Cyfrol yw hon yn cynnwys erthyglau ar 44 o gymeriadau a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mhapur bro Clonc. Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y papur, cyhoeddwyd y gyfrol.
Cafwyd cyhoeddusrwydd da i'r noson o flaen llaw gydag eitemau ar Radio Ceredigion, 成人快手 Radio Cymru ac ar Wedi 7.
Daeth rhyw 140 o bobl ynghyd i'r lansiad a braf oedd gweld nifer fawr o'r cymeriadau eu hunain yn bresennol. Cyflwynodd Dylan Lewis y siaradwyr gwadd sef Twynog Davies, John Williams, Andrew Jones, Dylan Iorwerth a Megan Jones. Darllenodd Dylan Iorwerth englyn o'i waith hefyd.
Aredig portreadau - yn nhir bras
Daear bro; rhoi'r geiriau
Yn oludog fel hadau
Yn y pridd - er mwyn parhau.
Cafwyd dwy g芒n gan Kees Huysmans gydag Elonwy Pugh yn cyfeilio. Gwahoddodd y gynulleidfa i ymuno ag ef yn yr ail g芒n. Y cyfan yn ddifyr ac yn adloniant pur.
Gweinwyd cawl blasus a phice bach gan staff y Grannell wedyn, a phawb wedi mwynhau gwledd.
Yn ystod hyn oll, gwelwyd lluniau o'r cymeriadau sy'n destun i'r gyfrol ar sgr卯n fawr yn yr ystafell.
Cyfrannodd nifer o bobl wobrau i'r raffl, a gwerthfawrogir hynny'n fawr iawn. Yr enillwyr oedd: Gwynfor Lewis, Alan Morgan, John Meirion Jones, Liz Mills, Megan Jones, Magw Hughes, Rhian Twynog, Anita Williams a Twynog Davies.
Cyn i bawb gasglu a phrynu eu cop茂au diolchodd Dylan i bawb a gymerodd ran, ac i bawb a gefnogodd ac a gyfrannodd tuag at lwyddiant y noson a'r gyfrol. Cyflwynwyd tlws i Twynog fel gwerthfawrogiad o'i waith gan Iestyn a Morgan, a chyflwynwyd blodau i Hazel gan Sara a Mari.
Bu Twynog yn ddigon caredig i arwyddo llyfrau i'r rhai 芒 diddordeb, tra bu gweddill y gynulleidfa yn cymdeithasu wedi noson hwylus a braf.
Gwerthfawrogwyd cydweithrediad swyddogion Prosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro gyda chasglu deunydd a theipio. Diolchir hefyd am gefnogaeth ariannol 'Milltir Sgw芒r' a 'Cynnal Ceredigion', ac i wasg Y Lolfa am eu gwaith glan.
Gwerthwyd 272 o danysgrifiadau o flaen llaw, a diolch i Nia a Mary am y gwaith gweinyddu trefnus.
Gobeithir y bydd y llyfrau ar werth nawr yn yr un siopau sy'n gwerthu Clonc o fis i fis yn ogystal ag ambell siop arall yn yr ardal. Bargen am 拢4.95. Os na ellir dod o hyd i gopi ffoniwch Nia neu Mary ar 01570 480015. Codir 拢1 ychwanegol am bostio. Danfonwch eich sieciau'n daladwy i CLONC, Maesglas, Drefach, Llanybydder, SA40 9YB.
Rhai o'r cymeriadau bro
J. Dilwyn Williams, Felinfach
David Morgan, Cwmann
Aerwen Griffiths, Llanfair Clydogau
Harold Williams, Cwmann
Mae dros deugain portread o gymeriadau lleol yn y llyfr, gan gynnwys Mr Dylan Iorwerth, Dr Islwyn Ffowc Elis, Mrs Sulwen Morgan, Miss Elin Jones, Y Parch Wynn Vittle a Mr Dylan Wyn.