成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Tweli C么d Cristnogaeth
Rhufain, Moscow, Nevada, Istanbul, Treffynnon, Lithwania, Ynysoedd y Philipino . . . Detholiad o ddyddiadur Tweli Griffiths.
  • Dros gyfnod o chwech wythnos yn cychwyn Mehefin 17 2008 bydd y newyddiadurwr Tweli Griffiths yn cyflwyno cyfres deledu ar S4C yn edrych o'r newydd ar wahanol agweddau o Gristnogaeth.

    Ar C么d Cristnogaeth bydd yn darlunio ac yn dadansoddi arwyddoc芒d celfyddyd, eiconau, defodau, mythau a gwyrthiau sy'n ganolog i'r ffydd ers dros ddwy fil o flynyddoedd.

    Golygodd hyn deithio i sawl rhan o'r byd a gweld pob math o bethau rhyfeddol. Yn ystod y cyfnod bu'n cadw dyddiadur a chyhoeddwn yma ddetholiad o'r dyddiadur hwnnw.

  • Ynysoedd y Philipinos

  • Dyma'r Pasg mwyaf rhyfedd gefais erioed.
    Gwylio naw o ddynion ifanc yn cael eu croeshoelio mewn pentref bychan ar ddydd Gwener y Groglith.

    Croeshoelio Naw dyn sy'n credu mai dim ond trwy brofi dioddefaint Crist ar y Groes y mae ennill gwir faddeuant.

    Eu ffrindiau a pherthnasau yn dal eu hanadl wrth i'r hoelion fynd drwy'r dwylo.

    Dim niwed parhaol - un o'r naw'n diodde'r ddefod am y trydydd tro ar ddeg! Un arall ar ei fotobeic i fynd adre gwta hanner awr wedi'r profiad.

    Trefi cyfagos yn llawn gorymdeithiau gwaedlyd o fechgyn ifanc yn fflangellu eu hunain - chwipio'u cefnau 芒 darnau o famb诺 a gwydr wedi ei dorri.

    Un ohonyn nhw'n esbonio ei fod yn ceisio dangos esiampl i ffrindiau sy'n gaeth i gyffuriau.

    Sul y Pasg, ac ymuno a gorymdaith arall wrth iddi wawrio yn Santo Tomas.
    Delw o Iesu ar un lori, a'r Forwyn Fair ar un arall.

    Delw o Jiwdas yn cael ei losgi yn arddull Guto Ffowc.
    Rocedi'n gwneud iddo sbinio i bob cyfeiriad cyn i'w ben ffrwydro fel bom a'r dorf wrth ei bodd.

    Sul y Pasg yn dipyn mwy o sbort na dydd Gwener y Groglith ar ynysoedd y Philipinos!

    Ymlaen i Angeles City - y peth agosaf i'r uffern a ddisgrifir yn y Beibl.

    Tomen sbwriel anferth sy'n gartref i dlodion sy'n byw dan gynfas.

    Loriau'n cyrraedd yn gyson i arllwys eu llwythi a'r Philipinos yn crafu drwy'r budreddi i ganfod unrhyw beth o werth - gan gynnwys bwyd.

    Hyd yn oed fan hyn, mae yna fechgyn ifanc yn fflangellu eu hunain.

  • Eglwys y Drindod, Moscow

  • Defosiwn lle bu disgo
    Ymuno mewn gwasanaeth Uniongred.
    Y canu a'r llefaru yn yr hanner tywyllwch wedi dychwelyd i'r adeilad hwn a gafodd ei droi'n ddisgo dan y gyfundrefn Sofietaidd.

    Y Tad Mikhail Prokopenko'n dweud fod Eglwys Uniongred Rwsia nawr yn mynd o nerth i nerth - defosiwn y dorf yn yr eglwys yn sicr yn dyst i gryfder Cristnogaeth yn Rwsia.

  • Eglwys Garmelaidd Whitefriars, Dulyn

  • Ffoli ar Ffolant
    Y cyfan wyddwn i gynt am Ffolant oedd y cerdyn oedd byth yn cyrraedd!
    Rhyfedd felly, oedd sefyll wrth gist fechan yn yr Eglwys Garmelaidd hon yn Iwerddon, sydd, yn 么l yr Eglwys, yn cynnwys esgyrn Sant y Cariadon ei hunan.

    Creiriau'r seintiau yn bwysig i Babyddion, a'r eglwys yn llawn ar Chwefror 14.

  • Kulubi, Ethiopia

  • Y cleifion ynghyd
    Dros dri diwrnod, pentref bychan Kulubi yn nwyrain Ethiopia yn cael ei foddi gan ugain mil o bobl yn tyrru i eglwys Sant Gabriel.

    Welais i erioed y fath gasgliad o gleifion a thlodion - o'r dall i'r gwahanglwyfus -na chwaith y fath anhrefn dynol wrth i replica o Arch y Cyfamod gael ei gario o gwmpas yr Eglwys.

    Mae'r pererinion yma i ofyn i'r Sant am wyrth.

    Gabriel yw'r angel dorrodd y newyddion i'r Forwyn Fair y byddai'n rhoi genedigaeth i Iesu ac yn ystod y dathlu yn Kulubi mae mil o fabanod yn cael eu bedyddio, - a'r rhan fwyaf yn cael yr enw Gabriel!

  • Ffynnon Gwenfrewi, Treffynnon.

  • Rhywbeth i'r teulu
    Nid yw Ffynnon y Santes Gwenfrewi mor ddramatig a rhai o'r lleoliadau eraill yn y gyfres - nes i'r teulu gyrraedd.

    Un teulu estynedig o bymtheg o drafaelwyr Gwyddelig, pob un ohonyn nhw, o'r fam-gu i'r plentyn lleiaf, yn gorymdeithio yn eu dillad, dros eu pennau, i mewn i'r ffynnon oerllyd.

    Eu gwedd茂au gwlybion yn dyst i'r gred mewn gwyrthiau o hyd, yng Nghristnogaeth.

  • Catacwmau Rhufain

  • Olion dan ddaear
    O bosib y fynwent fwyaf - a'r fwyaf rhyfedd - yn y byd.

    Dan ddaear yn Rhufain, ar sawl llawr ac am ddegau o filltiroedd, y mae'r catacwmau.

    Yn yr ail a'r drydedd ganrif, dyma ble'r oedd Cristnogion yn claddu eu meirw - ac mae yna sgerbydau o hyd ar y silffoedd sy wedi eu naddu yn waliau'r twnelau tywyll.

    Dyma hefyd ble'r oedd Cristnogion yn cuddio rhag erledigaeth yr Ymerodraeth Rufeinig - a symbolau eu ffydd, a'u negeseuon cyfrin, yma o hyd; y pysgodyn, yr angor, y golomen, y winwydden.

  • Pont Milvia, Rhufain

  • Pontio dau gyfnod
    Dwi wedi gweld pontydd llawer mwy mawreddog - ond ddim mor hanesyddol a hon.

    Fan hyn, yn dilyn gweledigaeth wyrthiol, yn 312, yr aeth Cystennin i ryfel dan faner Crist.

    Fel diolch am ei fuddugoliaeth, daeth Cristnogaeth nid yn unig yn gyfreithlon, ond mewn amser hefyd, yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig.

    Trobwynt hollbwysig yn hanes y ffydd.

  • San Gimignano, yr Eidal

  • Celfyddyd dychryn
    Wedi rhyfeddu at y ffordd y mae Cristnogaeth wedi ysbrydoli cymaint o waith celf - ond yn San Gimignano y cefais y blas mwyaf arno.

    Ar waliau Eglwys y Collegiata mae ffresco a baentiwyd gan Tadeo di Bartolo sy'n dangos shwt y mae'r gosb yn uffern yn ateb y pechod ar y ddaear.

    Yn eu mysg, mae'r dyn oedd yn rhy hoff o arian yn gorwedd ar ei gefn ar y llawr a'r diafol yn carthu ceiniogau i mewn i'w geg.

    Roedd artistiaid Cristnogol yn llawn dychymyg pan oedd angen codi ofn ar bobl am uffern!

  • Capel Cildwrn, Ynys M么n

  • Beibl i bawb
    Yr Athro Densil Morgan yn esbonio shwt y mae'r capel ei hun yn dangos un o'r gwahaniaethau sylfaenol rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth.

    Dim delweddau na cherfluniau. Y canolbwynt yw'r pulpud a Beibl mawr arno.

    Dyma ble'r oedd Christmas Evans yn dod 芒'r Beibl yn fyw trwy ei bregethau tanllyd.

    Yn dilyn Diwygiad Martin Luther, gair Duw, yn yr ysgrythurau, oedd canolbwynt y ffydd Brotestannaidd.

  • Nevada, UDA

  • Neges yr angel
    Wedi dysgu am hanes cymhleth angylion yn un o'r eglwysi harddaf yn y byd - Santa Maria Maggiore yn Rhufain, dw'i yn Reno, Nevada sy'n rhyw fersiwn llai o Vegas.

    Ond mae yna ochr ysbrydol i'r dre bellach, diolch i Rona Hermann.
    Mae hi'n honni ei bod hi'n siarad ag un o'r angylion pwysicaf - Mihangel - ac yn cyhoeddi bwletin rheolaidd ganddo ar y we i filoedd o ddilynwyr.

    Caeodd ei llygaid a throsglwyddo neges bersonol imi gan y Sant ei hun...

  • Bryn y Groes, Lithwania

  • Mewn gwlad sy mor wastad - does dim llawer o fryniau yn Lithwania - mae rheswm arall pam y gallwch chi weld y bryn yma o bell.

    Arno mae miloedd ar filoedd o groesau o bob math - rhai wedi eu gwneud o blatiau rhifau ceir hyd yn oed.

    Tweli Griffiths Yn y Chwedegau roedd yr awdurdodau comiwnyddol yn chwalu'r croesau yn rheolaidd ond fe fydden nhw wastad yn dychwelyd.

    Mae'r symbol o wrthryfel yn erbyn gorthrwm bellach yn symbol o ddiolch am wedd茂au gafodd eu hateb.

    Ac ynghanol y goedwig hon o groesau mae tad a mam yn gosod un arall fel gweddi am iach芒d i'w mab, sy'n dioddef o lwcemia.

  • Yr Hagia Sophia, Istanbul

  • Adeilad anhygoel fu unwaith yn eglwys Gristnogol, wedyn yn fosg, nawr yn amgueddfa, ac yn dyst, yn y flwyddyn 1054, i'r rhwyg fawr gyntaf yn yr Eglwys Gristnogol.

    Y drysau anferth yn sgubo ar agor wrth i dri o lysgenhadon y Pab ddod i mewn a thaflu gorchymyn wrth yr allor - yn taflu holl boblogaeth y ddinas allan o'r Eglwys, gan selio'r rhwyg rhwng y Catholigion yn y gorllewin a'r Eglwys Uniongred yn y Dwyrain.


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy