成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Rhwyd
Cigfran Byd natur: Crawc y gigfran
Awst 2006
Anaml y bydd taith gerdded heb ddod a rhywbeth arbennig i'm sylw! Un bore cynnar roeddwn ar fy ffordd ac fe glywn aderyn yn galw mewn ffordd anarferol.
Yn amlwg aderyn go fawr oedd yn gwneud y s诺n. Roedd cryn bellter i ffwrdd ac mae'n debyg fod tawelwch cynnar y bore yn achosi i'r alwad gario ar yr awel ysgafn. Wrth droi'r gornel sylwais mai cigfran oedd yn galw allan. Fel arfer llais cras - 'cronk', 'cronk' sydd gan y gigfran. Parhai i alw allan fel petai'n gwahodd. Sylwais fod cigfran arall yn hedfan tros y brwyn. Daeth at y graig a ffeirio lle pan ehedodd y llall i ffwrdd. Roedd aderyn ifanc yn hedfan 0 gwmpas ac yn amlwg roedd y p芒r o gigfrain yn cadw llygaid arno. Bu i mi ddod i'r golwg eu styrbio!

Euthum at y graig i weld beth oedd achos y galw ac ar y traeth sylwais fod corff cwningen wedi hanner ei fwyta. Roedd 么l pig yr adar ar yr esgyrn a'r cnawd. Gwahodd y bychan i ddod i fwydo oedd yr alwad arbennig a chyfle i roi gwers iddo ddod i arfer bwyta ysglyfaeth.

Pan ddychwelais adref roedd mwyalchen yn dysgu ei chyw i chwilio am hadau a llyngir. Gwaith o bwyll ac amynedd gan nad oedd y cyw yn deall trefn y symudiadau a sut i ddefnyddio'i big. Sefais yn llonydd am funudau yn gwylio'r wers a nodi ymhen yr amser fod y cyw wedi deall y neges.

Cawsom flas o 'annrheuliedig haul Gorffennaf gwych' yn ddiweddar. Bu'r haf yn hwyr yn ein cyrraedd, ond pan ddaeth fe fu hi'n grasboeth ar adegau. Tydi'n anodd plesio rhai pobl! Mae'n amlwg fod newid yn ein tymhorau. Bu i'r glaw gawsom yn gynharach yn y flwyddyn roi cyfle gwych i'r coed ddeilio a blodeuo. Manteisiodd planhigion eraill ar y gwlybaniaeth megis y fioled, teim gwyllt, dail ceiniog, troed y deryn, carpiog y gors (blodau'r brain), lluglys yr ychen, a'r rhosyn gwyllt. Ni welais gymaint o dyfiant ganddynt ers blynyddoedd ar Ynys Leurad ac yn y tir corslyd. Efallai i mi nodi fod y tir rhwng y traeth a'r tir yn ystod y cyfnod Ionawr hyd Ebrill i'w weld yn dlawd o blanhigion a bod rhannau o'r ddaear yn llwm. Yna yn gynnar yn y gwanwyn daeth clustog Fair i harddu'r erwau hyn. Do mae tyfiant wedi dod i'r tir yma er iddo gael ei olchi gan y m么r a'i foddi dan ambell i lanw uchel. Planhigion arbennig sydd yma - rhai sydd yn gallu ymgodymu a gormod o dd诺r ac yn ystod yr haf cyfnodau o sychdwr maith. Mae eu dail yn gallu dal ar dd诺r a hefyd rheoli y balans rhwng d诺r angenrheidiol a'r heli. Mae'n hyfryd gweld y tyfiant toreithiog a gwyrdd bywiog. Os bu'n llwm fe fu tyfiant cyflym. Bu'r hesg yn ei flodau am gyfnod ac i ddod ymhen ychydig amser fe fydd lafant y m么r yn ei holl ogoniant wedi creu cynfas las tros y tir yma.

Wrth droedio tros y mwd ryw fis yn 么l sylwais fod rhyw fysedd o wyrdd yn ymwthio i'r golwg. Erbyn hyn mae erwau o dyfiant o llyrlys (samphire/glasswort) ar draws tir sydd yn gymysgedd o dywod a llaid. Mae modd coginio'r planhigyn a'i fwyta.

Lle bu'r llanw uchel diweddaraf fe adawyd cymysgedd o frwyn a gwymon fel pe bai ysgub wedi bod ar waith yn ei adael yn daclus ar y tir. Yn gorffwys arno mae cannoedd o blisgyn crancod wedi eu cannu gan yr haul. Mae cramenogion (crustacea) yn gorfod bwrw eu plisgyn er mwyn tyfu. Ar gyfnodau mae cranc yn diosg ei hen gragen ac mae'r croen meddal tanodd yn chwyddo ac yna yn caledu. O fewn y cyfnod o ddatblygu i aeddfedrwydd bydd hyn yn digwydd tua deg gwaith. Bydd diosg y gragen wedyn ond yn digwydd unwaith y flwyddyn. Tra bo'r gragen newydd yn caledu mae'r cranc yn hawdd ei niweidio ac felly maent yn mynd i guddfan tros y cyfnod. Anifail cyfarwydd o fewn ein arfordir yw crancod. Yn heliwr a charthwr (scavenger) a hefyd yn fwyd i adar a physgod ei amgylchfyd. Anifail pwysig o fewn y gadwyn fwyd i breswylwyr yr arfordir.

Dyma gyfnod pan fyddwn yn llawenhau o weld gl枚ynod byw yn ymweld a blodau'r ardd neu yn ein gwrychoedd. Rydym yn fwy cyfarwydd a hwy nag a gwyfyn (moths) gan iddynt fod yn lliwgar ac allan yn ystod y dydd. Oherwydd fod un math o wyfyn yn dodwy wyau mewn brethyn a'i lindys yn bwyta'r brethyn i'w gynnal mae camargraff wedi ei roi fod pob gwyfyn yn bwydo ar frethyn. Gwn o brofiad fod un math o wyfyn yn bwydo ar g诺yr gwenyn ac yn gallu difrodi cryn dipyn o'r celloedd arbennig a gwanhau effeithlonrwydd y gwenyn.

Creaduriaid yr hwyr yw gwyfynod ac mae llawer ohonynt yn fychan a dinod. Mae gan lawer ohonynt liwiau ar eu hesgyll a'u cyrff sydd yn ei gwneud yn hawdd iddynt ymdoddi i gefndir coed a chloddiau cerrig. Y gwrychoedd traddodiadol yw cynefin llawer o'r gl枚ynod a'r gwyfyn gan fod lluniaeth ar gyfer y lindys yn tyfu yno. Ar neithdar neu hylif mae gl枚ynod a gwyfyn yn byw. Y lindys sydd yn byw ar ddeunydd boed yn ddillad neu garpedi, dail blodau a llysiau. Mae'r lindys sydd yn byw i fwyta a thyfu! Gallant greu hafoc ymysg cabaits a meri a mari (nasturtium) mewn dim amser. Oherwydd mai meddal yw eu cyrff maent yn darged hawdd i adar. Mae gan rai lindys flew hir sydd yn ataliol i adar. Mae lliwiau cryf ar gyrff eraill sy'n rhybuddio fod blas drwg arnynt. Ar ddiwedd yr haf bydd lindys gwyfyn yn gweu cocoon sidan amdanynt. Yn y cyflwr yma byddant yn aros tros y gaeaf a deor yn nyddiau cynnes y gwanwyn. Bu i drigolion y Dwyrain Pell ddarganfod rhinweddau sidan lindys un math o wyfyn ganrifoedd yn 么l a'i fagu yn arbennig ar ddail morwydd (mulberry).

Gan i ni fwynhau tywydd cynnes iawn efallai i chwi gael amser i eistedd yn yr ardd neu rywle yn y wlad. Y n y tawelwch fe fydd s诺n fel llifio ysgafn yn dod o le gwelltog. Sioncyn y gwair (ceiliog y rhedyn) sydd yn rhwbio ei goesau 么l i dynnu sylw cymar i barn. Mae perthynas rhyngddo a'r locust ac mae ei batrwm bywyd yn gyfatebol. Bydd y pryf ifanc yn diosg ei groen ambell i dro cyn datblygu i fod yn bryf aeddfed. Dim ond ar dywydd heulog braf y clywir y s诺n arbennig yma. Efallai arwydd o haf hirfelyn tesog!

G O Parry


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy