成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Archif Crefydd

Safle Newydd



成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon
Rhodri Morgan Dealltwriaeth rhwng crefyddau
Rhodri Morgan yn ymuno 芒 dathliadau Diwali 2008
Ffurfio fforwm rhwng y gwahanol grefyddau yw "un o'r pethau gorau" a wnaeth y Cynulliad yn 么l prif weinidog y llywodraeth yng Nghaerdydd.

Dywedodd Rhodri Morgan hyn mewn sgwrs gyda John Roberts ar y rhaglen radio Bwrw Golwg wedi iddo ymuno 芒 dathliadau 'Diwali' mewn teml Hind诺aidd yng Nghaerdydd.


Wedi Efrog Newydd
"Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r eglwysi a'r capeli a'r ffyddoedd gwahanol ac ar 么l beth ddigwyddodd yn Efrog Newydd saith mlynedd yn 么l roeddem wedi ffurfio'r fforwm rhwng y ffyddoedd a dwi'n meddwl mai dyna un o'r pethau gorau rydym ni wedi wneud fel Cynulliad," meddai.

"Yr ydw i'n cofio'r Archesgob Rowan Williams, Archesgob Cymru ar y pryd, yn dweud ei fod yn ddatblygiad pwysig dros ben achos lan at i ni ffurfio y fforwm doedd ef ddim ar restr - a doedd neb arall ar restr - rhifau teleffon y ffyddoedd gwahanol yng Nghymru fel tase rhywbeth yn tasgu m芒s o ryw gasineb rhwng pobl o ffydd gwahanol fydden nhw ddim yn gallu ffonio'u gilydd ar frys er mwyn dweud , 'Rydym ni'n gorfod tawelu pethau i lawr, beth allwn ni wneud, allwn ni gyfarfod?'" meddai.

Dywedodd iddo ymuno 芒 g诺yl Diwali - g诺yl goleuni a chyfoeth yr Hindwiaid - oherwydd ei deimlad ei bod yn bwysig dathlu gwyliau gwahanol rannau amrywiol o'n cymdeithas.

Traddodiadau eraill
"Oherwydd yr eironi mawr am Gymru yw bod yna ar un ochr hen ddiwylliant a threftadaeth gyda ni ac yr ydym yn ymfalch茂o yn naturiol - yn enwedig ar 么l datganoli - ein bod ni'n gyfrifol am edrych ar 么l yr hen dreftadaeth , yr iaith a'r Eisteddfod, llenyddiaeth a chanu yn y steil Gymreig a Chymraeg ac ar yr un pryd rydym yn gorfod cofio mai gwlad gosmopolitanaidd yw Cymru achos bod y chwyldro diwydiannol wedi dod 芒 phobl o bob cormel o'r byd i mewn i Gymru," meddai.

Nid yn 'ddyn crefyddol'
Ond dywedodd na fyddai yn disgrifio ei hun fel "dyn crefyddol":
"Fe gefais i gefndir cryf iawn yng nghapeli Caerdydd a gwaelod y garth ac Ynys Tawe . . . ac maen nhw'n parhau i ddylanwadu arnaf fi [ac] yn rhan o nghefndir ac yn rhan o'r pethau sydd wedi ffurfio fy holl safbwynt a'm safiad i tuag at gymdeithas - ond dydw i ddim yn un sy'n grefyddol nawr," meddai.

"[Ond] dydw i ddim yn erbyn crefydd," ychwanegodd.

Pwysleisiodd yn ystod y sgwrs bwysigrwydd creu dealltwriaeth rhwng dilynwyr gwahanol draddodiadau a chrefyddau gan ddweud ei bod yn bwysig galluogi lleiafrifoedd ddod at ei gilydd "er mwyn dathlu ac er mwyn dangos balchder ac er mwyn dangos nad ydyn nhw'n mo'yn colli y traddodiadau yna er eu bod nhw'n byw nawr mewn lle ac mewn gwlad arall," meddai.

Croesawu
"A beth sy'n bwysig i ni yw i ddweud wrthyn nhw ein bod ni'n croesawu'r ffaith eu bod nhw'n cadw eu traddodiadau diwylliannol a chrefyddol a ieithyddol ochr yn ochr 芒'n cymdeithas ni - bod y lleiafrifoedd a'r mwyafrifoedd yn gallu gweithio er mwyn ffurfio cymdeithas . . . sydd yn iach oherwydd bod pawb yn parchu ei gilydd," meddai.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy