydd Mawrth, dydd Merched a dydd Iau roedd y Llydawyr yn mynd ar dripiau i lefydd fel Ynys Lawd, Llandudno a Llanfairpwll ac ar 么l cyrraedd adref o'r tripiau roedd y disgyblion o Fodedern yn gwneud pethau gyda'r Llydanwyr am weddill y dydd.

Roedd rhai disgyblion wedi mynd i Fae Trearddur i'r traeth i chwarae p锚l-droed. Roedd rhai wedi mynd 芒 nhw ar y cwch achub.

Ond ar y nos Iau roedd yno barti wedi cael ei drefnu gan Mrs Gruffydd i bawb fynd i Westy'r Fali am noson llawn hwyl eto! Roedd Mrs Gruffydd yn dawnsio hefyd yng nghanol y disgyblion! Roedd pawb unwaith eto yn dechrau adnabod ei gilydd yn well gan siarad mwy a mwy!

Ond ar 么l i bawb ddechrau adnabod ei gilydd yn well roedd hi yn amser i'r Llydawyr fynd adref! Roedd llawer o'r ddwy ysgol yn crio gan ddweud Au revoir a Good bye.

Roedd pawb tu allan i'r gwesty yn rhoi hygs i'w gilydd gan ddweud tara! Tua 12.15 o'r gloch cychwynnodd y bws i Ffrainc gan obeithio ein bod ni am fynd i Lydaw i weld nhw flwyddyn nesa!! Roedd hi yn ddistaw yn yr ysgol y diwrnod wedyn gan bod pawb yn dechrau colli eu ffrindiau newydd.
Calvin

Ar gychwyn mis Mehefin daeth criw o Lydawyr i aros hefo disgyblion Bl 9 a 10. Aurelia a Laure oedd yn aros efo fi. Roeddynt yr un oed 芒 mi. Ychydig iawn o Saesneg oeddyn nhw yn siarad!

Daeth y 41 disgybl i'n hysgol ni dydd Llun a chaed gwersi a chawsom gyfle i ddod i'w hadnabod.

Cawsom hwyl yn yr Hwylfan ac yng Ngwesty'r Fali a chan ei bod hi'n noson olaf iddyn nhw gwnaethom yn siwr eu bod yn cael hwyl.

Roedd y rhan fwyaf ohonom, yn cynnwys fi, yn drist nad ydym am eu gweld am amser maith. Dwi'n edrych ymlaen i fynd i weld eu cartrefi nhw y flwyddyn nesa.
Kimberley, 9A

Cefais ddwy eneth o Lydaw, Sonia a Sandrine, i aros. Genethod digon hwyliog a ffeind. Dysgais dipyn o'r iaith Lydaweg ganddynt. Doeddwn i ddim eisiau dweud ta-ta oherwydd daeth y tair ohonom yn ffrindiau da iawn.
Llinos, 9A

Fy enw i yw Ffion a chymerais i ddau o hogiau o Lydaw, Lomig a Levin, ac roeddynt yn gwrtais a chefais lawer o hwyl efo nhw. Doeddwn i ddim eisiau iddynt fynd adra. Roeddan nhw wrth eu bodd hefo'r Playstation.
Ffion, 9A

(Gadawyd yr adroddiad yma allan o adroddiad yr ysgol ym mis Awst.)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy