成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Llun o Mr David Morgan a John Davies Cymeriadau'r Fro
Mehefin 2005
David Morgan yn dathlu gweithio yn siop ddillad Daniel Davies am 50 mlynedd. Twynog Davies yn adrodd y hanes.

Mewn cyfnod pan fydd pobl bellach yn dueddol o newid eu swyddi yn aml yn ystod eu gyrfa, braf yw cael cofnodi y bydd David Morgan, ar y 5ed o Fehefin, wedi gweithio yn siop ddillad Daniel Davies am 50 mlynedd. Yn wir mae ei ddiwrnod gwaith wedi ymestyn i 63 o flynyddoedd ers iddo adael ysgol Cellan yn 14 oed.

Fe'i anwyd yn un o saith o blant - chwech chwaer ac felly ef oedd yr unig fachgen yn y teulu. Yn 么l y drefn ar y pryd, rhaid oedd gadael yr ysgol yn ifanc a chwilio am waith. Cafodd ei swydd gyntaf yn 1942 yn siop Nun Davies' (ble mae siop Lomax erbyn hyn), ar gyflog o goron yr wythnos (25c) neu 拢12 y flwyddyn, ond roedd yn cael ei ginio a'i de yn y fargen. Siop yn gwerthu dillad, dynion a merched, ac hefyd blancedi; a'r arfer oedd gosod y dillad a'r blancedi mewn rhes tu allan i'r siop er mwyn denu'r cwsmeriaid i mewn.

Yn 1955, symudodd y diweddar Daniel Davies i'r siop bresennol ac mi gyflogwyd David, neu Morgan i'w ffrindiau. Yng ngeiriau Dafydd Iwan "Rwyf yma o hyd", ac mae'n dal i fwynhau y gwaith yn fawr er ei fod yn awr yn 76 oed.

Gwerthodd ei siwt frethyn gyntaf am 拢7.95, ac mae wedi gwerthu cannoedd o siwtiau a phob math o ddillad arall er y cyfnod hynny. Cafodd wefr arbennig wrth gyfarfod rhai o enwogion y byd, y mwyaf efallai oedd yr Arlywydd Jimmy Carter. Mae yna lythyr o ddiolch gan Carter mewn ffr芒m i gofnodi'r achlysur. Bu Richard Baker hefyd yn gwsmer, heblaw am lawer o feddygon enwog Llundain. Daw llawer o weinidogion yn eu tro, y Parch D. Ben Rees o Lerpwl yn ymwelydd cyson iawn pan ddaw ar ei bererindod i'r dre. Yn wir, mae'r siop yn denu cwsmeriaid dros ardal eang iawn. 'Roedd David yn teimlo er hynny fod llawer o bobol erbyn hyn wedi colli'r balchder mewn gwisgo'n daclus - y Jeans a'r T-shirt wedi di-sodli'r siwt a'r g么t draddodiadol.

Ni fuasai wedi aros yn y swydd cyhyd onibai fod ganddo barch ac edmygedd mawr tuag at ei gyflogwyr, sef Mrs a'r diweddar Daniel Davies, ac erbyn hyn John a Rosemary.

Mae gan David a'i briod Eileen bedwar o fechgyn - Alan Keith, Peter a Tony, a saith o wyrion. Er nad oes ganddo ddiddordeb mewn chwaraeon, mae'n ymfalchio fod ei 诺yr Endaf, wedi cynrychioli T卯m Rygbi Cymru o dan 18 oed, fel bachwr. Gwyddom hefyd am ddoniau cerddorol Endaf a'i ddau frawd Eiddug a Cerith. Treulio noson yn gwylio opera yw un o brif ddiddordebau David, ac mae'n werthfawrogol iawn o ymdrechion y Theatr yn Felinfach i ddenu'r cantorion gorau.

Na, does dim s么n am ymddeol. Yn wir, anodd yw meddwl am siop Daniel Davies heb 'Morgan' tu 么l y cownter. Mae ein dyled yn fawr iddo am ei w锚n siriol, ei gymorth a'i gyngor parod a'r croeso cynnes wrth ymweld 芒'r siop. Dymunwn y caiff iechyd i gario ymlaen am flynyddoedd eto.

Erthygl gan Twynog Davies


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy