成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Darlun o'r ysgol gan Aerwen Aduniad Llanfair Clydogau 2003
Tachwedd 2003
Hanes yr Ysgol
Yn ystod y ddeunawfed ganrif prin iawn oedd yr ysgolion yng nghefn gwlad Ceredigion. Ni fedrai plwyfolion tlawd fforddio talu am addysg i'w plant.

Roedd ysgolion preifat yn cael eu cynnal gan bobl ddysgedig yn eu cartrefi, ac felly yr oedd hi yn Llanfair. I fechgyn yr oedd yr ysgolion yma ran amlaf ond er hynny cafodd ysgol i ferched ei hagor yn Offis Fach yn 1840, gan Saesnes o'r enw Miss Pierce.

Cynhaliwyd ysgol hefyd yn y Plas, (bwthyn ger Gwarffordd) gydag Evan Davies yn 1848; D.S.Davies yn Tynfron a Troedybryn yn 1854/55, John Evans yn Gwarffordd o 1860 -1870, a Beni Bach yn Tynewydd yn 1860.

Dechreuodd William Jones ysgol yn Ysgoldy'r Mynydd yn 1863 a fe agorodd yr Ysgol Fwrdd yn 1877,a bod yn brifathro yno am y chwe mis cyntaf. Prif Athrawon yr ysgol o hynny ymlaen oedd Roland Pritchard o Sir F么n, 1877 - 78; Daniel Jenkins (Llanycrwys wedyn) 1878 - 97; D.R.Cleaton-Davies 1897 - 99; R.Satchwill 1899 -1901, Hugh Jones o Gaernarfon 1901 -1917; Miss M.J.Thomas o Lambed 1917 -1935; Jack Poole 1935 - 43; Miss Eiddwen James 1943 -1975 a Mrs Jean Davies 1975 - 76. Caewyd yr ysgol yn 1976, blwyddyn yn unig cyn y byddai wedi dathlu ei chanmlwyddiant.

Yn ystod gwanwyn 2003 fe benderfynodd grwp o gyn ddisgyblion brwdfrydig ysgol Llanfair drefnu aduniad i'r ysgol. Fe etholwyd John Green, Nantgwyn, yn cadeirydd ac o dan ei arweiniad fe aethant ati i gasglu gwybodaeth. Rhoddwyd y gwaith o ymchwilio enwau'r cyn-ddisgyblion yn nwylo medrus Iris Quan, Blaencwm a Gwyneth Jones, Noyadd. Aethant i'r Archifdy yn Aberystwyth a phori drwy'r hen gofrestrau, ac wedi oriau o chwilio, tynnwyd restr o'r cyn- ddisgyblion oedd yn dal yn fyw. Hyn oedd y cam cyntaf.

Fe benderfynodd y pwyllgor wneud mwgiau gyda llun yr ysgol a'r dyddiadau arnynt. Fe roddwyd y gwaith hyn i Aerwen Griffiths, Pengarn. Crochendy Felingwm a fu'n gyfrifol am wneud y mygiau.

Y dasg fwyaf oedd chwilio am gyfeiriadau newydd yr holl enwau ar y rhestr, ac ar 么l wythnosau o chwilio fe ddanfonwyd llythyr dwyieithog allan yn gwahodd pawb i ginio yn y Talbot, Tregaron nos Sadwrn Hydref 18fed ac i gymanfa ganu ar y dydd Sul. Roedd yr ymateb i'r gwahoddiad yn arbennig, ac ar nos Sadwrn, Hydref 18fed daeth cant a deugain i Ginio'r Dathlu yn y Talbot. O'r funud gyntaf roedd yn amlwg fod y noson yn mynd i fod yn un bythgofiadwy gyda phawb yn darganfod hen ffrindiau, sgwrsio, chwerthin a phori dros yr hen luniau yn yr arddangosfa.

Cyn eistedd i fwyta fe groesawodd John Green pawb i'r aduniad a soniodd yn enwedig am un person oedd wedi teithio o Sbaen i fod gyda ni. Gwnaethpwyd Cacen y Dathlu gan Iris Quan, Blaencwm. Pleser oedd ei gweld wedi ei haddurno mor brydferth gyda model o'r ysgol ar ei phen. Torrwyd y gacen gan un o'r rhai hynaf sef Eiddwen Weekes Pentrelan, a'r ifancaf, sef Dilys Evans, Nant y Medd. Roedd pawb yn cytuno ei bod yn flasus dros ben.

Yn oriau m芒n y bore daeth y bws i gasglu'r rhai oedd wedi aros hyd y diwedd. Diolch i bawb a helpodd i drefnu noson fythgofiadwy ac i bawb a gyfrannodd anrhegion i'r raffl.

Ar brynhawn Sul, Hydref 19fed cynhaliwyd Cymanfa Ganu'r Dathlu. Da oedd gweld Capel Mair bron yn llawn i gydganu dewisiad da o emynau oedd yn adnabyddus i bawb, yn Gymraeg a Saesneg. Ian Evans, Esgairman oedd yn gofalu am drefn y gwasanaeth, ac estynnodd groeso i'r Canon Aled Williams a gymerodd at y rhannau arweiniol.

Mrs Elonwy Davies, Llanybydder oedd yr arweinyddes gyda Mr Brian Jones wrth yr organ. Mae Elonwy 芒 chysylltiad 芒'r ysgol trwy ei thad, a fu'n byw yn Pen Cnwc ac yn ddisgybl yn yr ysgol. Yn ystod y gwasanaeth cawsom wledd o ganu, ac mae'n rhaid dweud nad oedd Capel Mair wedi clywed canu o'i fath ers blynyddoedd. Rydym yn ddiolchgar dros ben i Elonwy a Brian am wneud y gymanfa yn un mor llwyddiannus. Mwynhawyd cyfraniad plant Ysgol y Dderi yn fawr iawn, adroddodd Charlotte Evans ddarn o farddoniaeth o waith y diweddarEiddwen James; cafwyd eitemau gan y c么r a bu Gemma a Lowri yn chwarae offerynnau. Diolch iddynt ac i Mrs Alwena Williams a fun eu hyfforddi.

Mrs Aerwen Griffths, Pengarn oedd y llywydd ac ar 么l siarad yn fyr am ei hatgofion a'i theimladau tuag at yr ysgol, fe aeth ymlaen i ddarllen darn o farddoniaeth oedd hi wedi ysgrifennu ar gyfer yr achlysur.

Atgofion

Mewn mwyniant
ar ochor mynydd
yng nghysgod y cod,
cefais fynd i'r ysgol
yn bedair od.
Cofiaf y ffawydd
eu dail yn fy nallu
gyda'u lliwiau llachar,
a'r wiwer goch
yn dangos ei doniau
wrth ddringo
a chuddio ei chnau.

Mynd ar ben beic
mewn s锚t y tu 么l,
bod yno cyn naw,
sai'n cofio dim glaw,
glas oedd y nen
a heulog yr hin.

Dechrau yr ysgol
a chydio mewn llaw,
llythrennau i'w dysgu,
hwiangerddi i'w canu;
dysgu darllen, dysgu rhifo,
doedd dim amser i freuddwydio;
mas ir iard i chwarae cwato,
mewn i'r porch i olchi dwylo;
scipio, - miwn a mas o'r canol,
chwarae p锚l ar wal yr ysgol;
dysgu table byth a beunydd,
llunio blode fel arlunydd.
Ysgrifennu rhwng llinelle,
pen ag inc a heb cael blote;
dysgu adrodd, dysgu canu
ac enjoyo y barddoni
sgwennu stori hunangofiant
am hen garreg ai diwylliant;
dysgu gwau a dysgu gwinio,
helar bechgyn mas i arddio;
mynd am dro dros ffridd a ffos,
casglu llysiau ar y rhos,
mwyar duon mewn poteli, -
torri nghlun yn dost a wnes i-
craith yn aros na hyd heddi.

Disgwyl tywydd oer y gaeaf,
sbeshal trit i'r plant oedd hynaf-
lawr y rwrgi yn yr eira
ar y sledj ac ar ein bola,
at y garreg o oes yr i芒
a llaw o Rufain wedi cerfio'r cop,
yna sc锚to ar y pwllyn
ambell waith pob un yn sopyn;
cloch yn canu, n么1 i sychu
flan y t芒n, a phawb yn crynu.
Bwyd i'n twymo, cawl mor flasus
Mrs Williams mor gysurus,
esgus byta'r pys a gronan
i'r ty bach a'u poeri allan;
Tynnu c么s a byth ddiflaster
hi'n ein sbwylio ni bob amser.

Cerdded adre gyda ffrindie
hela mefus yn y cloddie
car i'n cario ar amsere
car fy main, a'i gofal hithe.

Athrawes a'i thalentau di-ri
hi yn unig Win dysgodd i,
ei hysbrydoliaeth ddaeth
a'u ddawn a'u dysg
i ddeffro'r dychymyg
- dyma addysg.
Cofio byd sy'n lliwio'n bod.

Gwnaed y diolchiadau gan Mr David Evans, Riverside Cottage a cyflwynwyd basgedaid o flodau ir llywydd gan Rebecca Miller a blodyn i'w phriod gan Ffion Quan. Derbyniodd Mrs Ann Davies, Prifathrawes Ysgol y Dderi fwg i'r ysgol i atgoffa'r plant am y digwyddiad. Cyflwynwyd mygiau hefyd i Mrs Elonwy Davies ac i Lynda Cadman gan Mathew Miller.

Ar 么l y canu gwych cerddwyd dros y bont i Neuadd y Pentref lle cafwyd gwledd wedi'i pharatoi gan y merched - cyn-ddisgyblion a ffrindiau. Diolch yn arbennig i Eleri Davies, Pentre, am ei gwaith yn helpu ac yn trefnu a sicrhau y cyfan oedd eu hangen wrth baratoi'r arlwy. Wedi'r bwyd, cerddodd llawer i fyny i'r ysgol ar y bryn, llawer heb fod yno ers iddynt adael yr ysgol. Mae'r adeilad nawr yn gartref prydferth i Lynda a Tony Cadman a'u teulu, a rhaid diolch yn gynnes iddynt am fod mor garedig ac agor eu cartref i lu o gyn-ddisgyblion a rhoi cyfle iddynt ddwyn atgofion am yr amser a fu.

Dan ac Aerwen Griffiths


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy