成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Gloyn byw Pili Palas: Diwedd Cyfnod
Rhagfyr 2005
Mae Canolfan Pili Palas wedi dod yn rhan annatod o'n bro ers ugain mlynedd, a rhywfodd mae'n anodd credu bod newid yn mynd i fod mewn perchnogaeth y Ganolfan hynod boblogaidd yma.
Ond cawsom ar ddeall fod y tri partner fu'n gyfrifol am sefydlu'r atyniad yma'n dirwyn eu cyfnod o berchnogaeth i ben. Huw John Hughes, Huw Glyn Evans a'i wraig, Gwenda ddaeth at ei gilydd i sefydlu Pili Palas yn 1985, a chreu un o atyniadau pwysicaf i dwristiaid ar Ynys M么n, ac yn sicr un o'r atyniadau mwyaf cydymdeimladol a'r iaith Gymraeg. Erbyn hyn mae wedi dod yn adnabyddus i ymwelwyr o bedwar ban byd, ac wedi bod yn fenter hynod bwysig yn yr economi leol. Tra'n ceisio cofnodi'r digwyddiad yma, a cheisio talu diolch iddynt am roddi lliw i'n bywydau, bydd yn gymorth i mi roi braslun o hanes taith bywyd y tri a enwyd hyd cyfnod sefydlu Pili Palas.

Ganwyd Huw John Hughes ym mro Mynydd Llandegai, ac wedi llwyddo ar gwrs hyfforddi i fod yn athro yn y Coleg Normal, dechreuodd ar ei yrfa fel athro yn Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen. Yn dilyn cyfnod gyda'r Cyngor Ysgolion, bu am rai blynyddoedd yn Brifathro yn Ysgol Pen y Bryn, Bethesda. Yn dilyn hynny derbyniodd swydd fel darlithydd yn ei hen Goleg, sef y Normal. Gan iddo astudio Ysgrythur yn y Chweched dosbarth ym Methesda a'r Coleg, nid annaturiol oedd iddo ddod yn bregethwr lleyg poblogaidd iawn, gan ddilyn hynny trwy dderbyn galwadau i fod yn weinidog rhan amser yn Llanberis ac yna hyd flwyddyn yn 么l yng Nghapel Carmel, Moelfre. Beth oedd y cyswllt meddech chi 芒'r awydd i agor Canolfan gloynnod byw? Fel plentyn yr oedd ganddo ddiddordeb mewn gloynnod byw a phryfetach ac ati, ac atgyfnerthwyd hynny tra ar brofiad gwaith yn ystod un gwyliau haf, mewn Canolfan o'r enw World Wide Butterflies yn Swydd Dorset. Yno yn sicr plannwyd yr hedyn a'r freuddwyd i sefydlu canolfan debyg yn Nghymru rhyw ddiwrnod. Bu'n freuddwyd am gyfnod o dros ugain mlynedd.

Merch ffarm o gylch pentref Carmel, Llanrwst ydi Gwenda Evans. Yn dilyn patrwm y cyfnod aeth adref i weithio ar y ffarm. Dilynwyd hynny trwy gael swydd mewn siop flodau a llysiau yn nhref Llanrwst, ac mewn amser daeth yn rheolwr ar y siop, gan fod yn gyfrifol am y prynu a'r gwerthu a'r gwaith i gyd - profiad amhrisiadwy wedi symud i Sir F么n i sefydlu Canolfan a busnes newydd y Pili Palas.

Ganwyd Huw Glyn Evans ym mhentref Garndolbenmaen, ac yn dilyn cyfnod ar gwrs hyfforddiant mewn arlywaeth yng Ngholeg Llandrillo, cafodd swydd yn adran arlywo yn siop enwog Harrods yn Llundain. Yna derbyniodd swydd fel rheolwr arlwyo i'r neuaddau preswyl yn Aberystwyth. Daeth awydd teithio'r byd arno yn dilyn y cyfnod yma, a derbyniodd waith arlwyo gyda chwmni enwog P & O ar longau mordeithiau o amgylch y byd. Yr oedd ei hyfforddiant mewn cadw safon glanweithdra a'i brofiad arlwyo yn addas at gael ei swydd nesaf gyda'r Bwrdd Marchnata Llaeth, sef archwilio safonau cynhyrchu llaeth ar ffermydd Cymru gyfan. Yn y cyfnod yma y daeth i fyw i Lanrwst a chyfarfod Gwenda, a priodi, gyda Huw John yn was priodas iddynt. Bu am gyfnod yn gweithio fel gwerthwr nwyddau i ffermwyr ar draws y gogledd gyda chwmni Gwyn Lewis o Lanrwst. Hawdd yw sylweddoli bod Huw Glyn yn dod a phrofiadau arlwyo i mewn i'r fenter maes o law ym Mhili Palas, gyda hefyd gryfderau mewn rheoli campws a thir.

Yng nghanol yr wythdegau, cytunodd Huw Glyn a Gwenda i gydweithio a Huw Jones i geisio gwireddu breuddwyd oesol Huw John i sefydlu Canolfan i ymwelwyr i arddangos yn arbennig holl ystod gloynnod byw o bedwar ban byd, a hynny yng Nghymru. Cytunwyd o'r dechrau mai ar Ynys M么n y dylid sefydlu'r Ganolfan, ac yn 1985, daeth Ty'n Mynydd ar l么n Penmynydd ger Porthaethwy ar werth, ac mae'r gweddill yn hanes - newidiwyd enw'r lle bron o'r dechrau i Pili Palas. Partneriaeth fu'r busnes o'r dechrau rhwng y tri, ac esboniwyd eisoes bod Gwenda yn dod 芒 chymwysterau rhedeg busnes i'r fenter, Huw Glyn yn dod 芒 chymwysterau arlwyo a rhedeg caffi a gofal ymarferol o gampws, tra yr oedd Huw John yn dod 芒'r diddordeb ysol oedd ganddo mewn gloynod byw, ynghyd 芒 gwybodaeth a diddordeb eang mewn pob math o greaduriaid ac ymlusgiaid eraill. Hefyd Huw John gymerodd y cyfrifoldeb i fod yn ysgogydd yr holl lenyddiaeth ddwyieithog, a'r cyhoeddusrwydd i alluogi'r fenter fedru sefydlu a datblygu fel Canolfan ddwyieithog i ymwelwyr. Daeth Huw Glyn a Gwenda i fyw yn y t欧 ym Mhili Palas gan gadw llygad gofalus pedair awr ar hugain ar y Ganolfan.

O'r dechrau addaswyd adeiladau'r fferm, ac yn arbennig adeiladwyd y t欧 gwydr ar gyfer y gloynnod byw lle roedd y sied wair, ac addaswyd y cytiau moch a'r beudai ar gyfer y caffi. Tros y blynyddoedd mae'r adeiladau wedi cael eu haddasu, a rhai newydd wedi eu hadeiladu er mwyn creu arddangosfeydd mwy eang eu diddordeb, gan gynnwys ymlusgiaid, nadroedd, adar, a llawer o rywogaethau eraill, ynghyd wrth gwrs 芒 lle addas i blant chwarae yn ddiogel. Bu'r fenter yn llwyddiant ysgubol, gyda rhifau'r ymwelwyr yn cynyddu bob blwyddyn, a llawer o'r ymwelwyr yn dod yn 么l yn flynyddol. Bellach mae ymwelwyr o bedwar ban byd yn ymweld 芒 Phili Palas, a diddorol oedd cael ar ddeall fod menter tebyg wedi cael ei sefydlu yn Iwerddon a Chanada ar union batrwm a geir yma yn dilyn ymweliadau. Daw disgyblion a'u hathrawon o ysgolion tros Gymru gyfan, o Loegr, Iwerddon, yr Alban ac Ynys Manaw, ac eisoes mae rhif uwch na'r arfer wedi gwneud trefniant i ddod y flwyddyn nesaf.

O'r dechrau maent wedi bod yn hynod o lwcus yn y staff fu, a sydd yn gweithio ym Mhili Palas. Bu Owie Williams o Frynteg yn gweithio yn y gerddi ac yn cadw'r campws yn daclus o'r dechrau. Mae Ifor Roberts o Frynsiencyn wedi bod gyda'r cwmni ers dros bymtheg mlynedd ac ar hyn o bryd mae Helen Roberts o Fodedern yn ei gynorthwyo yn y caffi.

Robert Jones o Fethesda sy'n brif gynorthwywyr gyda'r holl loynnod byw, adar a'r rhywogaethau eraill, ac yn cael cymorth gan Tommy Rimmer. Dylid hefyd gydnabod bod degau o bobl eraill wedi cael gwaith yn y Ganolfan tros y blynyddoedd. Cafodd chwe deg a dau o ddisgyblion ysgol a myfyrwyr Coleg eu cyflogi tros yr ugain mlynedd o 1985, ar gyfnodau prysur yr haf, y Pasg a'r Sulgwyn, ac yr wyf fel rhiant fy hunan yn dad i dri ohonynt, yn gwybod iddynt gael hyfforddiant heb ei ail sut i drafod cwsmeriaid, a llond bol o hwyl, ond yn bwysicach efallai cyflog ar gyfer costau byd y tymhorau canlynol mewn Coleg neu ysgol.

Bellach mae Huw John, Gwenda a Huw Glyn yn cydnabod bod yr holl aelodau 'staff' fu'n eu cynorthwyo wedi dod yn ffrindiau mawr iddynt, ac yn rhan o gyfrinach eu llwyddiant.

Pwysleisiodd Huw John, iddynt fel cwmni, ddefnyddio'r Gymraeg ochr yn ochr a'r Saesneg yn y cyfan o'u gweithgareddau, a honnodd bod y Byrddau Twristiaeth lleol ac yn genedlaethol bellach yn ddiolchgar iddynt am fraenaru'r tir i gael mwy o Gymraeg i fewn i lenyddiaeth y Byrddau ac ystwytho eu hagwedd at yr iaith.

Mae Huw John, Gwenda a Huw Glyn yn pwysleisio mai dyma ddiwedd eu cyfnod hwy wrth y llyw ym Mhili Palas sy'n digwydd. Mae'r fenter yn parhau, ac mae'r tri am i mi bwysleisio eu bod yn dymuno'r gorau i Gwawr a Steve Bell a'u plant, Sion a Sera ym Mhili Palas. Daw Gwawr yn wreiddiol o Rosybol gyda llaw, ac mae'r teulu yn byw ar hyn o bryd ym Mhorthaethwy.

Am gyfnod rwy'n si诺r y bydd Gwenda, Huw Glyn a Huw John yn falch o gael seibiant bach, cyn dechrau meddwl i ba gyfeiriad y byddant yn mynd nesaf. Diolch i chi am y weledigaeth, am fentro, a dangos bod mentro yn llwyddo, am eich egwyddorion di-sigl i redeg busnes dwyieithog, ac am eich cyfeillgarwch dros y blynyddoedd fel cymdogion rhagorol.

Bryner Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy