Diolch yn fawr i Mr Hugh Jones,
Powys, Llanfaethlu am ddod a llun 'Llanfachraeth Service Station' i mi.
Rwy'n deall i'r diweddar
Mr Gwilym Jones (Elim) brynu'r garej yn 1953 ac yna adeiladu un newydd yn 1963 a'i gwerthu yn 1976, ac erbyn hyn 'Eifionydd' ydyw.
Sylwch ar y modur 'Sunbeam' sydd yn aros am betrol gyda'i rif '497 GRM'.
Rwy'n sicr fod rhywun yn cofio pwy oedd ei berchennog?
Gadewch i mi wybod os gwelwch yn dda (742322).Edgar Jones
 |