成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clonc
Logo Clonc yn 25 oed Cofio'r Creu
Chwefror 2007
Ym mis Chwefror 2007 mae Papur Bro Clonc yn dathlu ei ben-blwydd yn chwarter canrif. Gwahoddwyd rhai o'r cyn olygyddion i ddanfon eu hatgofion o'r dyddiau cynnar.
  • 'Y Rhifyn Cyntaf' - Atgofion Nans Davies
  • Clonc yn dathlu 25 - lluniau a chlipiau sain

    Dyma atgofion Elin Williams.
    Roeddwn i yno adeg y cenhedlu, y beichiogrwydd a'r geni ac rwy'n hynod o falch i mi hefyd fod yno ym mhum mlynedd ffurfiannol cyntaf y baban hwnnw, sef Clonc! Ac wrth gwrs wrth i Clonc ddathlu pen-blwydd yn chwarter canrif oed, mae rhywun yn rhwym o eisiau edrych yn 么l a hel atgofion (a sylweddoli cymaint o dd诺r sydd wedi mynd o dan y bont ers hynny!)

    Yn y dechreuad...
    N么l yn 1981 roedd criw ohonom yn gweld bod papurau bro yn ffenomenon rhyfeddol mewn nifer fawr o froydd yng Nghymru ac yn awyddus i weld papur bro yn ardal Llambed hefyd. Y gobaith a'r disgwyl oedd y byddai papur fel hwn yn denu pobl nad oeddent yn arfer darllen Cymraeg i ddarllen yr iaith a magu hyder. Roedd y papur hefyd yn mynd i gadw pobl mewn cysylltiad 芒'i gilydd a rhoi llais a bri i fywyd bob dydd pobol yr ardal. Doedd dim byd yn rhy ddibwys i'w gynnwys. Ar y llaw arall roedd cyfle i ddathlu a chodi ambell gwestiwn a gwthio ambell syniad yn ei flaen.

    Rhaid cydnabod yma gefnogaeth ac anogaeth Cen Llwyd i'r fenter. Yn sicr bu'n gefn mawr i Nans Davies (Williams ar y pryd) a minnau, y golygyddion cyntaf. Roedd y ddwy ohonom newydd ddod adref i weithio yn yr ardal ar 么l bod yn y coleg ym Mangor ac yn frwdfrydig iawn.

    Mae'r rhan fwyaf o'r hanes cynnar hwnnw wedi ei gofnodi yn y cofnodion sydd dal ar gael. Roedden ni'n dechrau gyda dalen wag. Rwy'n cofio mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol a phori trwy ugeiniau o bapurau bro o ardaloedd eraill er mwyn gweld sut oedden nhw'n mynd ati. Yn sicr roedd yno gyfoeth o syniadau. Yna roedd yn rhaid cael gohebwyr i bob pentref; swyddogion ar gyfer yr ochr fusnes; penderfynu ar ddelwedd, diwyg a logo; trefnu cysodwyr a gwasg; meddwl am golofnau a cholofnwyr rheolaidd; trefnu dosbarthwyr... Ac wrth gwrs cael enw.

    Bu'n rhaid cael cystadleuaeth, a 'nhad i, Cofrestrydd Genedigaethau wrth ei alwedigaeth, a enillodd gyda'r enw 'Clonc'! Aeth yntau ymlaen wedyn i fod yn Gadeirydd Clonc am 15 mlynedd. Roedd y cyfan yn mynd i fod yn her ariannol yn sicr gan nad oedd y grantiau sydd ar gael heddiw yn bodoli. Ar y pryd roedden ni'n credu y byddai codi arian yn rhan o hwyl y sefydlu - yn tynnu pobl at ei gilydd - ond buan y daethom i sylweddoli bod pob rhodd ariannol at yr achos yn ysgafnhau'r baich.

    Ar 么l i Nans roi'r gorau i olygu, fe gefais i'r fraint o fod yn gyd-olygydd gydag Olaf Davies oedd yn weinidog yn Llanybydder ar y pryd ac yna gyda Delor Hughes (James erbyn hyn) yn ogystal 芒 threulio cyfnod yn olygydd ar fy mhen fy hun. Wedi'r flwyddyn gyntaf, roedd y papur yn rhedeg ei hun i raddau. Y gohebwyr o'r pentrefi yn danfon pethau ar amser, y gwaith golygu yn mynd yn ei flaen ac Elsie Davies (Reynolds bellach) yn teipio. Hyn i gyd mewn oes cyn-gyfrifiadurol.

    Bu P卯t Dafis Talgarreg yn gyfaill ffyddlon hefyd gan ddod i gysodi'r papur yn fisol ('pasto'r papur' roedden ni'n galw'r broses bryd hynny). Fe brynon ni gamera yn cynnwys ffilm ddu a gwyn at ddefnydd y darllenwyr gyda gwahoddiad i unrhyw un ei fenthyg er mwyn cofnodi digwyddiadau. Yn anffodus, yn ystod ambell i fis fe ddil毛wyd pob llun oedd yn y camera wrth i bobl wasgu botymau anghywir! Yn aml fyddai dim syniad gennym pa luniau oedd wedi eu tynnu nes y byddai Eifion Davies yn eu datblygu yn ei ystafell dywyll yn Afallon, Drefach. Roedd un penwythnos o bob mis yn gorfod cael ei neilltuo i'r papur a doedd dim hyblygrwydd yn hynny o beth. Penwythnos Clonc!

    Rhai o'r pethau sy'n aros yn y cof...
    Rhifynnau dyddiol Eisteddfod Genedlaethol 1984. Dyma'r rhifynnau mwyaf cyffrous i mi ymwneud 芒 nhw yn ystod fy nghyfnod fel golygydd. Roedd peth o'r papur yn cael ei baratoi ymlaen llaw gyda phethau am yr ardal ond roedd y rhan fwyaf yn cael ei wneud o dan gyfyngiadau amser tynn, tynn a'r cyfan yn cael ei osod yn ei le mewn ystafell fach yng nghefn y pafiliwn. Roedd yna griw o bobl weithgar yn gwneud pob math o bethau - o adolygu pob drama, darlith a pherfformiad i grwydro'r maes yn chwilio am stori a chlecs. Roedd rhyw densiwn a chyffro yn yr awyr wrth i ni geisio cael popeth at ei gilydd, a'r tro hwn Cymru gyfan oedd ein 'bro'.

    'Yr hen fart'.
    Bu chwerthin mawr yn lleol ac ar y radio yn genedlaethol pan ymddangosodd y pennawd hwn yn y papur. Pobl wedi camddehongli'r ffaith mai cyfeirio at leoliad y farchnad yr oedd y pennawd!

    Colofnau
    Ymddangosodd colofnau rheolaidd megis 'Popian', oedd yn rhoi cyfle i ddisgyblion s么n am ddawnsfeydd ac ati ('gigs' fyddai'r gair erbyn hyn); colofn feddygol; colofn byd natur; colofn y beirdd... Bellach mae rhain wedi diflannu ond wrth gwrs mae pethau eraill diddorol wedi cymryd eu lle. Fel un sydd wedi ei magu yn y dref, mwynheais i'n bersonol ddarllen am 'Hen Siopau a Siopwyr Llambed' gan Maldwyn Hughes - st么r o atgofion manwl iawn.

    Y croeso
    Cofiaf y croeso diamod a dderbyniodd y papur pan ddaeth allan gyntaf n么l yn 1982 - croeso sydd yn dal yno yn yr ardal ar y dydd Iau cyntaf o bob mis.

    A nawr...
    Mae'r baban a anwyd 25 mlynedd yn 么l bellach wedi tyfu'n wraig hyderus, fywiog 芒'i hunaniaeth ei hun. (Ie, fel gwraig ifanc y gwelaf i Clonc er gwaethaf y logo o hen ddyn yn clustfeinio'n awchus - tybed a ydi hi'n bryd newid y ddelwedd hon?) Cefais y fraint o fod yn ei pharti pen-blwydd yn 21 oed a danfonaf nawr fy nghyfarchion ati yn chwarter canrif oed.

    Llongyfarchiadau i'r holl weithwyr. Pen-blwydd hapus iawn i Clonc a phob dymuniad da i'r dyfodol.

    Elin Williams

  • 'Y Rhifyn Cyntaf' - Atgofion Nans Davies
  • Clonc yn dathlu 25 - lluniau a chlipiau sain

  • Cyfrannwch

    Gwennan o Lanwenog
    Does dim byd yn well na dod nol o'r coleg yng Nghaerdydd a pori drwy'r rhifyn diweddaraf o 'Clonc' er mwyn dal lan da beth sy'n mynd mlan yn y ardal. Diolch i'r sefydlwyr!


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy