成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Clawr y rhifyn cyntaf Y Rhifyn Cyntaf
Chwefror 2007
Nans Davies un o olygyddion cyntaf Clonc yn hel atgofion wrth i'r papur bro ddathlu chwarter canrif.
  • 'Cofio'r Creu' - Atgofion Elin Williams
  • Clonc yn dathlu 25 - lluniau a chlipiau sain

    Pum mlynedd ar hugain yn 么l eisteddodd criw bach mewn tafarn lleol yn trafod y posibilrwydd o ddechrau papur bro yn yr ardal leol. Dangosodd pawb frwdfrydedd mawr ac aethpwyd ati i drefnu cyfarfod cyhoeddus. O'r fan hynny datblygwyd brwdfrydedd pellach.

    Clawr y rhifyn cyntaf o CloncYmddangosodd y rhifyn cyntaf ym mis Chwefror 1982 a'r pris yn 20c. Roedd un tudalen yn llawn o luniau yr eira mawr a'r lluwchfeydd mor uchel 芒'r cloddiau a gafwyd y mis blaenorol. Ar y dudalen flaen cafwyd llun o G么r Cwmann a'r arweinydd sef Mr Olifer Williams o Gwmann yn trosglwyddo arweinyddiaeth y c么r ar 么l deunaw mlynedd i Mr Elwyn Davies o Lanybydder. Ynddo hefyd roedd dau lun o bedwar o bobl ifanc o ardal Drefach wedi gwisgo lan ar gyfer 'blaco' nos Calan.

    Y golygyddion cyntaf oedd Elin James, Y Fron, Llambed a finne, Brynhyfryd, Llanwnnen gyda Haydn Lewis, Talgrwn, Llanwnnen yn olygydd chwaraeon. Y bwrdd busnes oedd Cen Llwyd, T欧'r Ysgol, Talgarreg yn gadeirydd, Ceinwen Roach, 5 Bro Llan, Llanwnnen yn ysgrifenyddes, Handel Evans, Heol y Bryn, Llambed a Robert Thomas, Llain Deg, Cellan yn drysoryddion, Elsie Davies, 19 King's Mead, Llambed yn deipydd ac Eifion Davies, Afallon, Drefach yn ffotograffydd. Plygwyd y papur bryd hynny yn Ysgol y Dolau, Llanybydder gyda chymorth y disgyblion. Diolchwyd i Mr Douglas Williams, Nantoer, Cellan am ei waith celfydd gyda chynllun yr enw Clonc.

    Dyma'r math o golofnau a ymddangosodd yn y rhifynnau cyntaf: Maes y Meddyg; Colofn y Dysgwyr; Popian (adolygiadau o ddawnsfeydd gyda bandiau yn yr ardal); Amaethyddiaeth; O gwmpas y t欧; Storws y Beirdd; Cornel y Plant; Llythyron; Natur; Chwaraeon; A ddarlleno ystyried a Sbel yn 么l.

    Cyfansoddodd y Parch. T. Glenfil Jones, Llanybydder ddau englyn i groesawu Clonc yn ei golofn Storws y Beirdd.

    Hwn rydd ysbonc i'ch cloncian; ac ennyn
    Ei gynnwys ymddiddan;
    Daw 芒 lles i fywyd llan;
    Ein huno yw ei anian.

    O eiddil ramant breuddwyd, hwn heddiw,
    O'i noddi, wireddwyd;
    Rhown wir sbonc i 'Glonc' heb glwyd,
    A hwylus groeso aelwyd.

    Rhai pethau oedd yn y dyddiadur - Bob nos Fercher am 8 o'r gloch - dosbarth colli pwysau 'Silhouette' yn cwrdd yn Neuadd y Pentref, Drefach. Cyngerdd yng Nghlwb Rygbi Llanybydder gan Doreen Lewis i godi arian i brynu teledu lliw i Ysgol y Dolau, Dawns gyda Ail-Symudiad yn Neuadd Fictoria, Llambed dan nawdd yr Urdd, Dawns gyda Omega yn Neuadd Blaendyffyn a Gwasanaeth yr Urdd yng Nghapel Soar, Llambed.

    Pen blwydd hapus i Clonc yn 25 oed a phob dymuniad da i'r papur.

    Oddi wrth un o'i sylfaenwyr.
    Nans Davies

  • 'Cofio'r Creu' - Atgofion Elin Williams
  • Clonc yn dathlu 25 - lluniau a chlipiau sain


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy