成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Anwen Butten Bowlio Dros Gymru
Mai 2006
Anwen Butten yn s么n am yr helynt o gynrychioli Cymru yn bowlio yng Nghemau'r Gymanwlad yn Awstralia.

"Rwyf wedi chwarae 'bowls' ers yn 15 mlwydd oed; chwarae i d卯m Cymru dan 25 am ddeg mlynedd a th卯m llawn Cymru ers 6 mlynedd. Enillais bencampwriaeth Prydain fawr yn chwarae'n unigol dan 25 yn 1999; chwarae yng Ngemau'r Gymanwlad ym Manceinion yn 2002 ac ennill medal efydd; ennill medal efydd yn Mhencampwriaethau'r Byd yn 2004.

Rwyf yn ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i deithio'n helaeth drwy chwarae bowls dros fy nghwlad - De Affrica, Sbaen, Jersey, yr Alban, Lloeger, Iwerddon a nawr cael fy newis i chwarae bowls dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia! Wel dyna beth oedd gwireddu breuddwyd!!!

Bowls newydd yn Awstralia
Fe fues yn ffodus i gael mynd allan i Awstralia ym mis Ionawr eleni am naw diwrnod i ymarfer a chwarae Gemau Prawf yn erbyn Awstralia a'r Alban. Roedd yn brofiad braf i gael dod yn gyfarwydd a hedfan mor bell! Ond y peth pwysicaf i fi oedd cyfarwyddo 芒 chwarae allan yna. Dydi'r 'bowls' yr wyf yn gyfarwydd 芒'i chwarae, ddim yn gweithio yr un peth yn Awstralia am sawl rheswm. Felly bues yn ymarfer gyda 'bowls' newydd allan yna, a phenderfynnais brynu 'bowls' newydd.

Roedd yn bwysig paratoi pob rhan o'r g锚m yn y misoedd cyn i'r gemau ddechrau. Roedd yn rhaid ymarfer tipyn, a chwrdd 芒'r merched yr oeddwn yn mynd i chwarae gyda nhw. Roedd hyn yn anodd weithiau oherwydd roeddwn yn chwarae yn y 'triawdau' gyda merch o Gasnewydd a merch o Berriew. Rhan amlaf felly, byddem yn cwrdd yn Llandrindod. Yn ystod yr amser paratoi, fe fuom yn cael amser gyda seicolegydd a dietegydd er mwyn paratoi a thrafod pob agwedd o'n g锚m ni.

Ar 么l yr holl baratoi, mynd i Heathrow ar Fawrth 5ed er mwyn hedfan i Melbourne! Roedd rhan fwyaf o'r staff a th卯m Cymru wedi hedfan allan ar Fawrth y 3ydd. Felly dim ond ni, bechgyn saith bob ochor Cymru a th卯m tenis bwrdd oedd yn hedfan gyda'i gilydd. Cawsom groeso mawr ar yr awyren, a'r capten yn rhoi croeso personol i ni.

Fe gyrhaeddom Melbourne ar 么l taith hir o tua 30 awr ers gadael Cellan, a dim ond aros am awr ym maes awyr Singapore. Er ei bod hi ond chwech o'r gloch y bore fe benderfynom mai'r peth gorau i wneud oedd ceisio aros ar ddihun trwy'r dydd, er mwyn trio ymdopi 芒'r jet-lag'.

Profiad braf oedd cael byw yn yr 'Athletes Village' - pentref oedd wedi cael ei adeiladu yn arbennig ar gyfer y gemau. Roedd dros 4000 o athletwyr yn aros yno. Roedd diogelwch yn bwysig ofnadwy, edrychwyd trwy fagiau pawb a cherdded trwy 'security screen', fel yn y maes awyr, pob tro yr oeddem yn mynd yn 么l i'r pentref, ac roedd rhaid gwisgo pass' drwy'r amser.

Roedd yn bentref prysur a diddorol iawn, gyda phobol o dros 70 o wledydd yn cymysgu ac yn byw yn gytun. Roedd yn rhaid rhannu llawer o'r cyfleusterau e.e. y lle golchi dillad, ystafelloedd byw lle 'roedd yn bosib ymlacio a gwylio teledu, neu defnyddio'r cyfrifiadur a'r we. Yr oedd amser bwyta hefyd yn ddiddorol - bwyta mewn 'marquee' mawr tua maint cae p锚l droed, ac yr oeddem yn gallu bwyta ac yfed unrhyw beth, 24 awr y dydd.

Pobl wahanol - bwydydd gwahanol
Amser brecwast, pan fydden ni'n cael sudd oren a cereal, byddai rhywun o wlad fel Namibia yn bwyta reis a curry! Yr oedd t卯m Cymru i gyd yn byw gyda'i gilydd. Roeddem ni'n byw mewn t欧 gyda'r merched nofio, a'r merched codi pwysau, ac yn gweld y nofiwr David Davies a Tanni Grey Thompson a llawer o aelodau eraill dawnus t卯m Cymru a thimoedd eraill yn ddyddiol.

Yn ystod yr wythnos gyntaf roedd yn bwysig ymlacio ychydig, i ymarfer y bowlio, a dod yn gyfarwydd 芒 phob dim cyn i'r cystadlu ddechrau o ddifri.

Yn ystod yr wythnos, cynhaliwyd seremon茂au croesawu yn y pentref. Croesawyd t卯mau yn ddyddiol. Yn y seremoni roedd - chef de mission, Ann Elis oedd un Cymru - ac roedd hi yn diolch am y croeso. Fel rhan o draddodiad roedd yn rhaid rhwbio ein dwylo ym mhridd daear Awstralia. Yna roedd baner y ddraig goch yn cael ei chodi yn y pentref ac yn hedfan hyd ddiwedd y g锚mau.

Roedd diwrnod y seremoni agoriadol yn ddiwrnod hapus iawn i fi yn bersonol, oherwydd roedd y teulu wedi cyrraedd. Am y pump diwrnod blaenorol roedd Tim y g诺r, Alis a Hari y plant, Mam a Dad a Barbara, fy mam yng nghyfraith, wedi bod yn Hong Kong ar eu gwyliau. Teimlad cysurus iawn oedd cael y teulu yn aros yn ddiogel yn Melbourne dros y cyfnod.

Roedd hi'n deimlad gwych i gerdded i fewn i'r seromoni agoriadol. Tra roedd T卯m Cymru yn aros y tu allan i'r stadiwm, roedd yr awyrgylch yn gr锚t; pawb yn gynhyrfus ac yn edrych ymlaen i'r cystadlu i ddechrau. Pan glywais enw 'Wales' yn dod dros y uchelseinydd mae'n anodd iawn i ddisgrifio'r teimlad o emosiwn a phan yn cerdded i mewn i'r seremoni! Roeddwn mor falch o fod wedi cael fy newis i gynrychioli Cymru. Teimlais fy mod wedi fy anrhydeddu!

Cychwyn y cystadlu
Cychwynais chwarae 'bowls' y bore canlynol - chwech o ferched mewn carfan; un yn chwarae mewn cystadleuaeth unigol, dwy yn y parau, a minnau yn chwarae mewn t卯m o dair. Cawsom ddechreuad da; ennill yn erbyn Malaysia, a cholli yn y prynhawn yn erbyn Lloeger ar y 'Tie - break' (tamaid bach fel penalty shoot out mewn g锚m p锚l droed, i rhai sydd ddim yn dilyn bowls). Teimlais ein bod wedi chwarae yn well na Lloeger yn ystod y g锚m gyfan, ond fe gawsom un pen esgeulus - hwnnw yn ddigon i golli'r g锚m i ni.

Dyna'n hanes ni drwy ddwy g锚m arall, colli i Dde Africa, ac yn erbyn yr Alban and ennill yn erbyn Ynys Nuie.

Yn y tywyllwch
Fe gawsom ni g锚m ddiddorol iawn yn erbyn yr Alban. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi chwarae mewn llawer sefyllfa 'od' ac ym mhob math o dywydd, ond y noson yma roeddem yn chwarae dan lif-oleuadau, ac hanner ffordd trwy'r g锚m fe wnaeth y golau i gyd ddiffodd! Dim unwaith, ond ddwywaith! Doedd neb yn siwr iawn beth oedd yn digwydd am tua deg munud; roedd hi mor dywyll ond ar 么l cael y 'generators' i weithio, cafwyd golau ar y sefyllfa eto.

Yn anffodus, y nawfed safle allan o bymtheg o dimoedd oedden yn y diwedd. Roedden yn teimlo ein bod ni wedi chwarae yn ddigon da i fod mewn safle uwch yn y diwedd. Ond fel yna mae'n mynd!

Cefnogi'r bowlwyr

Cefnogi'r bowlwyr eraill am yr wythnos olaf wnes i, a threilio amser gyda'r teulu i weld o amgylch Melbourne. Gwnaeth y parau orffen yn chweched ac enillodd Betty Morgan o Landrindod y fedal arian; - wedi cynrychioli Cymru am y pedwerydd tro yn y gemau yma, hyfryd oedd gweld hi yn ennill medal dros ein gwlad.

Y seremoni cau oedd y diweddglo i'r cyfan - noson i bawb fwynhau ac ymlacio a chaei sbri. Teimlad gr锚t oedd bod ochor arall y byd a chael neges testun ar y ff么n symudol i ddweud fod rhywun wedi gweld llun ohonof ar y teledu yn ystod y seremoni!"

Erthygl gan Anwen Butten


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy