Daeth goleuni ar y mater pan gafwyd sgwrs a Mr Emrys Owen a darganfod fod yr organ yn yr Iwerddon.
Yn deillio o'r sgwrs cafwyd hanes organ Capel y Tabernacl.
Roedd y ddau gapel wedi eu hadeiladu tua'r un cyfnod - Disgwylfa 1909 a'r Tabernacl l912, ac o'r herwydd roedd y ddwy organ tua'r un oed. Cawsom hanes organ Y Tabernacl gan Mr Owen.
Hanes yr organ
Adeiladwyd yr organ ym 1913 ar gost o 拢650, gan Blackett and Howden cwmni adeiladwyr organau o Ogledd Lloegr.
Fy rhagflaenydd fel organydd oedd y diweddar Mr Clement Hughes, Ffordd Moreton, a wasanaethodd am 39 o flynyddoedd.
Ef a'm dysgodd i i chwarae'r organ.
Ddiwedd 1979 hyd ddechrau 1980, tynnwyd yr organ yn llythrennol oddi wrth ei gilydd gan Mr Keith Edwards, Maghull, Lerpwl, a gafodd y gontract.
Y gost oedd 拢2,800.
Rhwng diwedd 1979 hyd at Awst-Medi 1980, cyrhaeddwyd y targed drwy haelioni ariannol yr aelodau a llawer iawn o gyfeillion eraill.
Mae i'r organ 1,730 o bibau yn mesur rhwng hanner modfedd hyd at 16 troedfedd.
Roedd pibau ffrynt yr organ wedi'u gosod gyferbyn a'r s锚t fawr, a'r pibau o du 么l i'r rhai ffrynt ar seti'r galeri.
Tra'n glanhau'r organ darganfu Keith Edwards a'i gynorthwywr David Evans, lygoden fach wedi marw - llygoden eglwys, efallai - a phapurau melysion ym mhibau ffrynt yr organ. Tybed a oedd rhai direidus, gyda chymorth sling, yn ceisio anelu at ben yr organydd, a methu?
Agorwyd yr organ gan Miss Carys Hughes (y ddiweddar erbyn hyn), Llundain, ond yn enedigol o Gaergybi, ei diweddar dad y
Parchedig R. Gwilym Hughes, yn Weinidog Eglwys Hyfrydle ar un adeg.
Am ymron i ddwy awr cyflwynodd Miss Carys Hughes amrywiaeth o gyfansoddiadau cerddorol a hynny'n feistraidd. Roedd Keith Evans yn bresennol yn ystod yr agoriad.
Bu Miss Mary Lloyd Davies, y gantores adnabyddus o Lanuwchllyn, hithau yn gwefreiddio'r gynulleidfa a'i chanu hyfryd
a swynol.
Dim ond canmoliaeth a glywid gan bawb a fu yn Y Tabernacl y noson honno. Cadeirydd y noson oedd Mr Alwyn Griffiths Ll.B., cyfreithiwr yng Nghaergybi. Llongyfarchodd
Eglwys Y Tabernacl ar fentro costau mor fawr wrth drin yr organ.
Deil Keith Edwards, Tattenhall, Caer, erbyn hyn, a'i gynorthwywr Michael Edwards (dim perthynas), Handbridge, Caer, i diwnio'r organ ddwywaith y flwyddyn.
Cymro yw Michael. neu Mike i'w ffrindiau, ac yn organydd yn Eglwys Unedig Handbridge.
Pan ddefnyddir yr organ ambell dro mewn gwasanaeth angladdol dywed rhai wrthyf mor swynol ydyw, a f' atebiad i yw ei bod yn cael ei thiwnio i berffeithrwydd.
Y mhen tair blynedd bydd yr organ yr
gant oed.
Emrys Owen