Cynhaliwyd noson ardderchog yng nghapel Bethel, Drefach yn ddiweddar pan wahoddwyd Emyr Llywelyn i ddarlithio ar hiwmor Waldo Williams ac Idwal Jones. Cafwyd toreth o straeon difyr am y ddau fardd ac am hanes Emyr Llywelyn ei hun ym myd addysg. Roedd y capel llawn yn fwrlwm o chwerthin a phawb yn mwynhau gwrando ar stor茂wr dawnus wrth ei waith. I gloi'r noson cafwyd medli o ganeuon Idwal Jones gan Leisiau'r Werin, sef c么r o ferched lleol o dan arweinyddiaeth Mrs Elonwy Davies gyda Mrs Dulcie James wrth yr organ. Roedd y gynulleidfa wrth ei bodd yn ymuno yng ngeiriau'r hen ffefrynnau, megis 'Siani', 'Eistedd ar ben llidiart' a'r 'Un dyn bach ar 么l' . Llywydd y noson oedd Mrs Ann Davies, Dolgors, Llanllwni. Magwyd Ann yn Garth Villa, Drefach a chroesawyd hi gan weinidog y capel sef y Parchedig Rheinallt Davies. Cyfrannodd Ann yn hael iawn at y gronfa a chyflwynwyd blodyn iddi ar ran y capel gan Meinir Jones Pwllybilwg. Diolchwyd i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson gan Gillian Jones, Meysydd a chyfeiriodd at gefnogaeth a chymorth Pwerdy Plwyf Llanwenog at y gweithgaredd diwylliannol arbennig hwn. I gloi'r noson paratowyd paned o de ac ymborth blasus gan wragedd y Capel yn Neuadd y Pentref.
|