成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Anthony Crockett, Esgob Bangor Teyrngedau i Tony Crockett
'Cwmn茂wr da oedd yn siwtio pawb'
Disgrifwyd y Gwir Barchedig Anthony Crockett, a fu farw ddechrau Gorffennaf, fel cwmn茂wr da a oedd "yn fwy nag offeiriad" gan un o'i gyn blwyfolion.

Ar y rhaglen Bwrw Golwg ar 成人快手 Radio Cymru dywedodd Tim Evans o Gynwyl Elfed, lle bu Tony Crockett yn offeiriad plwyf; "Yr oedd yn fwy nag offeriad ond yn ffrind i'r teulu a'r ardal gyfan."

Fe'i disgrifiodd hefyd fel "cwmn茂wr da" yr oedd rhai o bob oed, gan gynnwys plant a phobl ifainc, yn meddwl y byd ohono.

"Yr oedd yn siwtio pawb ac yn tynnu pobl i'r eglwys," meddai.


Ar yr un rhaglen cyfeiriodd Meurig Llwyd, Archddiacon Bangor, at weledigaeth Tony Crockett o eglwys gynhwysol, agored.

"Yr oedd yn boen iddo weld carfanau yn gwrthod siarad 芒'i gilydd," meddai.

Fe'i disgrifiodd hefyd fel esgob a deithiodd i bob cwr o'r esgobaeth gan ymweld ag eglwysi "na welodd esgob ers blynyddoedd lawer" cyn hynny.

Yn ystod ei weinidogaeth dywed iddo fynd 芒'r eglwys at y bobl.

"A rhoi wyneb dynol iawn i'r esgob a'r weinidogaeth a mynd a hi allan at y bobl y tu hwnt i ffiniau'r eglwys," meddai.

Ychwanegodd y byddai ei stamp ar yr esgobaeth "yn arhosol".


Hefyd:



  • Teyrnged Patrick Thomas


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy