Y neges oedd fod angen iddynt s么n am eu profiadau yn trefnu'r digwyddiadau yn ddi-dor yn ardal Llanbed am 25ain mlynedd.
Pan glywodd Beti fod angen siarad, aeth ar streic yn syth - dyw siarad cyhoeddus ddim yn un o'i hoff bethau! A beth bynnag, roedd ganddi bethau pwysicach i'w wneud - sef bod wrth law i dderbyn cyfraniadau'r cyhoedd, busnesau a'r ysgolion a oedd wedi bod wrthi yn brysur gydol y dydd yn casglu a gwneud eu rhan. Yn 么l geiriau Goronwy ei hunan 'Fi sydd 芒'r geg fawr felly bant 芒 fi yn gysurus'.
Yno 'roedd Bws 成人快手 Cymru wedi cludo Hywel Gwynfryn a'r criw i lawr o'r Gogledd drwy Orllewin Cymru ac ar 么l galw mewn rhai canolfannau ar y ffordd - dyma orffen yn Llanbed.
Bu tipyn o holi a thrafod a chael ar ddeall fod yr ymdrech wedi dechrau yn wreiddiol ar aelwyd y Mans ond yn fuan iawn aeth y lle yn rhy gyfyng ac er cael caraf谩n y tu allan am rai blynyddoedd, symudwyd i'r Coleg am gyfnod ac yna drwy garedigrwydd perchnogion busnesau o'r dre oedd a safleoedd gwag - cael defnydd o'u hadeiladau yn eu tro. Eleni lleolwyd yr ymgyrch yn y Llew Du a gwnaeth Goronwy ar ei ran ef a Beti gydnabod haelioni pob un sydd wedi eu helpu gyda safle addas neu mewn unrhyw ffordd ac yn enwedig yr holl gyfranwyr cyson ar hyd y blynyddoedd.
Datgelwyd yn ystod y sgwrs ei fod ef a Beti wedi derbyn y swm anhygoel o dros 拢800,000 dros y chwarter canrif i'r elusen arbennig yma a gyda'r cyfweliad yn dod i ben dechreuodd Goronwy ymlacio, ond fe'i bwriwyd oddi ar ei echel pan gyflwynodd Hywel Gwynfryn dystysgrif iddo ar ran Syr Terry Wogan, wedi ei harwyddo yn ei law ysgrifen ei hun, fel cydnabyddiaeth o'u llafur caled a'u hymroddiad dros y pum mlynedd ar hugain. Mae'n debyg fod y g诺r 芒 lot i ddweud wedi mynd yn fud am unwaith!!
Serch hynny, mae ef a Beti yn ymfalch茂o yn fawr yn y gydnabyddiaeth yma ac mae yn cael lle parchus iawn yn y Mans.
Llongyfarchiadau a daliwch ati am flynyddoedd lawer eto yw dymuniad holl ddarllenwyr CLONC.
Mae cyfraniadau Llanbed am eleni eisoes yn 拢22,000 sydd yn barod yn fwy na llynedd gyda'r arian yn dal i ddod fewn.
|