Bu'r seiciatrydd o Gaerdydd yn trafod y syniad fod yna un rhan benodol o'r ymennydd sydd yn ymwneud yn llwyr 芒 chred mewn duw.
Ond ar ddiwedd wythnos pan gyhoeddodd papur newydd fod gwyddonwyr wedi dod o hyd i'r hyn oedd yn cael ei alw yn God Spot dywedodd y Dr Dafydd Huws mai camddeall sut mae'r ymennydd dynol yn gweithio yw dweud hynny a honni bod lle penodol yn yr ymennydd dynol sy'n ymateb i'r ymwybyddiaeth o Dduw.
Lle allweddol
Ond fe ddywedodd bod i gred mewn Duw le allweddol mewn esblygiad.
"Mae'n amlwg bod cred a'r ymddygiad crefyddol yn hollbresennol yn y ddynoliaeth ar draws y byd trwy bob oes ac mae wedi cwmpasu pob diwylliant a phobloedd drwy hanes felly mae o'n rhywbeth sy'n wirioneddol ddwfn ynom ni ac mae ymchwil ddiweddar wedi dangos fod sail niwrolegol iddo fe yn yr ystyr fod yr ymennydd fel pe tai wedi cael ei galed wifro - hard wired - i fod yn gyfrwng i fynegi ymddygiad crefyddol," meddai.
"Dydw i ddim yn lecio'r syniad yma o God spot achos y mae'n camddeall y ffordd y mae'r ymennydd yn gweithio.
"Does yna ddim Un lle mewn teledu na chyfrifiannell na dim byd sydd yn dangos sut mae e'n gweithio [ond yn hytrach] mae yna rwydweithiau trydanol rhwng amryw ardaloedd yn yr ymennydd sydd yn sylfaen niwrolegol ac mae'r rheini yn bod yn yr ymennydd fel pe bydden nhw yn sail i'r ymddygiad crefyddol yma a dyna pam dwi'n meddwl bod ymddygiad crefyddol a chred mewn bod dwyfol mor greiddiol i'r ddynoliaeth," meddai.
Angen cred? Wrth ymateb i'r cwestiwn a ydym angen rhyw fath o fath o gred dywedodd:
"Mae'n debyg o ddefnyddio dulliau sganio diweddar fel MRI - lle mae'r ymennydd yn goleuo i fyny pan yw'n cael ei ddefnyddio - fod yr un cylchredau yn cael eu defnyddio mewn unigolion, beth bynnag fo'u crefydd nhw - ac mewn anffyddwyr hefyd os ydyn nhw'n trafod syniadaeth foesol.
"A hefyd pan fo pobl grefyddol yn meddwl am Dduw neu syniadau yn ymwneud 芒 Duw mae'r un cylchredau yma yn gweithio ac mae hynny yn fy arwain i ofyn y cwestiwn beth sydd wedi digwydd yn ystod esblygiad i greu y llwybrau a'r patrymau yn yr ymennydd sydd fel petai yn gwella ein siawns ni o oroesi achos mae'n debyg bod pob peth sydd wedi datblygu ynddon ni a rhyw bwrpas iddo fe."
Gwella'n siawns o oroesi Dywedodd fod hyn yn codi'r cwestiwn a yw'r ymennydd wedi esblygu i fod yn sensitif i rhyw ffurf o gred oherwydd bod hynny'n gwella'n siawns ni o oroesi.
"Fy namcaniaeth bersonol i yw fod hyn wedi esblygu i'n helpu ni ddygymod ag ymwybyddiaeth sef y ffenomenon yma o ymwybyddiaeth neu consciousness.
"Mae bron yn sicr mai ni yw'r unig fodau sy'n meddu ar ymwybyddiaeth - sef y gallu i fod yn ymwybodol o'n bodolaeth - yn arbennig ym myd amser.
"Meddyliwch fod creaduriaid eraill yn byw eu bywyd i gyd o dan dd诺r a'r d诺r hwnnw ddim yn rhyw glir iawn - maen nhw'n methu gweld yn 么l nac ymlaen ac ar un olwg mae hwnna yn gyflwr cymharol . . . wag o bryder.
"Ond yr ydym ni ddynoliaeth yn unigryw a'n pennau fe pe bydden[t] allan o'r d诺r ac yn medru gweld yn 么l ac ymlaen.
"Ac yr ydym yn unigryw, ein bod yn ymwybodol o'n bodolaeth ym myd amser ac yn arbennig yn ymwybodol o'n meidroldeb ni a'n marwolaeth ni a'n tranc yn y dyfodol felly gyda'r holl fanteision sy'n dod o ymwybyddiaeth mae yna faich o bryder.
"Y pris ydym ni'n ei dalu am ymwybyddiaeth ydi'r pryder defodol parhaus yma. Dyma'n theori fach i," meddai gan holi:
"A felly tybed a yw'r dueddfryd grefyddol a'r rhwydweithiau niwrolegol sydd yn sail i grefyddoldeb yn yr ymennydd wedi esblygu yn yr ymennydd i wella'n siawns ni o oroesi yn wyneb y pryder yma sydd yn cyd-fynd ag ymwybyddiaeth?"
Yn gweithio i bawb Ychwanegodd mai un o'r pethau mwyaf trawiadol yngl欧n 芒'r ymchwil yw bod y rhwydweithiau ymenyddol yn gweithio beth bynnag fo crefydd yr unigolyn sy'n cael ei arbrofi a hefyd gydag anffyddiwr a bod hynny'n cefnogi syniad sydd ganddo ef fod crefyddau'r byd i gyd yn bodloni anghenion y bobloedd hynny fel pe byddai pawb yn dringo yr un mynydd o wahanol gyfeiriadau.
|