成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Ynys Enlli - lle i encilio Gwerth encilio
'Nid troi cefn yw encilio . . .'
  • Beth sy'n gwneud i rai pobl ddewis encilio o'u byw bob dydd am gyfnodau? Yn 么l un oedd ar fin treulio cyfnod ar Ynys Enlli nid ymgais i ddianc a throi cefn ar wegi'r byd yw encilio. I'r gwrthwyneb, yn wir:

    Meddai Nia Higginbotham, gweithwraig gymunedol, wrth y rhaglen radio Bwrw Golwg cyn cychwyn ar ei hencil hi ar Ynys Enlli:
    "Mae'n awydd i gymryd ysbaid o amser i feddwl am stad y byd ac am stad y greadigaeth ac am ni'n hunain a'n lle yn y byd.

    Ac mae hanes Enlli a'r ymdeimlad fod y Saint yno, mae'n si诺r, yn denu.

    "Dydw i erioed wedi bod yno [o'r blaen] ond mae rhai sydd wedi bod yn dweud ei fod yn rhoi modd i fyw ac yn help mawr i fedru dod n么l a wynebu bywyd."

    Dywedodd nad cyfle i ddianc rhag y byd yw hyn ond:
    "Dianc i fedru gwneud mwy o synnwyr . . . o'n lle ni yn y byd a beth ddylem ni fod yn ei wneud ac i weld posibiliadau natur ac yn fwy na hynny i weld posibiliadau pobl o gred a beth allwn ni wneud i adael ein marc ninnau ar y byd."

    Werth s么n am bwysigrwydd lle dywedodd:
    "Mae yna ymdeimlad yn aml fod llefydd yn sanctaidd ac yn sicr mae llefydd pellennig yn gadael i rywun ryfeddu at y greadigaeth ac yn rhoi rhyw bersbectif inni am ein lle . . . ac mor fach ydi llawer o'n pryderon personol yn llif hanes ac yng nghyfanwaith y greadigaeth."


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy