成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Bwyeill efydd Darganfyddiadau
Mai 2007
Yn ddiweddar roeddwn yn edrych ar raglen deledu ddiddorol iawn yn adrodd hanes peilot hofrennydd yn edrych i lawr ar dirwedd Gogledd Orllewin M么n ar ddiwrnod crasboeth.
Gwelodd batrwm ar y ddaear rhwng y melinau gwynt. Sylweddolodd fod y patrwm yn datgelu lleoliad hen gaer.

Yn fuan wedyn daeth archeolegwyr yno a dechrau tyrchu. Er eu mawr siomiant ni chawsant hyd i ddim. Yna, a hithau bron yn amser iddynt orfod gadael, sleifiodd un ohonynt i fan corslyd ychydig yn is i lawr na'r 'gaer'.

Ymhen dim darganfu ddarnau efydd yn llechu yng nghanol mawn. Amlwg fod yna lyn wedi bod yno ar un adeg a phan gafodd y tir ei draenio daeth y mawn i'r golwg.

Fel sy'n digwydd yn aml, ychydig wedyn, clywais am ddarganfyddiad cyffelyb ger Cors Bodwrog. Ddechrau haf 1974 roedd Mr Hugh Jones, sy'n ffermio Tai Uchaf, Bodedern heddiw, yn rhoi help llaw i'r diweddar Richard Williams, Bodwrog i gladdu dafad ar g诺r y gors.

Wrth dyllu daeth Hugh ar draws 'darn o haearn'. Rhoddodd ef i'w gadw i Richard Williams. Dangosodd ef y darn i'w gyfnither, Mrs Gwyneth Lester ac yn fuan wedyn daeth Capten Lester gyda'i ddatgelydd metal i'r gors a darganfod mwy o bethau.

Gwnaeth Adran Archeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru waith ymchwil arnynt a gweld mai efydd oedd eu defnydd, a'u gwneuthuriad dros dair mil o flynyddoedd yn 么l. Bu darganfyddiad tebyg yn Llyn Cerrig Bach. Daethpwyd o hyd i lawer mwy o bethau diddorol yno, ac yn sicr mae yna drysorau yn aros i'w darganfod yng nghrombil Cors Bodwrog hefyd.

Tybir mai offrymau i'r duwiau yw'r bwyll, tarianau, cleddyfau ac yn y blaen a ddarganfuwyd dros y blynyddoedd yn llynnoedd M么n. Maent o wneuthuriad cain ac i'w defnyddio mewn seremon茂au crefyddol yn fwy nag mewn rhyfel na gwaith beunyddiol.

Mabwysiadodd Y Ffydd Gristnogol y syniad o offrymu, a hyd heddiw mewn rhai eglwysi gellwch brynu cannwyll a'i goleuo fel offrwm dros amcan arbennig.

Cysylltir y Derwyddon ag offrymu a phan ddarganfuwyd 'cadwyn y caethion' yn Llyn Cerrig Bach cadarnhawyd y gred i fodau dynol gael eu taflu i'r llynnoedd ganddynt. Ond nid oes sicrwydd am hyn. Lliwiwyd ein cred ni am Y Derwyddon gan yr hyn a ysgrifennodd y Rhufeiniaid amdanynt. Gan mai'r Derwyddon oedd eu prif elyn wrth iddynt goncro Prydain pardduwyd hwy'n erchyll ganddynt.

Nid gwaith hawdd yw ysgrifennu 'hanes' yn ddiduedd Bu'n rhaid hyd yn oed ail ysgrifennu llyfrau hanes gogyfer ysgolion Gweriniaeth Iwerddon yn y chwedegau oherwydd bod cysgod yr Ymerodraeth Brydeinig wedi dylanwadu ar ysgrifenwyr blaenorol.

Edgar Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy