成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Cerddwyr Llambed
Mai 2005
Cerddwyr Llambed yn cael croeso arbennig yn Nantes La Loire ar daith yn Ffrainc.

Bore dydd Mercher aeth 13 o gerddwyr gyda bws ac awyren i Nantes La Loire yn Ffrainc. Cawsom ein cludo i Gite Rural, tu allan i'r dref sydd wedi gefeillio 芒 ni. Mae St Germain sur Moine yn le tua maint Llambed ond llai o siopau o lawer. Dyma siawns i gadarnhau y gyfeillach rhwng y ddwy dref ac fe gawsom groeso arbennig fel arfer, amicabl convivialis, gyda aperitif a brioche, y bara lleol.

Cerdded a gweld gwlad y sevre Nantaise oedd y pwrpas, ac fe gawsom fap i ddangos hanner dwsin o lefydd cyfagos, hanesyddol a phert. Portillium yn gyntaf ger canllaw nantaise yng nghanol y gwinllannoedd. Yr oeddem yn dechrau dod o hyd i ffyrdd newydd a dilyn arwyddion.

Le Pallet yr ail ddiwrnod. Daeth gyrrwr y bws gyda ni. Yr oedd yn ferch hawddgar ac fe ffeindiodd y ffordd trwy'r pentref cyntaf gyda help menyw mewn brat ddaeth allan i'n hyfforddi. Mae'r afon wedi troi y felin dros ganrifoedd, a chawsom bicnic mewn castell yn edrych i lawr ar Le Pallet. Y mae 么l y rhufeiniaid yma, hanes torcalonnus cariad Heloise a Abelard .

Ar y penwythnos cawsom ein diddori gyda'r dref. Cerdded o un pentref i'r llall a dod yn 么l i fwyd a gwin a sgwrs yn neuadd ysgol gyda'r maer. Roedd arddangosfa yn neuadd y dref a neuadd y maer am gelfyddydau lleol, ac yr oedd gwaith llaw y merched yn dryliw, a hen bethau fel iau ychen yn ddeniadol.

Yr oedd y Gites rural ar y fferm yn ddiddorol ac wedi ei hasaethu o amgylch yr hen dai fferm. Fe gawsom le da iawn gan Mr & Mme Dugast, a bwyd a gwin mewn digonedd. Mae'r bwyd yn flasus ac yn dod o lefydd lleol. Dyma rwydwaith da i aros yno.

Y mae ffermydd gwartheg a llawer o gaeau gwair ffrwythlon, a digon o flodau, ac roedd c芒n yr adar yn ein swyno, gwanwyn yn ei ogoniant. Lle poblogaidd oedd y llyn cyfagos a llwybr o'i amgylch. Fe deimlwn yn gartrefol yma. Rhyw amser yn yr wythnos aethom i weld fferm a gwinllan, a chael glased bach o win ac oysters, - dyma beth yw byw!

Dydd Sul, Dimanche-ein ffordd oedd o amgylch Clisson, lle wedi ei ail adeiladu yn debyg i'r Eidal ar 么l y rhyfel cartref o amgylch y castell mawr ar farchnad gae毛dig hanesyddol. Y mae yn le hudolus.

Dydd Llun, i'r dref fawr Nantes gyda thr锚n o Clisson, ac yr oedd yn le prysur ond gl芒n, gyda thramiau trydan. Edrychom ar y Castell, a'r siopau llewyrchus golygus, a thorri ein syched yn yr Irish Pub. Cawsom ginio, 2 awr fel pob Ffrancwr arall. Beth allem wneud wedyn ond eistedd yn y parc yn y dref, ac edmygu ei harddwch. Mae canol dydd yn amser sanctaidd yma i gael cinio hamddenol.

Dydd Mawrth - mardi -, oedd Rober a Daniel yn ein disgwyl yn Tiffagues, lle a thipyn o fawredd yn ei osodiad. Castell ar fryn, dros lyn mawr.Yr oedd y Rhufeiniaid yn tramwyo yma ac mae olion heol dda o'i hamser mewn cyflwr da. Dyna beth oedd pensaern茂aeth. Picnic wedyn yn yr haul yn Le Parc Ribou, tu allan i dre Cholet. Parc ydyw ger y llyn, lle mae llawer yn dod i chwarae, hwylio neu hamdden. Cerdded wnaethom ar ochr y llyn drwy gaeau gwair llawn blodau. Y mae llawer o ddant y llew yma ac maen debyg fod y gwartheg yn ei hoffi.

Diwrnod diwethaf wedi dod, amser wedi hedfan! Y mae'n rhaid dweud am y ddwy fferm arall welsom a'r arallgyfeirio. Yn gyntaf, fferm a llawn cae o goed cyll. Beth a wnaed i gadw'r wiwer allan? Peidiwch 芒 gofyn! Ond yr oeddynt yn deulu cartrefol ac yn perthyn i'r maer.

Yr ail fferm oedd lle yn gwneud m锚l, ac yn dodi'r cychod dros Ewrop gyfan. Defnyddio pollen o flodau gwyllt o bob math. Y mae yn fwy caled bob blwyddyn achos llygredd. Teulu Mary oedd enw y cwmni ac fe gawsom groeso, a hanes y gwenyn. Yr oedd Marged o Dregaron wrth ei bodd.

Dyma bicnic arall amser cinio, a g锚m o fowls a dweud ffarwel wrth ein 'Hosts' am eu lletygarwch. Dweud ffarwel wrth ein ffrindiau yn enwedig Laurance, Solange a Minnie oedd wedi trefnu pethau a g诺r y post Thierry a lli arall, hedfan yn 么l i Gatwick yn llawn atgofion melys. Bydd rhaid mynd yn 么l cyn hir! Tr猫s Bien.

Erthygl gan Philip a Ceris a Criw


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy