|
|
|
Diwrnod Tlodi Byd Talu teyrnged i fanc sy'n helpu'r tlodion |
|
|
|
Disgrifiodd un o weithwyr Tearfund Ddydd Tlodi Byd fel cyfle i atgoffa'r gwledydd cyfoethog o addewidion a wnaed ganddynt droad y ganrif i ymgyrchu tuag at ddileu tlodi.
Yr oedd Dewi Arwel Hughes, ymgynghorydd diwinyddol i Tearfund, yn siarad ar Bwrw Golwg, Hydref 15, 2006, pryd y dywedodd fod i'r Cristion ddyletswydd arbennig yn hyn o beth.
Dyletswydd y Cristion "Mae cyfiawnder yn rhywbeth y dylem ni fel Cristnogion fod a wnelo ni ag o ac y mae ymladd yn erbyn tlodi'r byd yn rhywbeth y dylem ni fod yn ymwneud ag o," meddai.
"Fel Cristion, os yr ydw i yn gweld rhywun yn dioddef o newyn ac sydd heb ddigon o fwyd i'w fwyta ac sy'n marw yn ddianghenraid does dim eisiau athroniaeth fawr - dylai tosturi wneud rhywbeth inni fel Cristnogion sydd yn dilyn Gwaredwr sydd wedi dangos tosturi tuag atom ni. Fe ddylem ni ymateb, fe ddylem ni wneud rhywbeth am y peth," meddai.
Atgoffa'r arweinwyr Dywedodd fod ymgyrch lle gofynnwyd i bobl sefyll yn llonydd am un munud i nodi Dydd Tlodi Byd ar Hydref 17 yn un ffordd o atgoffa Cristnogion o'u dyletswyddau.
"Mae'r ymgyrch ddiweddaraf yn fodd i atgoffa yr eglwysi i atgoffa arweinwyr y byd o addewidion a wnaed ganddynt mewn cynhadledd ar drothwy'r mileniwm," meddai.
"Y dyddiad [i gyflawni yr hyn addawyd yn y gynhadledd] ydi 2015 ac yr ydym chwe blynedd i mewn i'r cyfnod erbyn hyn ac mae angen atgoffa'r bobl yma sydd wedi gwneud eu haddewidion,Beth am drio eu cadw nhw. Hwb bach [ydi hyn] i atgoffa pobl o beth wnaethon nhw ddweud oedden nhw'n mynd i'w wneud," meddai.
Banc y tlodion Yn ystod ei sgwrs talodd Dewi Arwel Hughes deyrnged hefyd i gynllun benthyciadau meicro sy'n cael ei weithredu ymhlith tlodion Bangladesh gan Fanc Grameen a sefydlwyd gan Dr Muhammad Yunus a enillodd Wobr Heddwch Nobel am ei waith.
"Mae Yunus wedi bod yn arloeswr aruthrol yn gwasanaethu'r tlawd.
"Does gan y tlodion ddim asedau i fynd at fanc i gael benthyciadau a beth wnaeth y Banc Grameen ond ffeindio ffordd i fenthyg arian i'r tlawd er mwyn eu helpu nhw ennill bywoliaeth iddyn nhw'u hunain.
"Maen nhw wedi arloesi'n aruthrol ac yn haeddu y wobr yma gan eu bod wedi rhoi benthyg i filiynau ar filiynau o dlodion heb unrhyw obaith cael benthyciad gan fanc cyffredin," meddai.
|
|
|
|
|
|
|
|
|