成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Eira Eira, eira a mwy o eira!
Ebrill 2009
Enillydd cyntaf cystadleuaeth newydd Clonc i blant dan 12 i ysgrifennu stori yw Sioned Martha Davies o bentref Gwyddgrug. Dyma stori Sioned.

"Roedd yn fore oer yn Ionawr a'r lawnt yn sgleinio dan haen o eira gwyn. Mewn coeden unig yng ngwaelod yr ardd roedd teulu Wil Wiwer yn cysgu'n drwm. Roedd y gaeaf yn galed, yn wyn ac yn oer. Dyna lwcus oedd y teulu bach i gael lle cynnes a chlyd i gysgodi dros y gaeaf. Wrth i'r dydd fynd yn ei flaen dyma hi'n codi gwynt.

Dihunodd chwiban y gwynt y Wiwer fach o'i thrwmgwsg. Agorodd ei llygaid yn araf bach. O'i chwmpas gwelodd ei theulu'n cysgu'n drwm,yn union fel peli o wl芒n pigog.

Penderfynodd peidio 芒 dihuno'u rhieni. Dringodd i fyny nes cyrraedd y drws ffrynt. Sbeciodd trwy'r drws a gweld blanced o eira gwyn ar y llawr ac ar y coed ac ar bob peth o gwmpas.

O! Roedd hyn yn gyffrous. Sbonciodd yn gynhyrfus allan o'r goeden a disgyn ar yr eira gwyn, ond o roedd yn oer! Aeth yn ei blaen yn benderfynol o gael hwyl a sbri. Yn gyntaf aeth i'r pwll d诺r i weld ei ffrind Bili Broga. Roedd y llyn wedi rhewi'n gorn. Doedd dim golwg o Bili yn unman. Pwy arall fyddai ar gael i chwarae triciau tybed?

Sbonciodd ymlaen i gyfeiriad yr hen sied ar dop yr ardd. Mi fyddai Caleb Crwban yn siwr o ddod allan i chwarae. Fe fyddai wrth ei fodd yn llithro ar ei gefn ar draws y pwll rhewllyd. Gwaeddodd "Caleb, Caleb. Wyt ti eisiau dod allan i chwarae?" Doedd dim ateb. Gofynnodd unwaith eto. Daeth dim ateb o'r sied. Roedd hi'n dawel fel y bedd. Meddyliodd wrth ei hun, "Oes 'na rywun eisiau dod allan i chwarae?"

Cofiodd yn sydyn am Neli Neidr. Heb oedi mwy, sbonciodd yn syth i gyfeiriad y gwely o goed wrth y sied lo. "Neli, Neli. Wyt ti yno Neli?" gofynnodd Wiwer fach yn llawn gobaith. Doedd dim siw na miw na dim cyffro yn dod o'r coed. Roedd hi'n siomedig tu hwnt, ond aeth yn ei blaen. Dewi Draenog oedd nesa' ar ei rhestr. Sbonciodd i gyfeiriad y pentwr o ddail wrth droed y dderwen.

Palodd a phalodd nes dod o hyd i'r draenog bach yn gwrlid bach pigog. "Dewi, Dewi, dere'i chwarae. Mae'r byd i gyd yn wyn. Beth am adeiladu dyn eira?" gofynnodd i'w ffrind bach. "Gad lonydd i mi gysgu" atebodd hwnnw'n swta, gan droi ei gefn a dechrau chwyrnu'n braf. Gan deimlo'n drist iawn aeth Wiwer fach i chwarae ar ei phen ei hun. Er hyn, doedd chwarae ar ei ben ei hun ddim hanner mor gyffrous a chwarae gyda Bili, Caleb, Neli a Dewi.

Doedd e ddim yn hwyl o gwbwl! Erbyn hyn roedd ei bola'n galw. Edrychodd o gwmpas am rywbeth blasus i'w fwyta. Doedd dim golwg o fesen, o afal na'r un gneuen flasus yn unman. Roedd rhaid bodloni ar bethau brown - dail wedi crino, rhisgl coed a choncyrs wedi pwdru. Diflas iawn.

Roedd hi'n dechrau nosi a'r lawnt yn ddisglair yng ngholau'r lleuad. Heb gwmni a heb fwyd ac yn crynu fel deilen doedd dim amdani ond troi tua thre. Sbonicodd yn ddigalon yn 么l i'r twll yn y goeden yng nghwaelod yr ardd.

O, roedd hi'n braf cael swatio'n glyd yn ei gwely unwaith eto. Teimlai rhywbeth caled yn ei phrocio yn ei chefn. Estynodd ei llaw a gafael ynddo. Wel, yn wir.

Mesen fach felys oedd yno yn barod i'w bwyta. Hon oedd y fesen melysaf erioed. Wedi'r antur yn yr eira, a'i bola'n dyn roedd hi'n barod nawr i fynd i gysgu'n drwm dros y gaeaf. Caeodd ei llygaid yn dynn, dynn a chysgu'n braf."

Stori gan Sioned Martha Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy