成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Cymeriad Bro - Mrs Aerwen Griffiths
Tachwedd 2005
Twynog Davies yn cyflwyno un o gymeriadau ardal Llanbed sef yr arlunydd, Aerwen Griffiths.

Byddwn yn rhyfeddu'n aml at ddawn ein harlunwyr cyfoes yng Nghymru gyda'r gallu i greu darluniau byw o gymeriadau, tir lun, pentref neu gartref. Mae Aerwen Griffiths yn brysur ennill enw da fel artist o fri, ac wrth gwrs, mae'n byw yn ein plith ni yn ardal Llanbed. Ond beth am ei chefndir?

Symudodd ei rhieni o Lundain i ardal y Bont yn ystod yr ail ryfel byd, ac mewn llecyn bach ger Rhosgelligron y ganwyd Aerwen. Pan yn dair oed, symudodd ei theulu i fferm y Pandy yn Llanfair Clydogau, a bu hyn yn drobwynt pwysig yn ei bywyd, gan iddi ddod o dan ddylanwad y diweddar Miss Eiddwen James tra yn yr ysgol yn Llanfair. Bu Eiddwen yn athrawes arni o 4-11 oed, yn wir, yr unig athrawes yn yr ysgol. Llwyddodd i ddylanwadu cenhedlaeth o blant i werthfawrogi barddoniaeth, llenyddiaeth, cerdd a'r celfyddydau. Roedd Eiddwen James, heb os, yn athrawes 'o flaen ei amser', ac yn dysgu'r plant i werthfawrogi'r amgylchfyd a byd natur o'u cwmpas.

Mwynh芒d pur oedd ei chyfnod wedyn yn Ysgol Gyfun Llanbed, a dylanwad llawer o'r athrawon yn fawr arni, yn enwedig Sally Davies yn yr Adran Gymraeg. Ar 么l gadael yr ysgol, aeth ymlaen i Goleg CF Mott yn Lerpwl i astudio celf a cherdd.

Ar 么l gadael y Coleg, penodwyd hi i'w swydd gyntaf yn athrawes yn Ysgol Dihewid, ond yn y dyddiau hynny nid oedd bywyd yng Ngheredigion ddigon rhamantus i ferch ifanc, a dyma geisio am swydd, a'i chael mewn ysgol gynradd yn Leamington Spa - ardal gwbl wahanol i'w chynefin yng Ngheredigion.

Yn ystod y cyfnod yma, cyfarfu a'i phriod Dan, mewn Capel Cymraeg yn Coventry. Brodor o Ddowlais oedd Dan ac yntau yn athro Ymarfer Corff yn Nuneaton. Ar 么l priodi yn 1966, ganwyd iddynt ddau o blant, Aled a Sian, ac erbyn hyn, mae yna bedwar o wyrion a'r pumed ar y ffordd! Mae Sian ac Aled yn dilyn diddordeb eu mam mewn cynllunio argraffic a thecstiliau, ac mae gan Aled ei fusnes ei hun.

Tra yn magu'r plant, rhoddodd Aerwen y gorau i ddysgu ond ar 么l cyfnod ail gydio yn y gwaith a bu'n dysgu Celf mewn Ysgol Ganol yn Leamington Spa (Plant 8-13) am ddeunaw mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma ymunodd a ch么r Dewi Sant yng Nghoventry, a'r Warwick Operatic Society.

Ar 么l blynyddoedd o ddysgu a gweld y gwaith yn mynd yn fwy anodd, dyma benderfynu ymddeol yn gynnar yn 1995, a dod yn 么l at ei gwreiddiau. Adeiladwyd eu cartref presennol, yn yr h锚n ardd, yn y Pandy. Bu ymddeoliad Aerwen yn symbyliad iddi ddatblygu ymhellach ei diddordeb mewn paentio.

Caiff ysbrydoliaeth ryfeddol wrth ail ddarganfod ei chariad at ei chynefin, tirluniau Ceredigion a barddoniaeth Gymraeg. Mae'n ymgeisio bob amser i gyflei emosiwn personol yn y pethau cyfarwydd trwy orbwysleisio elfennau ffurff a lliw, a thrwy hunanfynegiant. I greu'r darluniau, rhaid defnyddio amrywiaeth o baent, pasteli, papur, pensil a.y.b. er mwyn creu y gweadau perthnasol.

Wedi dychwelyd i'r fro, mae wedi creu nifer fawr o ddarluniau sy'n cynnwys rhosys, lluniau llonydd ar y Teifi, Neuadd y Dref Llanbed, Llanddewi brefi ar gynfas, hen adeiladau ffermydd a nifer o luniau o Dowlais Top - cartref ei phriod. Mae wedi cael tair arddangosfa ei hun yn Theatr Mwldan, Aberteifi, Oriel y Llys yn Llanbed, ac yn Oriel Emrys yn Hwlffordd. Hefyd bu'n arddangos yn Oriel Davies, Y Drenewydd ac yn Celf Cambrian yn Nhregaron, ac yn dilyn hyn, mae llawer o'i lluniau wedi'u gwerthu. Derbyniodd hefyd sawl cais am waith Comisiwn gan unigolion. Un o'r trysorau yn ein t欧 ni yw llun gan Aerwen o'm hen gartref yn Nyffryn Tywi, a llwyddodd yn eithriadol i gyflei darlun byw o'r cartref a'r adeiladau yn ystod cyfnod fy mhlentyndod. Ni fedraf roi pris ar werth y llun yma i mi.

Elfen arall o ddiddordeb Aerwen yw barddoni - yn enwedig cyfansoddi telynegion. Mae'n aelod ffyddlon o ddosbarthiadau Idris Reynolds, a bellach mae'n aelod o d卯m Talwrn Llanbed. Rhai blynyddoedd yn 么l bellach, dyma gyfansoddi telyneg ar y testun 'Gwers' sydd yn adlewyrchiad byw o'i diddordeb mewn arlunio. Enillodd y delyneg farciau llawn gan y meuryn Gerallt Lloyd Owen.

Gwers
Dysgu adnabod
y manylion
sy'n llochesi
yng nghorneli'r gweld
Rhoi geiriau i'r llygaid
a lliw i ryddid
i ddehongli
y lluniau llonydd,
y tirluniau oesol,
y blodau,
a'r llysiau,
a dal
noethni golau
yng ngh么l y cysgodion.
Myfyrio
ar Monet
ymgolli yng ngwylltineb Pollock
arbrofi
nwyfusrwydd Picasso
canfod dynoliaeth Herman,
a byw gyda John Elwyn,
Ogwyn a Kyffin
yn eu milltir sgw芒r
cyn dysgu gweld eto
gyda haniaeth plentyn
drwy ddrych y profiadau
yn wyrth or newydd.

Mae Aerwen yn gefnogol iawn i sawl mudiad yn y dref, ac mae'n Gyn-lywydd Merched y Wawr. Er y pellter i Leamington Spa, mae'n edrych ar 么l yr wyron yn rheolaidd, ac mae hyn yn rhoi cryn bleser iddi er yn waith caled! Mae Aerwen a Dan wedi ymdoddi i'r gymdeithas ar 么l dod yn 么l i'w cynefin, ac mae'r ddau ohonynt drwy aml weithgareddau yn brysur tu hwnt.

Er ei phrysurdeb, mae Aerwen yn gobeithio parhau i ganolbwyntio ar greu mwy o ddarluniau eto ar destunau sy'n apelio ati, o fewn ei chynefin. Mae'n sylweddoli fod yna gyfoeth mawr yn perthyn i fro ei mebyd a thu allan, sy'n rhoi her arbennig i unrhyw arlunydd. Edrychwn ymlaen yn eiddpar am fwy o'i chvnnyrch.

Erthygl gan Twynog Davies


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy