成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Eglwys Llanddeusant Llanddeusant
Chwefror 2004
Cael eu cau yw tynged ein heglwysi a'n chapeli yn yr ail Fileniwm, ond ychydig cyn y Nadolig cael ei hail-agor wnaeth Eglwys Llanddeusant ...
A hynny oherwydd dygnwch aelodau'r Gymuned wrth ofalu na chai un o adeiladau harddaf M么n fynd yn adfail yng nghanol eu pentref. (Newydd da am Eglwys Llanfwrog hefyd sy'n cael ei hatgyweirio gan 诺r o Llundain).

Mae gwreiddiau Eglwys Llanddeusant yn ymestyn i lawr dros fil a hanner o flynyddoedd. Gwyddom hyn oherwydd iddi gael ei chyflwyno i ddau Sant Lladin, Marcellus a Marcellinus. Ni cheisiwyd Cymreigio'u henwau, ond dweud mai Llan dau Sant ydoedd.

Bu 1868 yn garreg filltir arall yn hanes y pentref oherwydd ar 12 Tachwedd cysegrwyd eglwys newydd yno. Ddechrau'r flwyddyn galwyd y Cyngor Eglwysi ynghyd i drafod dyfodol yr hen eglwys. Yr oedd mewn cyflwr drwg ac yn llawer rhy fach gyda'r boblogaeth yn cynyddu'n flynyddol. Pasiwyd i gael eglwys newydd ac addawodd y person y buasai ef yn rhoi darn o 'dir y person' i'w hadeiladu arno rhag gorfod amharu ar y beddau.

Oes yr uchelwyr cyfoethog oedd hi a gosodwyd y garreg sylfaen gan wraig y Commissary General H. Stanley Jones, Sgwier Llynon. Anodd credu, ond oherwydd yr haf bendigedig, cwblhawyd y gwaith erbyn Tachwedd. Rhaid cofio nad y tywydd yn unig achosodd hyn.

Yn 么l yr hanes gwirfoddolodd 107 o ffermwyr y fro i gludo cerrig o chwareli cyfagos. Defnyddiwyd marmor M么n yn y ffenestri ynghyd 芒 charreg-dywod-coch. Yr unig beth a gadwyd o'r hen eglwys oedd y fedyddfan, sydd o'r ddeuddegfed ganrif, ac yn un o'r rhai hynaf ym M么n.

Mae'n rhaid fod diwrnod y cysegru yn ddiwrnod i'w gofio. Yr adeilad yn orlawn a'r Esgob wedi dod 芒 Ch么r yr Eglwys Gadeiriol gydag ef ynghyd 芒'r organydd. Daeth offeiriaid o bell ac agos, ac yn yr orumdaith gwelwyd pawb a oedd yn rhywun ar y pryd ym M么n.

Erbyn 1968 roedd yn amser i'r Eglwys Newydd ddathlu ei chan mlwyddiant. (Cadwodd Mrs Gwyneth Jones (Bennett) lyfryn yr achlysur). Roeddwn i yn y gwasanaeth hwnnw. Y person oedd Canon Eurwyn Weldon Thomas, a gafodd ei fagu led cae o'm cartref yn Ll欧n, ac atgoffwyd fi o'r llith yng ngwasanaeth y cysegru gael ei darllen gan berson Bodedern, wel curad Bodedern mewn gwirionedd, gan mai Sgwier Treiorwerth oedd y person, ac yn berson ar sawl eglwys arall ym M么n, a churadiad yn byw ar y gwynt ganddo i wneud ei waith.

Y Parchedig E. Jones oedd yntau, a chefais y fraint o'i efelychu gan mlynedd yn ddiweddarach. Eglwys i "bawb o bobl y byd" fydd Eglwys Marcellus a Marcellinus o hyn ymlaen, a'i dyfodol am gan mlynedd eto yn ddiogel yn nwylo plant a wyrion y rhai o'r gymuned a fu'n gweithio mor galed i'w chadw ar agor. Bydd gwynt M么n hefyd yn parhau i droi esgyll y melinau cynhyrchu trydan, sydd i'w gweld ar glawr Calendr Y Rhwyd ac yn amlwg ddim yn newydd ddyfodiad drwg i gyd, yn enwedig pan yw Eglwys Llanddeusant yn y cwestiwn!

Gan Edgar Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy