成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Dirwest Dirwest
Ebrill 2007
Un arall sydd wedi bod yn driw iawn i'r Rhwyd drwy'r blynyddoedd yw Mr Glyn Owen (Glyn, T欧'n Don, Porth Swtan).

Galwodd heibio ddechrau'r flwyddyn, ac roeddwn yn falch iawn o'i weld yn edrych mor dda, ac yntau wedi bod yn bur wael llynedd. Mae'n esiampl i ni i gyd am ei ddygnwch.

Y tro hwn llun oedd ganddo, a hwnnw wedi ei fframio, ac fel y buasech yn disgwyl mae yna hanes iddo! Nofel, ac nid stori fer, wedi i mi holi Glyn!

Cafodd y pictiwr ei ddarganfod gan Mr Maldwyn Jones (Garej O. R. Jones, Llanfaethlu).

Mae Maldwyn am ymfudo i Hen Siop, Llanfaethlu ac yno y cafodd hyd iddo. (Wrth glywed am yr Hen Siop daeth i'm cof mai dyma'r fan lle magwyd y diweddar David Lloyd.)

Ef oedd yr un a farnodd fy mod i'n haeddu trwydded gyrru modur wedi iddo fod gyda mi un bore braf o Awst hyd strydoedd Pwllheli, a hynny'n y pum degau.

Cyn dechrau'r prawf cefais fy holi ganddo a minnau'n dweud fy mod i am gael fy anfon yn gurad i Gaergybi.

Eglurodd yntau fod ei dad wedi bod yn Weinidog yn yr un fro.

Yn sicr, yn 么l fy nghyfoedion, a hwythau'n gorfod ail drio'r prawf, bu hyn o gymorth mawr i mi dderbyn trwydded wedi'r prawf cyntaf!

Ond mae'n rhaid fy mod i wedi gwneud un camgymeriad beth bynnag oherwydd rwy'n cofio i mi egluro ar y diwedd nad oeddwn i'n bwriadu gyrru ymhell o'm cynefin.

Ei ateb oedd, "Os rho i hon i ti fe gei di ddreifio yn Piccadilly"!

Fodd bynnag, pasiodd fi. Goleuaf gannwyll iddo pan fydd Llanfigael ar ei newydd wedd!)

Aelodau 'Undeb Dirwestol Llanfaethlu' Garreglwyd sydd yn y lIun. Cafodd ei dynnu gan C. Lavington, Photographer, Llannerchymedd'.

Mae Ledi Reade yn eistedd yng nghanol yr ail res o'r gwaelod.

Cyfeiria Mr Glyndwr Thomas ati yn Nabod M么n, "fel un a gysegrodd ei hynni i wasanaeth y Mudiad Dirwestol".

Yn ifanc aeth am wyliau i Sbaen gyda'm hen daid, Thomas Love lanes Parry, ysgwier Madryn, Llyn.

Ceir eu hanes terfysglyd yn y gyfrol, Sir Love's Adventure in Spain.

Ef oedd yr un a fu'n paratoi'r ffordd i sefydlu 'Gwladfa Gymreig ym Mhatagonia', a dyna paham y ceir Puerto Madryn yn yr Ariannin.

Mae cloc mawr un o'r teuluoedd oedd ar Stad Madryn gennyf. Gadael popeth ar 么l fu hanes yr ymfudwyr druan.

Pan brynais i glwt o dir ar gae Roebuck cefais holl weithredodd y lle, a hynny oherwydd mai fi oedd y cyntaf i wneud.

Ynddynt eglurir bod Ledi Reade wedi morgeisio y rhan yma o Lanfachraeth i Ganon Trevor, Llanfaelog i'w galluogi i godi tri Reade House, ym Modedern, Llanfachraeth a Llanfaethlu.

Mae 'T欧 Coffi', Llanfaethlu yn dal yn llewyrchus, a rhai'n dal i yfed coffi ynddo yn lie diod feddwol.

Yn sicr buasai Ledi Reade yn llawenhau wrth basio'r Black Lion y dyddiau hyn a gweld y ffenestri wedi eu bordio i fyny!

Mae'r Holland, Llanfachraeth wedi ei enwi ar 么l ei hen daid 'Holland Griffith', ond ni wireddwyd ei breuddwyd yno.

Daeth Glyn a Cherddi Mathew Bach i mi hefyd fel y gallwn ddarllen beth ganddo ef pan fu pleidleisio ym M么n yn 1961 yngl欧n ag agor y tafarndai ar y Sul.

Mae Cymry iawn yn credu
A hynny drwy eu ffydd,
Mai gorffwys a moliannu
Sydd raid y seithfed dydd.
Nid rhuthro mewn cerbydau,
Y nail! ar 么l y llall i chwilio am dafarnau,
Sef noddfa teulu'r fall.

Er mae Mathew yn cyfaddef wrth ei ffrind Alltud y Garn yn yr un gerdd, 'Nid ydwyf yn ddirwestwr', ond 'Dim agor drws y dafarn, y Sul, i blesio'r Sais'.

Yn sicr mae disgynyddion y rhai sydd yn y llun yn dal yn y fro. Os gwelwch yn dda gadewch i mi wybod pwy ydych.

Edgar Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy