成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
capel newydd Tystion Jehofa Tystion Jehofa
Hydref 2007
Cychwyn Tystion Jehofa a'u pwyslais cynnar ar ail-ddyfodiad Crist.
Yn rhifyn Gorffennaf euthum yn 么l fil a hanner o flynyddoedd i gyfnod yr Eglwys Geltaidd gyda Padrig yn adeiladu ei gell ar y clogwyn uwchben y m么r, lle saif Hen Eglwys Padrig heddiw.

Yn rhifyn Awst euthum yn 么l ddau gan mlynedd i gyfnod cynnar Ymneilltuaeth M么n gyda'r Parchedig Christmas Evans yn dod i bregethu i gapel a adeiladodd y Bedyddwyr ym Mhont-rhyd-y-Bont.

Y mis hwn rwy'n gyfoes, oherwydd ar fy ffordd o Gaergybi heddiw gwelais gapel newydd yn cael ei adeiladu ar gwr y dref.

Roedd yn tresio bwrw, ond y gweithwyr fel morgrug yn gweu drwy'i gilydd a'r adeilad yn mynd i fyny o flaen fy llygaid. Bu'n rhaid i mi gael codi fy llaw arnynt, ac er fy mawr syndod cefais ymateb gwres-galon. Nid oedd ganddynt y syniad lleiaf pwy oeddwn ond cododd llawer ohonynt eu hetiau caled a gwenu.

Yng ngwres eu brwdfrydedd roeddynt yn cael hwyl yn y glaw. Ar y ffordd adre drwy Fali gwelais adeiladau eraill ar hanner eu codi, ond y gweithwyr i gyd yn llechu!

Deallais mai Tystion Jehofa oedd yn adeiladu'r capel newydd, a hwythau wedi bod yn addoli yn Ffordd Holborn am flynyddoedd. Mae dramodwyr wedi hen arfer eu cymeriadu drwy gnoc ar y drws a chymeriad yn mynd i'w agor a dychwel i ddweud yr un hen linell, 'Tystion Jehofa'.

Ac fel rhai sy'n curo ar ddrysau rydym ninnau'n eu hadnabod. Flynyddoedd yn 么l byddai'r Mormoniaid yn gwneud yr un peth, fesul dau, ond nid wyf wedi eu gweld hwy o gwmpas ers amser maith.

Fel gyda phob sect mae hanes dechreuad y Tystion yn ddiddorol. Maent yn perthyn i'r un drefn o grefydda a'r Undodwyr, Mormoniaid a'r Seientiaid Cristnogol. Maent i gyd wedi dewis rhannau o'r Ffydd Gristnogol, ond nid yn ei chyfanrwydd.

Y sylfaenydd oedd Charles Russell; g诺r busnes o Bennsylvania. Roedd wedi ymaelodi gyda'r Adfentyddion ac yn credu'n gryf y doi diwedd y byd ar fryder. Drwy ddehongli digwyddiadau o'r Hen Destament a'r hyn a ddigwyddai o'i gwmpas cyhoeddodd mai 1874 oedd blwyddyn ail-ddyfodiad Crist. Ond clustiau byddar gafodd gan y gynulleidfa. Gadawodd hwy.

Wrth i 1874 ddirwyn i ben, a blwyddyn arall ar dorri, buasai rhywun yn credu y torrai Russell ei galon. I'r gwrthwyneb. Cyhoeddodd iddo wneud camgymeriad wrth rifo'r blynyddoedd a 1914 oedd y flwyddyn. Dechreuodd gyhoeddi cylchgrawn dan y teitl The Watch Tower.

Aeth 1914 heibio ac fe neidiodd i 1918, ond bu farw yn 1916. Yr arweinydd nesaf oedd Franklin Rutherford. Y peth cyntaf a wnaeth ef oedd cyhoeddi mai 1925 oedd y flwyddyn. Siomiant eto, ac o hynny ymlaen gochelwyd nodi blwyddyn a s么n am y digwyddai yn 'y dyfodol agos'.

Siomiant mwy oedd marwolaeth Rutherford yn 1942 a'r Deyrnas byth wedi gyrraedd.

Yn yr un cyfnod roedd rhai yng Nghymru'n darogan diwedd y byd hefyd, ac nid yn unlle'n fwy nag yn fy hen Goleg, Coleg Dewi Sant, Llanbedr.

Roedd rhai o'r myfyrwyr wedi sefydlu cymdeithas, 'Cymdeithas Lanbed', ac fel yr Americanwyr yn chwilio yn yr Hen Destament am arwyddion i nodi dyddiau. Cafwyd hyd i ddiwrnod ac i ffwrdd a hwy ben bore i fryncyn tu 么l i'r Coleg, ond codi wnaeth yr haul a dychwelyd wnaethant hwythau i'w darlithoedd.

Oherwydd hyn bu'r Coleg dan y lach am flynyddoedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy