Cyhoeddwyd bod Swyddfa'r Post yn Stryd y Coleg yn mynd i gau a'i symud i archfarchnad Co-op ar waelod Stryd y Bont.
Mae Gr诺p Gweithredu Cymunedol Llambed wedi trefnu deiseb yn erbyn y penderfyniad ac anogir pawb i'w harwyddo. Ond "Codi pais"... yw hynny yn 么l rhai gan fod y penderfyniad eisoes wedi ei wneud. Dosberthir taflenni yn y Swyddfa Bost bresennol yn hysbysu cwsmeriaid o leoliad newydd y gwasanaethau.
Mae Swyddfa'r Post wedi bod yn yr adeilad urddasol yn Stryd y Coleg ers blynyddoedd mawr, ac mae'n anodd dychmygu canol tref brysur fel Llambed heb y gwasanaeth.
Mae Swyddfa'r Post Llambed yn unigryw hefyd oherwydd y gwasanaeth personol a Chymraeg a geir gan Timothy Evans y tenor swynol, a'i staff cyfeillgar yno. G诺yr pawb o bell ag agos am Pavarotti Llambed sy'n bostfeistr yno, ond mae'n ddiwedd cyfnod yno erbyn hyn.
Cyhoeddodd ei fod yn ymddiswyddo, a daw hynny i rym ym mis Mehefin eleni. Nid colli Swyddfa'r Post yn unig a wna Llambed ond colli lle 芒 chymeriad hefyd.
Mae yna ymateb gymysg i'r penderfyniad - mwy o le i barcio, mynediad i'r anabl, gwasanaethau modern, oriau agor hirach ar ddydd Sadwrn a'r cyfleustra o wneud eich siopa mewn archfarchnad ar yr un pryd.
Ond ar y llaw arall, daw ymateb ffyrnig gan drigolion y dref a masnachwyr yn erbyn y penderfyniad. Teimlir fod yr archfarchnad yn rhy bell i'r henoed i gerdded yno i mo'yn eu pensiwn. Credir y bydd hyn yn lleihau nifer o bobl fydd yn siopa yn y dref hefyd, wrth iddynt brynu popeth yn yr archfarchnad wrth alw yn y Swyddfa Bost newydd.
Mae Bethan Lewis, Cadeirydd y Siambr Fasnach yn poeni yn fawr beth fydd effaith hyn ar fusnesau'r dref. Yr un yw gofid y Cyng. Dorothy Williams, Maer y dref. "Pam na ellir lleoli Swyddfa'r Post mewn siop yng nghanol tref Llambed? Mae sawl perchennog siop wedi cynnig cydweithio 芒 Swyddfa'r Post."
Dywed llawer mai Swyddfa'r Post yw calon y dref, a thref heb galon yw tref ar ei gwely angau. Pwysleisia'r Cyng. Williams fod angen gwneud popeth er mwyn cadw'r gwasanaethau yn y canol. Gobeithia aelodau Cyngor y Dref drefnu cyfarfod 芒 chynrychiolwyr o Swyddfa'r Post Cyf er mwyn trafod eu pryderon.
Mewn datganiad gan Swyddfa'r Post Cyf, Caerdydd dywedodd Dave Wall, y Rheolwr Cysylltiadau Allanol eu bod wedi dechrau ar gyfnod o ymgynghori yngl欧n ag adleoli'r gangen. Gwahoddir cwsmeriaid i ddanfon adborth am yr oriau agor newydd, trefniadau mynediad a'r cyfleusterau ar gyfer y gangen newydd.
Os oes gan gwsmeriaid unrhyw faterion y dymunant i Swyddfa'r Post ystyried yngl欧n 芒'r gwasanaeth yn y gangen newydd dylent gysylltu 芒: Kathryn Alexander, d/o T卯m Ymgynghori Cenedlaethol, Blwch Post 2060, Watford WD18 8ZW.
Ond pam na chafodd y cyhoedd y cyfle i ddweud eu barn cyn i'r penderfyniad cael ei wneud? Pam na chysylltodd Swyddfa'r Post 芒'r cyhoedd drwy bapur fel Clonc er mwyn cael ymateb? Pam na all Swyddfa'r Post weithredu er lles y gymuned a ffyniant lleol, yn hytrach na gweithredu oherwydd eu budd masnachol eu hunain? Dywed Swyddfa'r Post ei bod am sicrhau bod cynnyrch a gwasanaeth Swyddfa'r Post yn ddiogel yn y dref, ond a ydynt yn sylweddoli beth all y penderfyniad hyn wneud i'r economi lleol?
Dylan Lewis