Fel y g诺yr y mwyfrif o ddarllenwyr Clonc, mae yna griw ffilmio wedi bod yn Llambed a'r cyffiniau yn ail-greu anturiaethau Dylan Thomas yn ystod y cyfnod a dreuliodd yng Ngheredigion - yn cynnwys yr hanes fel y bu i swyddog o'r fyddin geisio ei saethu.
Dydd Gwener, Mai 18fed.
Cyrraedd Ceinewydd yn hwyr y prynhawn, a dod o hyd i grwpiau o bobl yn sefyllian o gwmpas Capel yr Annibynwyr;- pawb a'u golygon tua'r nefoedd fel petai, gan ryw led ddisgwyl am gyfarwyddyd oddi fri, ond i ddim pwrpas! Felly, mentrais dorri drwy'r rhengoedd diogelwch i'r festri a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer 'Golygfeydd tyrfa'. Ymuno yno 芒 gwragedd Cei Newydd yn eistedd ar meinciau, a rhyfeddu at effeithiolrwydd meistres y gwisgoedd a'i staff. Doedd yna ddim gwallt hir steil hipi na wisgerod yn y 40au, felly roedd yn rhaid i'r dynion gydsynio yn reit handi ar gael rhain wedi'u symud!
Roeddent wrth eu bodd a'm gwallt hir brith, ond roedd yn rhaid i hwnnw gael ei droi'n donnog cyn ei dynnu n么l mewn bynnen - yn gwmws fel gwallt Mamgu. a rhwyd gwallt dros y cyfan. Cafwyd hyd i ffrog borffor i mi, ynghyd 芒 phais hir silc; p芒r o sgidie hynod o gyfforddus, gyda hoelion m芒n yn y gwadnau (mae'n anodd cofio am y rhain yn yr oes blastig yma!), a bag llaw hen ffasiwn i gwblhau'r wisg.
Dydd Llun, Mai 21ain.
Hwn oedd y diwrnod mawr! Roedd yn rhaid bod yn Ystafell Dalis, Y Llew Du erbyn chwarter i saith y bore, lle roeddem i wisgo a chael ein make-up. Rhoed fi o dan sychwr gwallt - atgof arall o ddyddiau ienctid. Roedd Jo Conti yno yn gweithio'n hynod o galed ac effeithiol fel meistres gwisgoedd.. Yna roedd yn rhaid aros i gael ein galw.
Roedd yna fagiau tywod yn gorchuddio llawr isa Neuadd y Dre, a Siop Cascade wedi ei weddnewid i fod yn siop gwerthu papur newydd, melysion a thybaco.
Ymhen hir a hwyr, daeth yr amser i ni fynd i fyny'r grisiau i 'Stafell y Llys, a chael ein lleoli yn oriel y cyhoedd. Eisteddai Matthew Rhys a Sienna Miller y tu 么l i ni, a Keira Knightley o'n blaen. Pobol yn gweiddi pethau fel "Camera", "Lights", "Action" a "Hold the Traffic", gan wneud pob math o bethau rhyfedd gyda'r offer dan sylw. Y Cyfarwyddwr yn dal i weiddi wrthym ni'r amaturiaid "Please remember to ACT".
Er bod yna dystiolaeth bod sawl ergyd dryll wedi ei anelu at Dylan Thomas, daeth y rheithgor i'r casgliad fod yr Uwchgapten Killick yn ddi-euog - er mawr lawenydd i'r brodorion lleol!
Aeth yn 4 o'r gloch y prynhawn cyn i ni gael ein rhyddhau, a dim ond wedyn roedd y rheithgor yn cael eu galw i'r Llys, - wedi bod yn disgwyl eu tro drwy'r dydd. Roedd un diwrnod yn eitha' digon, ond byddwn i ddim wedi ei golli am y byd.
Trannoeth, a ninnau ynghanol sbel o dywydd sych, roedd yn rhaid arllwys 'glaw' artiffisial ar ben y cast, gan ei bod yn glawio adeg y prawf yn y 40au.. Roedd yno hefyd geir Heddlu a chloch ar eu blaen, a'u goleuadau wedi gorchuddio o olwg awyrennau'r gelyn a allai fod yn hedfan uwchben.
I'r rhai sy' 芒 diddordeb: -
Daeth Dylan Thomas i ymweld 芒 Plas Llanina yn 1938 gydag Augustus John.
Yn 1941 bu DT a Caitlin yn aros ym Mhlas y Gelli, Talsarn, ac eto yn 42-43.
Roedd cysylltiad gyda Dylan 芒 theulu'r Phillips o'r adeg roedd y ddau deulu'n byw yn Abertawe. Vera Phillips briododd 芒 William Killick.
Roedd Caitlin yn disgwyl babi yn ystod y cyfnod yma,(42-43), a bu'n rasio ar gefn ceffyl Pentrefelin, 'Princess Marina' yn rasus Talsarn. Mae'n debyg iddi ddweud y byddai'n galw'r babi yn 'Aeron' os mae crwt bydde fe, ond iddi ofyn beth allai alw'r plentyn os mae merch fydde'n dod i'r byd,- ac yn cael yr ateb 'Aeronwy.'
Yn 1944 symudodd Dylan a'i deulu i fyw yn Traethgwyn, ger Cei Newydd,- i fyngalo oedd yn eiddo i Dr. a Mrs Albert Evans, Llambed. Majoda oedd enw'r lle, wedi ei enwi ar 么l plant Dr Albert - Margaret, John a David, a phris y rent oedd 拢1 yr wythnos. Dr. Albert oedd meddyg teulu'r Gelli, Talsarn, a thrwy'r cysylltiad yna y daethant i wybod am y lle. Yma y saethodd William Killick y dryll beiriannol nifer o weithiau y tu allan ac yn y t欧, ym mis Mawrth 1945, wedi tipyn o gweryla go danbaid yn nhafarn Y Llew Du yn Y Cei:- hyn oedd yr achos Ll欧s yn Llambed ym Mis Mehefin y flwyddyn honno.
N么l i'r ffilmio: mae'n debyg fod Rebekah Gilbertson, y Cynhyrchydd, yn wyres i William a Vera Killick, ac mae Sharman Macdonald, ysgrifennydd y sgript, yw mam Keira Knightley.
Edrychwn ymlaen i weld Jen yn y ffilm yn 2008.
Tomos Rhys yn cael llofnodion y s锚r