"Mae'n werth troi'n alltud ambell dro ..."
Mae nifer anferth o bobol ardal Llanbed newydd ddod yn 么l o Catalunya, y wlad sy'n croesi'r ffin rhwng Sbaen a Ffrainc. Y rheswm am hynny oedd ein bod ni ein tri, o Benynant, wedi mynd yno hefyd.
Lle bynnag yr oedden ni'n mynd ar ein gwyliau, roedden ni'n gweld pobol oedd yn debyg i rywrai o'r ardal gartre' - trwyn fan hyn, gw锚n fan draw, llygaid gan rywun arall a bola gan ambell un.
Roedd hyd yn oed ddarnau o'r wlad yn debyg hefyd - hewl trwy ganol coed yn atgoffa dyn o'r stretsh syth yna i lawr am Talsarn, a nant yn y mynyddoedd yn debyg i'r un oedd gan Ceiriog.
Dyna fyddwn ni'n ei wneud yn aml wrth deithio - adnabod pethau cyfarwydd. Mae pawb yn dweud eu bod nhw'n mynd i ffwrdd i weld pethau gwahanol ond yn gorffen trwy weld pethau tebyg.
Cofiwch, mae rhai yn gwneud hynny fwy na'i gilydd, a rhai o'r cenhedloedd mawr yn waeth na neb. Nid dim ond sylwi ar debygrwydd y maen nhw ond gwneud yn si诺r fod llefydd yn newid i fod yn debycach fyth.
Yma ac acw ar hyd glannau'r 'Med', mae yna swyddfeydd gwerthu tai sy'n arbenigo ar wasanaethu pobol o wledydd Prydain. Mae yna bapurau newydd bach wedi eu creu ar eu cyfer a chaffis a bariau'n cynnig awyrgylch Saesneg.
Mewn rhannau o Ffrainc, mae pobol leol yn anhapus am fod eu ffordd o fyw'n cael ei newid yn llwyr wrth i fwy a mwy o bobol o wledydd Prydain symud i mewn a phrynu tai ha' a thai parhaol. Mae'r trigolion lleol bellach yn cwyno fod prisiau tai'n codi, fod bywyd economaidd naturiol yr ardaloedd yn cael ei stumio a chymunedau'n marw. Mewn llefydd fel Catalunya - a Llydaw - mae ganddyn nhw'r broblem ddwbwl o ddelio efo mewnfudwyr Ffrangeg a Sbaeneg yn ogystal ag o'r gwledydd hyn.
Er mwyn trio plesio a llwyddo mewn busnes, mae pobol leol yn barod iawn i fracsan siarad Saesneg ac i gynnig yr union beth y mae'r twristiaid a'r mewnfudwyr yn chwilio amdano. A finnau, unwaith eto, yn gweld y cyfarwydd mewn lle dieithr.
Ar ddiwedd y gwyliau, do'n i ddim yn si诺r iawn a ddylwn i deimlo'n well am fod llefydd eraill yn yr un cwch 芒 ni, neu a ddylwn i gr茂o am hynny.
Un peth sy'n braf am grwydro strydoedd trefi a phentrefi Ffrainc a Sbaen ydi amrywiaeth y siopau. Mae yna rai archfarchnadoedd mawr wedi agor ar gyrion un neu ddwy ohonyn nhw ond dim byd tebyg i'r frech o ddatblygiadau y tu allan i'n trefi ni. Ar wah芒n i'r dinasoedd mawr, does yna ddim tagfa o siopau cadwyn chwaith - gyda phob un yr un peth ac yn ddigymeriad.
O ganlyniad, mae pob canol tre' yn wahanol a hynny, yn ei dro, yn eu gwneud nhw'n werth ymweld 芒 nhw. Ac, ym mhob tre' fach, mae yna sawl pobydd a chigydd a siop gacs a phethe o'r fath.
Cyn bo hir, fe fydd cynghorwyr Ceredigion yn gorfod ystyried pethau fel hyn wrth i Tesco geisio cael yr hawl i godi archfarchnad yma. Mi fydd y ddadl yn Llanbed yn un glasurol - rhwng y rhai sy'n dweud y bydd siop fawr yn denu pobol a'r rhai sy'n ei gweld hi yn lladd busnesau bach.
Does dim pwynt esgus ei bod hi'n ddadl hawdd - mae'r angen i gystadlu efo trefi eraill yn amlwg a pheryg wastad y bydd rhagor o bobol yn mynd i siopa yn rhywle arall.
Ond mae'r hen ddadl fod eisie'r swyddi wedi mynd - does dim angen rhagor o swyddi cyflog-isel yng Ngheredigion; yr hyn sydd ei angen ydi busnesau lleol sy'n gallu tyfu a chynnig gwaith a dyfodol.
Ac, o fy mhrofiad i ar y cyfandir, amrywiaeth sy'n denu pobol, nid yr un peth ym mhob man.