 |
 |
 |
Dyddiadur y daith i Sweden Mai 2004 Yn ddiweddar, fe aethom ni fel aelodau o flwyddyn 12 ar daith i Sweden. |
 |
 |
 |
Roeddem ni'n mynd ar ymweliad 芒 thref fach o'r enw Kalix yng ngogledd y wlad - taith a drefnir ers nifer o flynyddoedd bellach. Aeth pymtheg o ddisgyblion ar y daith a oedd yn para o'r 18fed - 28ain o Fawrth. Roeddem ni'n hedfan o Heathrow ar y dydd Iau ac yn cyrraedd Kalix yn hwyr y noson honno. Roedd pawb yn synnu at garedigrwydd y teuluoedd oedd yn ein croesawu am wythnos ac yn barod am noson dda o gwsg!
Dydd Gwener cawsom daith o gwmpas yr ysgol a oedd yn cynnwys adran adeiladu, nyrsio, garej a stablau - tipyn o sioc i ddisgyblion Llanbed! Gyda'r hwyr, cawsom bryd o fwyd traddodiadol o Sweden yn yr ysgol - blasus iawn!
Teithio i'r Ffindir wnaethom ni ddydd Sadwrn a chael ymweliad 芒'r Amgueddfa yn Rovaniemi a mynd i weld Si么n Corn! Dydd Sul, cawsom ddiwrnod o ymlacio gyda'n 'teuluoedd' newydd a chyfle i chwarae yn yr eira rai!
Gadael am ogledd Sweden ddydd Llun ac ymweld 芒'r 'Ice Hotel' enwog, roedd yno eglwys, theatr a bar - a'r cyfan wedi eu creu o i芒!
Ymweliad 芒 Chanolfan Ffiseg a'r mwyngloddiau haearn oedd wedi eu trefnu ar gyfer dydd Mawrth ac roedd yn ddiwrnod addysgol iawn.
Cafwyd amser da gan bawb fore dydd Mercher yn sgio, eirfyrddio a slejo ar lethrau'r ysgol a threuliwyd prynhawn diddorol yn y ffatri bapur leol.
Cawsom wersi Swedeg yn yr ysgol fore dydd Iau a llawer o hwyl ar y 'Snow Mobiles' yn y prynhawn.
Teithio i Stockolm ddydd Gwener a phawb yn drist wrth adael y ffrindiau newydd yn Kalix. Cawsom daith o gwmpas Stockholm ac ymweliad ag amgueddfa'r teulu Vasa a oedd yn gartref i un o longau mwyaf y brenin enwog Gustavus Adolphus.
Diwrnod o siopa oedd dydd Sadwrn a sioe ffasiwn yn y gwesty gyda'r nos wrth gymharu bargeinion!
Dychwelyd i Lanbed ddydd Sul gyda llond c锚s o ddillad brwnt a sawl ffilm llawn atgofion.
Hoffem ni i gyd ddiolch o galon i Mrs Pat Jones, Mrs Margaret Williams, Miss Anwen Jones a Mr Gareth Wyn Jones am wneud y daith yn bosib. Edrychwn ymlaen i groesawu ein ffrindiau o Sweden yn 么l i Gymru yn yr Hydref.
Gwennan Evans
 |
 |
 |
 |
|

|