Cymeriad arbennig ydoedd, g诺r cyfeillgar, ymroddgar, a chymwynasgar.
Bydda'i gymeriad yn gloywi pob cyfarfod. Ei hiwmor ysgafn pryfoclyd yn denu gw锚n ac esmwythai sawl achlysur.
Roedd iddo gyfeillion ymhob man, ac fe anwylodd ei hun i gynulleidfaoedd eglwysi lleol lle bu'n offeiriad a lle bu'n aml yn llenwi bwlch mewn plwyfi.
Yn y blynyddoedd diweddar bu galw mawr arno i gynnal y gwasan卢aethau Cymraeg o fewn yr eglwysi.
Iddo perthynai y
gallu i gyflwyno neges yr efengyl drwy adrodd stori o fywyd cyfoes. Byddai elfen o gymharu digwyddiadau traddodiadol, hen ffasiwn, gydag agweddau o fywyd heddiw mewn ambell i bregeth.
Hollol gartrefol fyddai'r gwasanaeth o dan ei ofal a phopeth yn drefnus yn ei ddwylo. Roedd wedi paratoi yn drwyadl ac fe gyflwynai y cyfan yn rhwydd ac yn ddefodol.
Deuthum i'w adnabod pan oedd yn athro ysgol ac i minnau ei basio yn ei 'Morris Minor' ar y B5025. Byddai codi llaw yn arwydd o gyfeillgarwch bob bore.
Cefais y profiad o fod mewn gwasanaethau o dan ei arweiniad fel gweinidog, ac ar sawl achlysur cysylltiedig.
Cofiaf am ei bregeth yng Ngwasanaeth Blynyddol y Santes Fair, Llanfair-yn-Neubwll rhyw ddwy flynedd yn 么l.
Gallai ddethol rhannau o'i bregeth i'w gyfieithu er mwyn cynnal diddordeb pawb. Roedd y gynulleidfa yn mwynhau ei ffordd ddeheuig o gyflwyno ei destun.
Edmygais ei gyfraniad anferthol i'r Rhwyd tros y blynyddoedd.
Yn sicr fe fu'n un o sylfaenwyr y cylchgrawn ac yn cynnal diddordeb darllenwyr gyda'i erthyglau diddorol.
Roedd ganddo
wybodaeth eang am hanes eglwysi, capeli, a chartrefi hanesyddol ym M么n.
Gwyddai am gymeriadau a straeon am ddigwyddiadau o sylwedd. Cawr yn ei faes yn sicr. Steil arbennig oedd gan Edgar a modd i gysylltu a'i ddarllenwyr yn hawdd.
Brwydrodd dros Eglwys Llanfigael i'w chadw rhag ei dymchwel.
Llwyddodd i ddenu cefnogaeth Yr Eglwys yng Nghymru a CADW i gyfrannu at atgyweirio ac adfer yr adeilad.
Campwaith ymhob ystyr y gair. Llawenhai wrth anfon cerdyn o du fewn yr eglwys oedd mor annwyl ganddo ar gyfer Nadolig.
Gedy fwlch anferthol yn y gymdeithas oherwydd ei gysylltiadau fel offeiriad, fel cyfranwr i'r Rhwyd, ac fel un o gymeriadau anwylaf ein cylch.
Bu'n gysylltiedig a chymaint o gymdeithasau a gweithgareddau tros y blynyddoedd.
G诺r bonheddig a chymwynasgar diymhongar.
Goronwy Parry