成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
'Na'r 'steddfod ore to'!
Medi 2007
Eryl Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, Llambed yn edrych yn 么l ar 诺yl y rhuddem a dathlu 40 mlynedd o Eisteddfod yn y dref.

"Mwynheais mas draw - ffaelu gadael cyn y diwedd"! "Ond o'dd y plant bach lleol yn dda fore Sadwrn - a Rhiannon yn cal nhw i ganu Pen blwydd Hapus i'r steddfod wedyn".!! "Fi fel arfer yn mynd am baned adeg araith y llywydd - ond o'n nhw i gyd yn spesial eleni - ond o'n nhw"!

Dim ond rhai o'r sylwadau a glywais ar goridor yr ysgol adeg y penwythnos ac ar y stryd yn Llanbed gydol yr wythnos ddiwethaf yw'r uchod - ac fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, dyna braf oedd derbyn ymateb mor gadarnhaol.

Oedd, mi roedd yn 'steddfod dda, a'r orau eto, hynny yw - tan y flwyddyn nesaf!!. Bydd unrhyw broblemau a diffygion a brofwyd eleni wedi cael eu gwyntyllu gan y Pwyllgor Gwaith gweithgar erbyn hynny - ac o ganlyniad bydd 'steddfod 2008 yn well fyth - coeliwch fi.

Ac yna'r llywyddion - gwir pob gair - roedden nhw yn arbennig ac os nad oeddech yn sylweddoli yn barod, roedd pob un ohonynt wedi cael gwahoddiad oherwydd eu cysylltiad uniongyrchol 芒'r Eisteddfod wreiddiol ddeugain mlynedd yn 么l, a'r rhan bwysig roeddent hwy, neu aelodau o'u teulu wedi ei chwarae yn sefydlu a datblygu'r 糯yl i'r hyn y mae heddiw.

Bu Delyth Medi yn y gyngerdd agoriadol ar y Nos Wener yn s么n am ei dyddiau cynnar hi yn cystadlu ac yn byrlymu o hwyl wrth gofio am yr adegau difyr hynny, a'u rhieni, wrth gwrs, wedi bod ynghlwm 芒'r 糯yl ers y cychwyn cyntaf. Yna ei brawd a'i chwaer yng nghyfraith , Dorian a Rhian, yn brif swyddogion yr Eisteddfod erbyn hyn ac yn gwneud gwaith tu hwnt o arbennig.

Yna Mrs Margaret Jones, Coedmor ar y Sadwrn - cawsom wledd yn ei chwmni gyda'i haraith mor ddidwyll. Soniodd am ei diweddar Fam, Mrs Janet Lewis, sef Cadeirydd cyntaf y Pwyllgor Gwaith 'n么l yn 1967, a'r hwyl a gawsent ar yr aelwyd yn Llyscerdd tra Mrs Lewis yn ceisio cynghori a chadw trefn ar y swyddogion ifanc.

Mrs Meinir Jackson wedyn ar y nos Sul, yn Llais Llwyfan Llambed, yn s么n mor ddifyr fel yr oedd hi wedi cael y dasg o gyflwyno tusw blodau i Mrs Janet Lewis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn yr eisteddfod gyntaf ac er iddi ddysgu ei araith fer ar ei chof, pan gyrhaeddodd y llwyfan, aeth yn nos arni - ac ni ddaeth yr un gair o'i cheg! Ynghanol yr hwyl roedd adegau teimladwy hefyd wrth iddi s么n mai yno ar ran y teulu yr oedd i anrhydeddu ei thad a'i mam, y diweddar Edwin a Beryl Jones, a wnaeth gymaint dros gyfnod o bymtheng mlynedd ar hugain i hyrwyddo a datblygu'r adran lenyddol gyda'r Babell L锚n yn uchafbwynt blynyddol.

Wedyn ar y Llun, y Parch Goronwy a Mrs Beti Evans oedd yn derbyn yr anrhydedd o fod yn llywyddion. Cyfeiriodd Goronwy at y llun, o waith y diweddar Mrs Needham, sydd wedi addurno cefn y llwyfan yn flynyddol, a chadwodd y dorf ar gledr ei law wrth iddo fynd drwy'r blynyddoedd a'u cyffelybu 芒'r d诺r sydd wedi mynd dan y bont yn y llun. Ymfalch茂ai yn ei ddewis o swyddogion a'r ffaith fod Dorian fel is-ysgrifennydd wedi cymryd yr awenau oddi wrtho ac roedd yn amlwg yn gwbl hyderus fod yr eisteddfod mewn dwylo cadarn a diogel i'r dyfodol.

O safbwynt personol, beth dybiech chi fydd yr uchafbwyntiau a erys ar frig fy nghof i o'r 糯yl, neu'r Eisteddfod y Rhuddem? Wel, yn bendant bydd areithiau'r llywyddion yn uchel ar y rhestr ac yna yn y gyngerdd fendigedig nos Wener, pwy all anghofio cyflwyniad unigryw Rhian Mair Lewis ac Aled Hall o Hywel a Blodwen. Bydd y gwasanaeth yn Brondeifi bore'r Sul yng ngofal y Parch Goronwy Evans a'r anerchiad cofiadwy am warchod ein treftadaeth ag Aled Hall yn canu ' Iesu, Iesu, rwyt ti'n ddigon' yn sicr yn aros yn hir ar y cof . Yna Llais Llwyfan Llambed ar y Nos Sul ac allan o 14 cystadleuydd yn y rhagbrawf , dwy o ferched ifanc o Geredigion yn dod i'r brig. Gwawr Edwards yn cipio'r Tlws a'r mil o bunnoedd, a oedd gyda llaw yn rhoddedig am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gan Mr Jack Jones, Gellideg, ac yna Rhian Lois Evans yn ennill yr ail wobr o 拢500 a oedd yn rhoddedig gan Douglas Bros.

Ar y Llun profiad cofiadwy oedd gweld yr un person sef, Guto Dafydd, g诺r ifanc dwy ar bymtheg oed yn codi i alwad y corn gwlad yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc ac eto i gystadleuaeth y gadair, sef y brif wobr lenyddol Y gadair hardd, gyda llaw, o waith cywrain gof ifanc lleol sef, Alec Page, ac yna ar y Nos Lun, y Babell L锚n. Ni ellir peidio 芒 rhyfeddu at ddawn ein beirdd ifanc, a'r cymeriadau arferol yn disgleirio unwaith eto, wrth gwrs. Yna Meira Turner, enillydd y brif gystadleuaeth lefaru (ac enillydd cyson ar hyd y blynyddoedd) yn gadael y cwpan ar y bwrdd gan ddweud mai Eisteddfod Dathlu'r Rhuddem yn Llambed fyddai'r olaf un iddi gystadlu gan ei bod yn ymddeol.

Ond i mi, y Sadwrn ddaeth ar uchafbwyntiau mwyaf cofiadwy oherwydd, wrth agor yr eisteddfod yn swyddogol, soniais am wneud cacen ddathlu a phan ofynnodd Rhiannon i'r plant bach a fu'n cystadlu o dan 6 oed i gydganu pen blwydd hapus i'r 'steddfod - roeddwn ar ben fy nigon ac yna yn y prynhawn pan gododd Ioan Wyn i alwad y corn gwlad yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith - ni ellwn fod yn hapusach.

Do, cyneuwyd nifer helaeth o ganhwyllau disglair i oleuo'r gacen ddathlu dros y penwythnos ac ni allaf ddiolch digon i bawb a fu'n gymaint rhan o benwythnos mor lwyddiannus - boed stiwardiaid, swyddogion, beirniad, llywyddion, noddwyr, cynulleidfa neu unrhyw un arall a fu'n gyfrifol am lwyddiant y penwythnos.

Cofiwch bawb am Gymanfa Ganu'r Dathlu yng Eglwys Soar, Llambed ar nos Sul 9fed o Fedi am 7.00 o'r gloch gyda arweinydd ynghyd 芒 chyfeilydd dawnus ag adnabyddus, Trystan Lewis a Robert Nicholls a hefyd yr unawdydd, Kees Huysmans. Mynediad yn 拢4.00 a'r elw tuag at bwyllgorau lleol Ymchwil y Galon, y Cancr a Chlefyd y Siwgwr.

Yn dilyn y gymanfa ganu byddaf yn diosg fy het Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac yn ei throsglwyddo i Mrs Janet Evans ac wrth ddymuno'n dda iddi wrth ymgymryd 芒'r swydd carwn ddiolch i bawb am y cydweithio hapus ac am wneud fy nhymor o ddwy flynedd yn un cofiadwy.

Eryl Jones

  • Safon Eithriadol yn Eisteddfod y Dathlu (gan Janet Evans)
  • Eisteddfod yn dathlu'r deugain

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy