成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Safon Eithriadol yn Eisteddfod y Dathlu

Tyrrodd y cystadleuwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar Benwythnos G诺yl y Banc i Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen a oedd eleni yn Dathlu'r Rhuddem a bu'r tywydd braf yn goron ar y cyfan.

Agorwyd y gweithgareddau ar nos Wener gyda chyngerdd gwych. Fe'n cyfareddwyd gan berfformiadau arbennig y ddau unawdydd sef Aled Hall a Rhian Mair Lewis gydag Eirian Jones yn cyfeilio. Pleser pur hefyd oedd gwrando ar y gr诺p "Adastras" ynghyd 芒 Ch么r ABC o dan arweiniad Angharad Fychan a Louise Amery yn cyfeilio. Mwynhawyd gwledd ardderchog gan artistiaid o fri; dyma noson o ddiwylliant Cymraeg ar ei orau.

Eleni eto roedd y cystadlu cyfyngedig ar y dydd Sadwrn yn 么l y beirniaid o safon eithriadol o uchel a phrawf o hyn oedd gweld nifer helaeth o'r plant a'r bobl ifanc leol yn cyrraedd y brig yn yr Ardal agored. Enillodd Eurion Jones Williams, Cwmann y Ddysgl Rhosynnau er cof am Mrs Ray Morgan i'r cystadleuydd mwyaf addawol o dan 16 yn yr Adran Gerdd ar y dydd Sadwrn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Roedd cystadleuaeth "Llais Llwyfan Llambed" ar y nos Sul yn noson wefreiddiol. "Yr ydym yn llawenhau ac yn ymhyfrydu ein bod wedi denu 14 o gantorion ifanc ym mlwyddyn y dathlu," oedd sylw Rhiannon Lewis, arweinydd deheuig y noson. Roedd y cystadleuwyr yn ymgiprys am wobr gyntaf o fil o bunnoedd yn rhoddedig am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gan Jack Jones er cof am ei briod Ray a'i fab, Brynmor. Yr enillydd oedd Gwawr Edwards o Fethania, enillydd Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni; bydd Gwawr yn dechrau yn y Guildall yn Llundain y tymor hwn.

Dyfarnwyd Rhian Lois o Bontrhydygroes yn ail, Menna Davies o Gaerdydd yn y trydydd safle, Rebecca Afonwy Jones o Drefaldwyn yn bedwerydd ac Alex Roberts o Bow Street yn bumed. Wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd feirniad Huw Rhys Evans, llongyfarchodd Brian Hughes yr Eisteddfod ar ddenu nifer o gantorion gorau'r wlad mewn cystadleuaeth mor safonol a thalodd deyrnged uchel i'r athrylith Jeanette Masochi am ei gwasanaeth amhrisiadwy fel cyfeilydd. Hefyd yn ystod y noson cyflwynwyd beirniadaeth y gystadleuaeth cyfansoddi geiriau ar gyfer Emyn Bedydd gan Arwel Jones ac yn ei absenoldeb, cyhoeddwyd mai'r buddugol oedd John Roberts, g诺r hynaws o'r Groeslon sydd dros ei 90 oed.

Roedd enillydd y Fedal Ryddiaith am erthygl bortread yn wyneb cyfarwydd i bawb yn y gynulleidfa sef Ioan Wyn Evans o Gaerfyrddin, mab y Parch Goronwy a Beti Evans. Cipiwyd y Gadair dan 25 oed am delyneg mewn mydr ac odl ar y testun "Caethiwed" gan Lowri Evans o Beulah, Castell Newydd Emlyn gyda Sian Northey o Gricieth yn ennill y Goron am ddarn o farddoniaeth ar y testun "Lliw" neu "Lliwiau". Cyflawnwyd camp aruthrol gan Guto Dafydd o Trefor ger Caernarfon, myfyriwr 17 oed o Goleg Chweched Dosbarth Meirion Dwyfor a'i fam yn enedigol o Bencader. Enillodd y Tlws Ieuenctid i rai dan 25 oed am ddarn o ryddiaith ar y testun "Taith" a hefyd cipiodd y Gadair am saith englyn ar y testun "Byd Natur". Dyma'r ail waith yn unig hanes yr Eisteddfod i fardd ifanc gyflawni'r dwbl.

Llywiwyd y seremon茂au gan Dorian Jones a seiniwyd y corn gwlad gan Cerith Morgan. Mwynhawyd cyflwyniad merched ysgol Ffynnonbedr o'r ddawns flodau yn fawr iawn i gyfeiliant Carys Lewis ar y piano. Delor James a Meinir Ebbsworth oedd yng ngofal y seremon茂au dan 25 oed gyda disgyblion yr ysgol Gyfun yn cynorthwyo yn y Cadeirio. Roedd beirniaid yr holl Adrannau yn rhyfeddu at safon uchel y cystadleuwyr ac yn canmol y trefnwyr am Eisteddfod gartrefol, hapus a chroesawgar.

Fore Sul cynhaliwyd oedfa fendithiol ym Mrondeifi yng ngofal y Parch Goronwy Evans ar y thema "Gwinllan". Treuliwyd noson hwyliog iawn yn y Babell L锚n ac roedd yr arddangosfa Gelf a Chrefft yn werth ei gweld. Enillydd tlws arbennig yn yr Adran am yr eitem orau oedd Llywelyn Jones o Felinfach.

Agorwyd yr Eisteddfod ar y dydd Sadwrn gan Eryl Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r Maer y Cynghorydd Chris Thomas yn cyflawni'r swydd ar y dydd Llun. I gloi'r cystadlu nos Lun roedd pawb wrth eu bodd yn gwrando ar ddoniau disglair y llefarwyr a'r cantorion. Dyfarnwyd Kees Huysmans o Dregroes yn enillydd yr Her Unawd am yr ail flwyddyn yn olynol a Myra Turner o'r Waunfawr, Caernarfon yn gyntaf ar y Llefaru eto am yr ail flwyddyn olynol.

Diolchir o waelod calon i Dorian Jones yr Ysgrifennydd am ei ymroddiad a'i waith diflino, i'w briod Rhian y Trysorydd am ei chyfraniad pwysig hithau ac i swyddogion ac aelodau'r pwyllgorau ynghyd 芒 phawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd er sicrhau Eisteddfod lwyddiannus a chofiadwy i ddathlu carreg filltir bwysig iawn yn ei hanes. Yn olaf ond nid y lleiaf diolch yn ddiffuant i Eryl am ei harweiniad doeth a'i gwaith tawel tu 么l y llenni yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac am ei chyfraniad clodwiw o'r llwyfan yn ystod y Penwythnos.

Cyn troi tuag adref ar ddiwedd yr Eisteddfod, talodd Dorian ei werthfawrogiad yntau i Eryl ynghyd 芒 swyddogion ac aelodau'r pwyllgorau am eu cydweithrediad hapus. Talodd ddiolch haeddiannol i Dylan Wyn a'r staff am ddefnydd o'r Ysgol unwaith eto ac am eu cefnogaeth barod. Ymlaen yn awr i'r Aur!

Janet Evans

  • "'Na'r 'steddfod ore to'!" gan Eryl Jones
  • Eisteddfod yn dathlu'r deugain

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy