|
Yn ystod 2009, bydd nifer o deulu a ffrindiau'r diweddar Gwir Barchedig Anthony Crockett, a fu farw llynedd, yn cwblhau taith gerdded 300 milltir i goffau ei fywyd.
Dyma ddyddiadur ei ferch, Kate Crockett, o'r cymal cyntaf yn ystod mis Ebrill.
Diwrnod 1, Ebrill 13, 2009. Pontypridd - Merthyr Tudful
"Faint o bobl sy'n cerdded?" Dyna'r cwestiwn mae sawl un wedi'i ofyn dros yr wythnosau diwethaf.
Y gwirionedd yw nad oes gyda ni ddim syniad. Mae'r daith, a gynlluniwyd fel ffordd addas o goffau bywyd fy nhad, ei hoffter o gerdded a'i gariad at wahanol ardaloedd o Gymru, wedi tyfu ymhell y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol.
Felly, dyma ni'n griw annisgwyl o fawr o 25 o bobl yn ymgynnull yn Eglwys Sant Luc, Rhydyfelin, ar ddydd Llun y Pasg, yn barod am gymal cyntaf y daith.
Ymhlith y rhai ddaeth i ddymuno'n dda mae un o'r plwyfolion lleol a fu'n bresennol pan gafodd fy nhad ei ordeinio ym 1971. Heb fod nepell o'r eglwys mae'r Tudor Street lle cafodd Dad ei fagu am 18 mlynedd cyntaf ei oes ond does dim amser i oedi yno - mae 16 milltir o daith o'n blaenau.
Ar hyd yr afon 芒 ni i ganol Pontypridd ac at yr hen bont, ac mae'n addas aros yma gan fod casgliad o luniau o gampwaith pensaern茂ol William Edwards wedi cael y lle blaenaf ar wal ein t欧 ni ar hyd y blynyddoedd.
Cinio yn y Navigation House yn Abercynon ac yna yn ein blaenau ar hyd Taith Taf i Ferthyr Tudful.
Rhaid tynnu llun eto wrth basio Pont-y-gwaith - hen bont arall a adnewyddwyd yn y 1990au ac mae'n amlwg bod pontydd am gael lle blaenllaw yn ein ffotograffau o'r daith! Mae'n daith hyfryd , wledig, ac mae'n anodd credu nad ydym ond cam a naid oddi wrth yr A470.
Mae'n agos谩u at chwech o'r gloch wrth i ni gyrraedd eglwys Dewi Sant Merthyr Tudful - eglwys na f没m i ynddi ers y diwrnod hwnnw ddeng mlynedd yn 么l i'r wythnos hon pan briododd fy nhad 芒 Caroline yma.
Yn ddiweddar, ychwanegwyd cadeiriau moethus a chyfleusterau gwneud paned yng nghefn yr eglwys ac mae ein diolch yn fawr amdanyn nhw ar 么l diwrnod hir, blinderog.
Ymhlith y criw i gerdded bob cam mae Nema Edwards o'r Eglwys Newydd ger Cynwyl Elfed ac er ei bod wedi cyrraedd oed yr addewid mae'n edrych dipyn yn sioncach na fi ar ddiwedd y daith.
Bydd meddwl amdani'n ysbrydoliaeth ar sawl achlysur wrth i'r coesau simsanu yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Diwrnod 2, Ebrill 14. Dowlais - Aberd芒r
Taith fer oedd y bwriad heddiw - i lawr y bryn o Ddowlais, trwy Ferthyr, i fyny Heolgerrig a dros y top i Aberd芒r.
Pam felly ein bod wedi derbyn cyngor un nad oedd yn cerdded a cherdded yn hytrach tua'r gorllewin, i Bant ac ar hyd Taith Taf eto i Gefncoedycymer, ac yna ymlaen i Aberd芒r?
Dim ond yn ddiweddarach wnaethon ni sylweddoli bod hyn yn ymestyn ein siwrnai fer i 10 milltir. Bydd rhaid gwella'r sgiliau darllen map os am gyrraedd Bangor!
Buom yn byw yn Nowlais yn yr Wythdegau ond yn sicr doedd dim bwyty tapas yno bryd hynny fel sydd yna nawr.
Mae'n rhaid bod bwyd ar fy meddwl gan fod fy llygaid yn cael eu denu at siop "traditional fresh fruit and veg" - ac yn y ffenest yr arwydd "Pot Noodles - 50p" .
Rhaid cyfaddef bod y daith ddiwygiedig drwy'r Pant werth ei gwneud gyda llwybr coediog yn ein harwain tuag at draphont Cefncoedycymer cyn dringo bryn serth Heolgerrig a dros y mynydd i Aberd芒r.
Rydw i'n oedi am lun wrth ymyl t欧 teras ar gyrion y dref lle ces i fy magu am flwyddyn gyntaf fy oes, er nad oes gen i gof o hynny wrth gwrs - ac yna ymlaen am groeso a lluniaeth bendigedig yn Eglwys Sant Ioan, Aberd芒r.
Diwrnod 3, Ebrill 15. Aberd芒r - Pontneddfechan
Y bwriad gwreiddiol heddiw oedd cerdded ar hyd y ffordd fawr i Hirwaun a Phenderyn ond diolch i wybodaeth gan gyfeillion lleol fel Jill Escott, daw i'r amlwg bod llwybrau llawer mwy pleserus i'w cael ar hyd afon Cynon.
Er iddi addo glaw, unwaith eto heddiw rydym yn ffodus 芒'r tywydd, a'r unig siom ar y daith yw gweld cymaint o sbwriel sy'n anharddu rhannau o'r llwybr. Cyfarfod 芒 Ben sy'n gweithio i Cadw Cymru'n Daclus a chodi fy het i'r gwaith diddiolch o geisio cymoni tipyn ar yr ardal.
Cael fy rhyfeddu gystal llefydd i gerdded yw'r ardaloedd diwydiannol: hen lwybr rheilffordd sy'n arwain o Hirwaun i Benderyn, ac unwaith eto mae hon yn hawdd i'w dilyn ar droed neu ar gefn beic. Bydd rhaid dychwelyd i'r ardal eto i grwydro ar ddwy olwyn.
O Benderyn dros y mynydd i Bontneddfechan mae'n dipyn mwy gwledig. Roedd fy nhad wrth ei fodd yn crwydro'r ardal hon, yn enwedig y rhaeadrau enwog - Sgwd yr Eira, Sgwd Gwladys, Sgwd y Pannwr.
Dim rhyfedd felly ei fod hefyd yn hoff o aros am ginio yn yr Angel ym Mhontneddfechan, sef diwedd ein taith am heddiw. Cyrraedd am 2.31pm ond mae'r gegin yn fodlon aros ar agor yn ddigon hir i ni gael ein cinio diolch byth!
Diwrnod 4, Ebrill 16. Glyn-nedd i Langatwg
Cerdded ar hyd camlesi heddiw, gan gychwyn yn Eglwys Sant Cadog yng Nglyn-nedd a gorffen yn Eglwys Catwg - mae'r ddwy lythyren olaf yn bwysig wrth wahaniaethu rhyngddynt!
Dyma'r diwrnod hawsaf o ran cerdded gan nad oes bryn na llethr ar gyfyl y daith. Mynd heibio safle'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1994 - anodd credu bod 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i mi raddio'r flwyddyn honno.
Er i mi fod yn ddigon ffodus i grwydro Cymru cryn dipyn gyda fy ngwaith yn y blynyddoedd ers hynny, daw'n amlwg wrth gerdded cymaint o ardaloedd sy'n ddieithr o hyd, gan gynnwys rhaeadrau Aberdulais.
Eto, bydd yn rhaid dychwelyd ar adeg arall.
Ymuno 芒 Chamlas Tennant ym Masn Aberdulais, a'r enw yn dwyn i gof Winifred Coombe Tennant, aelod o'r teulu hwnnw fu'n noddi rhai o artistiaid gweledol mwyaf blaenllaw Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Ceisio peidio codi gwrychyn y ddau alarch sydd wedi codi gorsedd o nyth ar y gamlas.
Cyn cyrraedd Eglwys St Catwg, cyfle am un llun ar y bont dros y gamlas - un arall i ychwanegu at y casgliad.
Diwrnod 5, Ebrill 17. Abertawe - Rhosili
Heddiw yw'r diwrnod hiraf, mwyaf uchelgeisiol - a daeth y glaw. Mae'n pistyllio i lawr wrth inni gychwyn cerdded gyferbyn 芒 Sain Helen ond o leiaf mae hynny'n cyfiawnhau'r gwariant sylweddol ar ddillad tywydd gwlyb!
Petai'n heulog, dyma fyddai un o'r cymalau hyfrytaf ar y daith, ond gan mai yn yr ardal hon y b没m yn ymarfer ar gyfer y daith, o leiaf rwy'n gyfarwydd 芒 gweld golygfeydd ysblennydd penrhyn G诺yr ar eu gorau.
Deunaw milltir yw'r nod heddiw ac er gwaethaf pob bwriad nid ydw i wedi llwyddo i gerdded taith o'r hyd yna wrth ymarfer, felly cael a chael fydd hi a fydd y coesau a'r traed yn fodlon fy nghludo i'r holl ffordd i Rosili.
Ond wrth odre Cefn Bryn, y mynydd hir sydd yn rhedeg fel asgwrn cefn i lawr y penrhyn, gweld y wennol am y tro cyntaf eleni - rhaid bod hyn yn arwydd o obaith! Teimlo trueni drosti os mai heddiw mae'r peth bach wedi cyrraedd o Affrica - go brin fod hwn yn dywydd croesawgar.
Wrth ddynesu at Rosili mae'r niwl yn codi, ac mae'r ffaith bod criw ifanc yn eu harddegau wedi ymuno yn hwb a dweud y lleiaf.
Ac wrth i Ben Pyrod ddod i'r golwg yn y m么r o'n blaenau, mae gan y peiriant GPS syrpreis i ni - 19.3 milltir oedd y daith heddiw! Teimlo pob cam o'r '.3' olaf i mewn i Rosili, a phenderfynu ein bod yn rhy flinedig i aros am ddiod yn y Worm's Head, lleoliad un o fy hoff hysbysebion teledu erioed.
Hysbyseb gan y Bwrdd Croeso oedd hon, yn dangos dau Gymro yn mwynhau diod wrth i'r haul fachlud y tu allan i'r dafarn, a thraeth Rhosili'n ymestyn am filltiroedd dilychwyn islaw. "Mae Dai wedi mynd ar wyliau..." meddai un wrth y llall, "... dramor." Un gair yw ateb ei ffrind. "Pam?"
Diwrnod 6, Ebrill 18 . Llanmadog - Tre-g诺yr
Pe bai'r tywydd fel mae hi heddiw yn amlach, go brin y byddai'r un ohonom am grwydro ymhellach na Chymru am ein gwyliau byth eto. Peidiodd y glaw a daeth yr haul i wenu ar arfordir gogledd G诺yr, a mynyddoedd Shir G芒r ochr draw'r aber.
Ar 么l crwydro llefydd cyfarwydd ddoe, dyma'r daith fwyaf anghyfarwydd hyd yma, ac ymhen llai nag awr mae'r criw, yn cynnwys tair o fy ffrindiau ddaeth i gefnogi, ar goll yn y gors wrth geisio dilyn llwybr ar hyd y forfa.
Rhaid gosod y bai ar y person sydd yng ngofal y map - ie fi! Sori ferched.
Diolch byth, daw'r llwybr yn 么l i'r golwg wrth odre Castell Weble, ac mae'r daith i Lanrhidian yn ddidrafferth o hynny allan. Saib am ginio yn y pentref prydferth hwn, a chyfle i freuddwydio am fyw ar lannau afon Llwchwr.
Erbyn hyn mae ymdrechion ddoe yn dweud ar y coesau, a llusgo mae'r saith milltir olaf i Dre-g诺yr . Mae'n si诺r y dylwn deimlo balchder wrth gwblhau 75 milltir cyntaf ein taith grwydrol tua Bangor - ond am y tro, dim ond hufen i芒, bath twym a gwydryn o win sydd ar fy meddwl. Diolch o galon i bawb a ymunodd ar hyd y daith - a'r degau yn rhagor sydd wedi cyfrannu at yr achos.
Mae'r daith yn codi arian at yr elusen
Prostate Cancer Research Foundation -
Bydd Kate yn ailafael yn ei thaith Mai 26-30, 2009.
Prif ddalen y teithiau.
|
|