Y priodfab oedd Lee Openshaw o Glasfryn a'r briodferch oedd Miss Anna Roberts o Hen Golwyn.
Cafodd Lee y profiad nad a'n angof o gael eu gludo o Fae Cemaes mewn cwch hwylio gyda Jonsi wrth y llyw!
Rhyddhad i bawb, ac i Lee'n arbennig oedd gweld glanio diogel yn Neganwy lle cynhaliwyd y briodas.
Daeth Lee i Gemaes o St. Helens yn fachgen pedair oed ugain mlynedd a mwy'n 么l gyda'i rieni.
Tyfodd yn fachgen hollol ddwyieithog trwy gefnogaeth ei rieni i bolisi iaith Ysgol Cemaes. Dymunwn ddyfodol hapus a llwyddiannus i Lee ac Anna yn eu cartref ym Mae Colwyn.
Heddwas yw Lee gyda Heddlu Gogledd Cymru.
 |