Roeddwn newydd wrando ar lythyrau a anfonwyd at anwyliaid gan filwyr y Rhyfel Mawr yn cael eu darllen ar y radio.
Addas iawn oedd clywed ar y pryd fod llythyr a anfonwyd gan fachgen ifanc o Rydwyn, brawd nain Mrs Fromel, wedi ei drysori gan y teulu am dros bedwar ugain a deg o flynyddoedd, ynghyd a'r lluniau.
Roeddynt ar gael imi eu hanfon i'r Rhwyd. Mawr ddiolch, gan nad oes dim fel llythyr gonest milwr o'r ffosydd i'n hatgoffa am erchyllter rhyfel mewn unrhyw oes.
A dyma'r llythyr
Annwyl fam a thad,
Wel dyma fi'n anfon gair bach i chwi gan fawr obeithio eich bod yn iach fel ag yr wyf finna ar hyn o bryd. Pte. Richard Williams, 59744 B Comp, 6 Platton, 17th Btl, Royla Welsh Fusiliers, RE.F. France.
Derbyniais y parsal ar llythyr yn saff bora Sul ac mi oedd y grempog
yn bur dda. Papur ysgrifennu,
sigarets, baco, crempog a phapur newydd oedd ynddo fo. Eistedd yn y trench oeddwn i pan gefais i o yn gwrando ar y bwledi a'r shels yn mynd fel glaw dros fy mhen i.
20 llath sydd rhwng y Jermans a ni, dim ond rhyw afon ydi hi.
Lle ofnadwy sydd yma, gwlad o d芒n. Fedar neb ddim dweud digon o wir amdani, does dim eisiau dweud celwydd. Yr hogia'n syrthio o'u hunion sefyll eisio cysgu ac eisio bwyd. Methu deall sut ydan ni'n dal, ac mae hi wedi altro y dywydd yma wan i fwrw glaw, ac mi ellwch feddwl bod hi'n ddrwg.
Dim lle i wardio dim i newid, a dim ond chwarter
fara yn y bora, dim wedyn tan bora wedyn. Mi rydan ni'n fwyta fo i frecwast ac mi fydd raid i mi fy heb ddim trwy'r dydd a'r nos. Mi gawn ddiod ganddyn nhw. Faswn ddim yn hidio dim gymaint tasu i'n cael llond fy mol o fwyd.
Wel mae'n bur ddrwg gennym i glywed
fod yr hen Wil Berlin wedi marw. Cofiwch fi at i fam o.
Wel mae
rhaid terfynu gan gofio atoch i gyd
fel teulu yn y modd gora. Diolch yn fawr i chwi am y parsal, cofiwch
at bawb. Llythyr buan eto.
Daeth o ddim adre i Rydwyn. Collodd ei fywyd ar 16 Mehefin 1917. Mae'n gorwedd ym Mynwent 'Bard Cottage', Gwlad Belg.
Edgar Jones