Torrodd y Cynghorydd Hadyn Richards, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion y dywarchen gyntaf i nodi bod y cwmni Dean a Dyball Construction yn dechrau'r gwaith o adeiladu ysgol newydd sbon i gymryd lle'r hen ysgol gynradd sydd dros gant oed. Cyllidir yr ysgol newydd gan fenter Llywodraeth y Cynulliad i wella adeiladau ysgol. Bydd y prosiect, sy'n costio dros 拢3.5 miliwn ac a gynlluniwyd gan Benseiri Cyngor Sir Ceredigion, yn darparu'r cyfleusterau mwyaf modern ar gyfer disgyblion 3-11 oed ar draws y Cyfnod Sylfaen newydd a Chyfnod Allweddol 2.
Nododd y Cynghorydd Haydn Richards, "Mae hwn yn achlysur cofiadwy iawn. Rwy'n falch o fod yn gysylltiedig 芒 gwireddu'r prosiect cyffrous hwn. Roedd yr angen i ddarparu o'r newydd yn lle hen adeilad Ffynnonbedr a oedd yn dirywio ac yn mynd yn fwyfwy annigonol, yn un o flaenoriaethau Cyngor Sir Ceredigion ers ei ddechreuad. Bu hyn yn freuddwyd i lywodraethwyr, staff a rhieni ac rwy'n falch y bydd cyfleusterau o'r safon uchaf ar gael i gefnogi'r dasg o addysgu disgyblion yn yr Ysgol. Rydym yn ddyledus i Lywodraeth Cynulliad Cymru am eu cyllid a'u cefnogaeth."
|