Yr oedd yn gi芒t hynafol gyda dyddiad arni,1838. Mae hyn yn ei gwneud yn hawdd i'w hadnabod. Cadwch eich llygaid yn agored ac os gwelwch hi gwyddoch beth i'w wneud. Rwy'n cofio gi芒t yn cael ei dwyn o Lygar, Cemaes a honno wedi ei gwneud o lyw llong. Gwelodd y diweddar Ganon John Vevar hi mewn siop hen bethau ym Mhwllheli, ac fe ddaliwyd y lladron. O lun a oedd gan Mrs Margaret Jones, Bryndrofa gynt, llwyddodd y gof, Mr Dave North o Fali i wneud copi ohoni. Gofalodd na all neb ei thynnu oddi ar ei cholyn. (Yn ddiddorol mae gi芒t Mynwent Llanfihangel gyda'r un math o golyn). Chafodd y diafol, er fod ei wyneb i'w weld yng ngherrig y wal, mo'r llaw uchaf ar Saint Llanbabo. Mae gi芒t ar borth eu mynwent unwaith yn rhagor a'r dyddiad 1838 arni.
Ychydig cyn y Nadolig, dymunol iawn oedd cael galwad ff么n gan Mr Cledwyn Williams, T欧'r Ysgol, Llanrug. Anodd credu, ond mae bron i hanner canrif wedi mynd heibio ers pan gyfarfyddais ag ef am y tro cyntaf. A minnau'n gurad heini yng Nghaergybi, rhyw unwaith yn y mis, byddwn yn mynd ar fy meic i gymryd gwasanaeth Gosber yn Eglwys y Santes Gwenfaen, Rhoscolyn.
Awn hefyd yn awr ac yn y man i Lanfair yn Neubwll. Y rheswm am hyn oedd rhoi ychydig o amrywiaeth i'r Parchedig Reginald Banks drwy ei alluogi i gymryd gwasanaeth yn un o eglwysi'r dref. Petai'n bwrw, wel, petai'n f么r o law, roedd yn iawn imi alw am dacsi. Gwn芒i rhai o'r curadiaid rwgnach, ond roedd cael mynd i'r 'wlad', yn 么l pobl Caergybi, ac yn enwedig felly yn yr haf, a hyd yn oed yn y gaeaf ar nos olau leuad, yn rhoi pleser mawr imi. Cawn fy atgoffa o gefn gwlad Ll欧n drwy gyfarfod addolwyr o'r un cefndir 芒 mi. Dyma'r blynyddoedd y byddai Mr Cledwyn Williams yn mynychu Eglwys Rhoscolyn a chawn sgwrs ag ef wedi'r gwasanaeth.
Yr oeddwn yn rhifyn Rhagfyr o'r Rhwyd wedi gofyn am ychydig o wybodaeth am ddau o'r enwau sydd ar y gofeb yn Llantrisant. (A chyda llaw 'Croes Fuddugoliaethus' ydyw, croes fore'r Pasg, heb y Crist croeshoeliedig arni). Dyma ddywedodd Mr Williams am Huw Edwards, Penllyn: "Roedd wedi listio hefo'r Bataliwn Gyntaf o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac fe'i lladdwyd ar faes y gad yn Ffrainc, 28 Awst 1915". Rwyf wedi deall fod y nofelydd Jane Edwards (Niwbwrch) yn hanu o deulu Huw Edwards. John Jones, Penterfyn ac yntau, dau ffrind, yn listio gyda'i gilydd, ac enwau'r ddau ar y gofeb).
Wrth edrych ar gofeb Llantrisant, a hithau erbyn hyn ar ei newydd wedd, daeth i'm cof am y ffenestr hardd sydd yn y Capel Brenhinol ym Mhlas Windsor. Yng nghwareli'r ffenestr mae lluniau brenhinoedd a breninesau Prydain. Hwy fu'n gyfrifol drwy'r canrifoedd am adeiladu, ehangu a chadw a chynnal y capel.
Ond yn un o'r chwareli mae llun gweithiwr. Mae yno i'n hatgoffa, wrth inni ddotio at odidowgrwydd y ffenest a'r capel, mai i'r gweithwyr y mae'r diolch. Heblaw am eu llafur a'u crefft hwy ni fuasai yno na ffenestr na chapel. Ffrwyth llafur John O. Jones, Llangefni a Maldwyn Owen, Bont-rhyd-y-Bont sydd i'w weld ar farmor cofeb Llantristan, a mawr yw ein diolch iddynt.
(Eglurais fod gwreiddiau Gareth Owen, Fali yn Llannerch-y-medd, ac yno mae gwreiddiau John a Maldwyn. Un adeg roedd Llannerch-y-medd yn enwog am ei chryddion, ond heddiw yn amlwg am ei chrefftwyr o weithwyr).