成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Catrin Bellamy Jones a Dafydd Lewis Rali Ewropeaidd Clybiau Ffermwyr Ifanc
Medi 2004
Catrin Bellamy Jones yn adrodd hanes t卯m ffermwyr ifanc Cymru yn y Rali Ewropeaidd ym Melffast.
Mae'r Rali Ewropeaidd yn un o'r cyfleoedd gwych hynny a gynigir gan fudiad y Ffermwyr Ifanc i deithio a chyfarfod 芒 phobl o ar draws Ewrop sydd 芒 diwylliannau a chefndiroedd gwahanol ac amrywiol ac rwy' newydd ddod n么l o wythnos addysgiadol, gymdeithasol, hwyliog yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd dechrau'r daith i d卯m Cymru sbel cyn hynny - n么l ym mis Tachwedd, gyda chyfweliadau i ddewis yr aelodau oedd yn mynd i gynrychioli a hybu'r mudiad a'r wlad allan yn Ulster. Roedd y gystadleuaeth am y pump lle ar y t卯m yn frwd, a'r rhai a fu'n ddigon ffodus i gael eu dewis oedd Dafydd Lewis C.Ff.I Cwmann (Sir G芒r)- arweinydd y t卯m, Aled Jones (Sir G芒r), Penny Francis (Gwent), Anna Thomas (Meirionnydd) a minnau. Roedd haf 2004 i weld yn bell i ffwrdd ddiwrnod y cyfweliadau ond buan hedfanodd yr amser!

Dechreuodd y paratoi a'r cyfarfodydd ar gyfer y rali yn syth yn y flwyddyn newydd gyda Dafydd yn profi i fod yn arweinydd i trefnus a gweithgar!! Roedd tipyn o drefnu i sicrhau taith lwyddiannus. Roedd angen dod o hyd i noddwyr, dewis gwisgoedd traddodiadol, casglu bwydydd ar gyfer y byffe rhyngwladol a threfnu adloniant.

Dechrau'r daith
Gwawriodd bore Sadwrn Gorffennaf y 24ain yn gynnar i'r t卯m gyda rhan fwyaf o'r aelodau yn dal i drio dod dros pedwar diwrnod hir a chaled yn y Sioe Frenhinol. Rhaid oedd teithio i Fryste i ddal yr awyren i Belfast ac wedi cyrraedd maes awyr prif ddinas Gogledd Iwerddon cawsom ein croesawi gan aelodau o bwyllgor trefnu'r rali - a dyna ein profiad cyntaf o'r croeso a chyfeillgarwch twymgalon oedd yn mynd i fod yn nodweddiadol o'r wythnos.

Campws coleg Amaethyddol Greenmount oedd ein cartref am yr wythnos. Lle bendigedig gyda chyfleusterau modern, gerddi prydferth a digon o fwyd da! Dechreuodd y gweithgareddau yn syth gyda gemau "dod i adnabod ein gilydd." Gyda thimau o tua ugain o wledydd o ar draws Ewrop, o'r Alban i Awstria ac o Weriniaeth Iwerddon i'r Gweriniaeth Tsiec - roedd digon o waith dod i adnabod pobl. Cyn bo' hir serch hynny roddwn ni gydfel un teulu mawr a phawb yn adnabod ei gilydd!

Agorwyd y Rali yn swyddogol ar y bore Sul gyda pherfformiad gwefreiddiol gan ddrymwyr a phibellwyr band Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon - a phob un ohonynt yn gwisgo cilt! Cofiwch - nid y Gwyddelod a'r Albanwyr yn unig oedd yn gwisgo eu cilts. I'r agoriad roedd hi'n ofynnol i bob t卯m wisgo gwisg traddodiadol eu gwledydd.

O'r dechrau roedd Aled yn awyddus iawn i ddangos ei bengliniau (siapus?!) a gwisgo cilt Cymreig. Doedd Dafydd ddim cweit mor siwr ond yn y diwedd y cilts a'th 芒 hi a rhaid dweud roedd bechgyn Cymru yn edrych cystal - os nad gwell, na'u cefndryd Celtaidd! Golygfa wych oedd gweld pawb yn eu gwisgoedd traddodiadol. Croesawyd aelodau a gwahoddedigion y rali gan Lynda Steel sef cadeirydd y Pwyllgor Ewropeaidd a chanwyd y gloch i ddatgan dechrau'r Rali. Yn dilyn yr agoriad cawsom gyfle i ymgymryd 芒 chwaraeon megis rygbi a "hurling" ac fe geision ni fod yn artistig wrth greu murluniau oedd yn adlewyrchu ein gwlad. Yn anffodus profodd y weithgaredd yma nad oedd arlunydd yn nh卯m Cymru!

Thema addas Gogledd Iwerddon
Thema'r Wythnos oedd Gorchfygu Gwrthdaro ar Draws Rhaniadau Diwylliannol. Addas iawn o gofio'n lleoliad ac amserol iawn hefyd o edrych ar sefyllfa'r byd heddiw. Bu holl weithgareddau'r wythnos yn ymwneud 芒 thrafod rhesymau gwrthdaro, rhagfarn, achosion o wrthdaro yn ein bywydau personol ac o fewn cymdeithas ac wrth gwrs dulliau o orchfygu'r gwrthdaro hynny. Bu^m yn ymgymryd 芒 gweithgareddau amrywiol mewn timoedd cymysg - tasgau cydweithio a chyd drafod; siarad trwy problemau a rhwystrau - yr ateb i wrthdaro ar bob lefel mae'n siwr. Logo'r rali oedd dwy law yn cydio yn ei gilydd. Oes, rhaid agor drws i ysgwyd llaw.

Ymwelwyd 芒 Londonderry yn ystod yr wythnos. Cerddasom furiau'r ddinas ac ymweld ag ardal y Bogside gan edmygu'r murluniau pwerus sydd yn darlunio hanes gythryblus Gogledd Iwerddon. Daethom o'r ddinas gyda ychydig gwell dealltwriaeth o darddiad ac achosion cymhleth gwrthdaro'r wlad. Er nad oes olion gweledol amlwg o'r gwrthdaro bellach heb law am y murluniau ac ambell i slogan. Ar wal, mae'n amlwg fod y drwg deimlad yn dal i fod yn fyw yn y cof ac fe gymer genedlaethau i'r creithiau wella.

Ar y daith honno cawsom ein diddanu gan ddawnswyr Gwyddelig a'r cyfle i gwrdd a holi John Hume enillydd y wobr heddwch Nobel Laureate am ei waith gyda phroses heddwch Gogledd Iwerddon. Cafodd yr arweinyddion hefyd gyfle i ymweld ag adeilad senedd Gogledd Iwerddon yn Stormont.

Cawsom ein croesawi am noson i gartrefi deuluoedd aelodau Mudiad Ffermwyr Ifanc Ulster a chael blas o letygarwch gwresog trigolion Gogledd Iwerddon. Roddodd yr ymweliadau yma hefyd gyfle i ni weld cefn gwlad go iawn y wlad. Mae Gogledd Iwerddon yn wlad brydferth iawn. Coedwigoedd a chaeau gwyrdd, tir bryniog, waliau cerrig - tebyg iawn i Gymru a dweud y gwir, a gwlad sy'n werth ymweld 芒 hi.

Ar y dydd Gwener cawsom y cyfle i weld sut mae whisgi enwog Bushmills yn cael ei ddistyllu cyn mynd ymlaen wedyn i'r Giants Causeway ar arfordir y gogledd a chyfle i weld a cherdded y creigiau siap hecsagon a ffurfiwyd miloedd o flynyddoedd yn 么l. Fel daearyddwraig roeddwn i wrth fy modd yno gan dynnu degau o luniau o'r cerrig!

Blas ar y bwffe rhyngwladol
Ar 么l diwrnodau llawn o weithgareddau byddech yn meddwl bod cyfle i orffwyso gyda'r nos - ond na, ar 么l swper rhaid oedd dechrau 'to! Cafwyd noson y "byffe" rhyngwladol. Pob gwlad yn paratoi arddangosfa o gynnyrch eu gwlad. Roedd bwrdd y Cymry yn gorlifo 芒 chig oen a chig eidon, caws, bara brith, cacennau, seidir, gwin, te a d诺r Cymreig. Roedd cyfle wedyn i grwydro'r byrddau i flasu danteithion y gwledydd eraill.

Roedd rhai bwydydd yn fwy blasus na'i gilydd ond yn gyffredinol roedd y diodydd i gyd yn ddigon cryf i redeg tractor! Roedd noson yr adloniant rhyngwladol yn llawer o hwyl hefyd. Roedd pob gwlad wedi paratoi pum munud o gyflwyniad. Cafwyd stori William tell gan y Swistir, sgets gan Weriniaeth Iwerddon, dawnsio a chanu gan yr Albanwyr ac mae Ewrop gyfan yn gallu canu "bing bong" yn dilyn cyfraniad y Cymry!

I gloi'r rali cafwyd noson fendigedig yng ngwesty'r Ewropa ym Melffast, a dyna ni, roedd Rali Ewropeaidd 2004 wedi dod i ben. Do, fe fu'n wythnos lwyddiannus iawn. A diolch i'r cwmn茂au a'r unigolion hynny a wnaeth noddi t卯m Cymru a chyfrannu tuag at y llwyddiant hwnnw. Byddem yn annog pob aelod o fudiad ffermwyr ifanc i gynnig am le ar d卯m y Rali Ewropeaidd, ac os nad ydych yn aelod eto - ymaelodwch ar frys a chymerwch y cyfle. Gwnewch chi ddim difaru.

Catrin Bellamy Jones
Llanwenog, Ceredigion.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy