Ac nid rhywun rywun ymysg y Seintiau ydynt chwaith, ond tri arbennig iawn. Un yn was i Badrig, Nawdd Sant Iwerddon, a'r llall yn was i neb llai na Dewi, ein Nawdd Sant ni. Am y trydydd, erys ei enw o hyd ar afon yn ein bro, Afon Hafran. Mae yna ddwy Eglwys yn Llantrisant oherwydd yn 1897 penderfynwyd cael Eglwys newydd yng nghanol y plwyf gan fod yr hen ar y cyrion, ac mor agos i Eglwys Llanddeusant. Trist fu cefnu ar yr hen Eglwys a hithau fel Llanfigaelgyda'i seti bocs, pulpud yn y canol, bedyddfaen gerfiedig hardd o'r drydedd ganrif ar ddeg a chofebau gwych i uchelwyr y plwyf. Unwaith y caewyd hi daeth lladron a helpu eu hunain i'r gwaith coed hynafol, ac yn lle harddu'r cysegr troi'n gytiau ieir a chafnau defaid fu eu tynged weddill eu hoes. Mwyach nid oedd yr hen Eglwys ond megis ysgubor wag. (Beth bynnag ddywedir amdanom ni y dyddiau hyn rydym yn parchu ein hetifeddiaeth lawer gwell na'n hynafiaid). Buasai'r hen Eglwys wedi mynd yn lawr maes oni bai i 诺r bonheddig o Dde Cymru, Mr Bulmer Thomas, briodi merch Bodior, Rhoscolyn. Ar brynhawn o haf, ac yntau ym ymweld 芒 Melin Selar, digwyddodd weld Eglwys fach ar draws y caeau. Ar ei ffordd adre piciodd yno. Berwodd ei waed pan agorodd y drws a darganfod y fath alanastra. Yn y fan a'r lle penderfynodd gysylltu 芒'r gymdeithas, 'Ffrindiau Eglwysi Di-ffrindiau', a gofyn am gymorth. Rhaid diolch am eu hymdrech i atgyweirio ond roedd yn rhy hwyr. Mae'n wir i'r 'mieri' ddiflannu ond nid oedd yn bosibl iddynt ddychwelyd y 'mawredd'. Dechreuodd Sannan ei yrfa fel gwas Dewi Sant. Pan aeddfedodd aeth i genhadu ar ei ben ei hun i Ogledd Cyrnru a sefydlu Eglwys yn Llansannan. Yna, fel llawer arall o'r Seintiau Celtaidd, ymlaen ag ef am faes cenhadol arall. Daeth i F么n, ac i Gwmwd Llifon. Amlwg ymysg duwiau'r brodorion oedd Afran. Rhoes y duw hwn ei enw i afon, Afon Hafran. Gan fod Cristnogaeth yn grefydd gwmpasog mabwysiadwyd Afran ganddi, fel yr addaswyd 'Coed Yw y Derwyddon' i fod yn 'Goed y Seintiau' a'u gadael i ymledu dros ein mynwentydd. Ar y pryd roedd yna fachgen o'r enw leuan yn yr ardal. Bachgen a oedd yn syndod i bawb. Ganrifoedd yn ddiweddarach ysgrifennwyd ei fuchedd, hanes ei fywyd. Gallai leuan, yn 么l y fuchedd, gyflawni gwyrthiau, yn enwedig ym myd natur. Lladdodd gannoedd o nadroedd a gyrru brain o bob cae 欧d. Pan ymwelodd Padrig 芒'r ardal cyflwynodd ei dad ef fel gwas iddo. Yn Iwerddon, gwlad y gwyrthiau, ni fu diwedd ar ei orchestion. Ond cyn hir penderfynodd Padrig ei anfon yn 么l i F么n. Tybed mai cenfigen oedd wrth wraidd hyn? Protestioedd y Gwyddelod a gwrthod rhoi cwch i'r Cyrnro ifanc gan geisio ei orfodi i aros gyda hwy. Ond gwas ufudd oedd leuan a chroesodd F么r Iwerddon ar slaban o garreg. Pan ddychwelodd i'w gynhefin roedd ei geg cyn syched 芒'r garthen. Trawodd y llawr 芒'i ffon ac yn y fan a'r lle byrlymodd d诺r o'r ddaear. Mae 'Ffynnon leuan' i'w gweld o hyd gyferbyn 芒 phorth Mynwent hen Eglwys Llantrisant, a chyda'i d诺r grisial hi y bedyddiwyd cannoedd o blant am ganrif a hanner. (Diolch am gael byw mewn bro mor gyfoethog ei hanes).
|