Weithiau roeddem yn dal ein dwylo am hanner awr, ac, weithiau am
oriau. Er chwilio a phrofi'r gwifrau bu'r gweithwyr yn hir iawn cyn dod o hyd i'r troseddwr. Br芒n ydoedd. Mae'n amser nythu a chafodd hen fr芒n hyd i blatfform hwylus iawn bron ar ben un o'r polion trydan ar dir Bodlasan. Llecyn dymunol iawn yn edrych allan dros lan m么r Penial. Nid oedd y fr芒n wedi dechrau dodwy a thynnwyd y nyth i lawr, a phawb yn Llanfachraeth yn llawenhau.
Cyn tridiau pallodd y cyflenwad trydan unwaith yn rhagor. Ychydig wyddai'r gweithwyr
am ddycnwch br芒n. Dros nos dechreuodd ail adeiladu ei nyth, ac unwaith eto bu'n rhaid ei dynnu i lawr. Y tro hwn rhoddwyd darnau o haearn pigog i atal y fr芒n rhag glanio ar y platfform. Nid oedd brigau'r nyth yn achosi unrhyw rwystr i lif y trydan ar ddiwrnod braf, ond yn y glaw achosent gylched byr.
Diolch i Miss Mona Maelod Jones am y llun.
|