成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Glesni Roberts gyda'i chwpan Person Ifanc y Flwyddyn
Chwefror 2006
Ym mis Rhagfyr 2005 dewiswyd Glesni Mai Roberts yn Berson Ifanc y Flwyddyn, gwobr newydd yw hon yn rhoddedig gan Awyrlu Brenhinol y Fali.
Mae'r wobr yn gyfle i berson ifanc rhwng 11 ac 18 mlwydd oed, sy'n byw ar Ynys M么n gael cydnabyddiaeth haeddiannol am roi o'i amser ac egni i helpu eraill.

Mae hwn yn gyfle i bobl ifanc eraill weld esiampl dda o ddinasyddiaeth. Gwelir hwn fel cyfle da i drigolion M么n weld ochr bositif o fywydau pobl ifanc yr ynys. Enwebwyd Glesni am nifer o resymau.

Mae Glesni yn aelod gweithgar a brwdfrydig o'i blwyddyn ysgol, yn is-gadeirydd y gr诺p Gwrth Fwlio, aelod o'r clwb Gwrth Ysmygu, capten llys, a chapten chwaraeon yr ysgol.

Mae hi'n cymryd rhan flaenllaw yn codi arian i nifer o elusennau. Tu allan i oriau ysgol mae Glesni yn ysgrifenyddes ei Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol, yn chwarae p锚l-droed ac yn hyfforddi plant eraill.

Dyma adroddiad Glesni am sut yr enillodd y wobr:

"Wedi cael fy ethol fel Person Ifanc y Flwyddyn, derbyniais lythyr i ddweud fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer a bod y pum person terfynol yn cael y cyfle i fynychu 'diwrnod dewis' yng Ngorsaf Awyrlu Brenhinol y Fali.

"Roedd y diwrnod yn llawn hwyl a phrofiadau newydd.

"Cychwynnodd y diwrnod gyda ni'n cael ein croesawu'n gynnes gan yr awyrlu cyn dechrau ar ddiwrnod llawn o weithgareddau. Cawsom gyfle i weld awyren Hawk ac eistedd yn y cock pit a cheisio deall beth oedd yr holl fotymau a sut i'w hedfan. Roedd hyn yn brofiad anhygoel.

"Megis dechrau oedd hynny. Cawsom gyflwyniadau yn s么n am y T卯m Achub Mynydd a hofrennydd Sea King yn ogystal 芒 chael profiad o fynd mewn efelychydd hofrennydd achub. Cawsom hefyd gyflwyniad gan beilotiaid yr Hawks yngl欧n 芒 bomio a saethu. Cawsom wledd o ginio a dyma'r cyfle cyntaf i greu dylanwad da ar y panel o feirniaid.

"Cefais ddiwrnod gwerth chweil yn derbyn llwyth o brofiadau newydd cofiadwy.

"Roedd rhaid disgwyl am fis arall cyn cael y canlyniadau! Cafodd y pump enwebydd terfynol eu gwahodd yn 么l i'r Officer's Mess a chafwyd cyflwyniad gan Uwch Swyddogion yr Awyrlu. Ni allwn goelio fy nghlustiau pan ddaeth fy enw yn olaf - sef yr enillydd.

"Roedd yn fraint anhygoel bod yn fuddugol a derbyn y teitl 'Person Ifanc y Flwyddyn', cefais fy nghyflwyno 芒 chwpan, tystysgrif a chusan gan y Tywysog William. Yn ogystal 芒 hyn derbyniais rodd gwerth 拢150. Rhan arall o'r wobr yw cyfle i deithio o amgylch Ynys M么n mewn hofrennydd pan fydd y tywydd yn gwella!

"Mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, roeddwn wedi fy syfrdanu mod i wedi derbyn gwobr cystal 芒 chyfarfod Tywysog! Roedd yr holl beth yn fraint ac anrhydedd cael fy nghydnabod am fy ngwaith gwirfoddol yn y gymuned."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy