Mae'r gystadleuaeth hon yn un genedlaethol i bobl ifanc 12-16 oed er mwyn eu cynorthwyo gyda'u coginio gan roi blas iddynt o weithio mewn cegin ac amgylchfyd proffesiynol. Cynhaliwyd rownd yr ysgol yn gynharach yn y tymor ac roedd rhaid i'r ddau gystadleuydd sef Guto Gwilym, blwyddyn 9 a Daniel Bellamy, blwyddyn 10 baratoi a choginio prif gwrs cynnes i ddau berson mewn un awr a hynny am ddim mwy na 拢3.50. Guto enillodd y rownd honno ac aeth ymlaen i gynrychioli'r ysgol yn y rownd leol i Geredigion a Phowys a gynhaliwyd yng Ngholeg Y Drenewydd ddydd Llun, Tachwedd 21 ain. Y tro hwn, rhaid oedd paratoi prif gwrs a chwrs melys cynnes neu oer i ddau berson am ddim mwy na 拢5. Mewn cystadleuaeth o safon yn erbyn disgyblion o Ysgolion Penglais a Llanfair ym Muallt, cipiwyd y wobr gyntaf gan Guto Gwilym a bydd nawr yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rownd ranbarthol a gynhelir yng Nghaerdydd ar y 1af o Chwefror 2006. Fel ysgol, dymunwn y gorau iddo.
 |